Newyddion

  • Cyfle ariannu: Ysgoloriaethau PhD ADR UK

    Cyfle ariannu: Ysgoloriaethau PhD ADR UK

    Mae YGGCC yn falch o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Ysgoloriaethau ADR UK. Mae’r cyfle ariannu hwn yn gwahodd goruchwylwyr ymchwil PhD sydd ar Lwybrau YGGCC i gyflwyno cynigion prosiectau. Mae Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK) yn gwahodd ceisiadau gan Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i gynnal carfan o ysgoloriaethau…

  • Cynrychiolwyr Clwstwr YGGCC – Galwad am Geisiadau

    Cynrychiolwyr Clwstwr YGGCC – Galwad am Geisiadau

    Dyddiad Cau Cais: 17/02/2026 Cyflwynwch eich cais nawr i fod yn un o Gynrychiolwyr Clwstwr YGGCC!  Mae’r rôl hon yn hanfodol bwysig i YGGCC ac yn cynnig sianel ar gyfer sylwadau/syniadau gan fyfyrwyr eraill a ariennir gan YGGCC ar draws ysgolion a llwybrau academaidd. Bydd y rôl yn cynnwys gwaith sy’n seiliedig ar brosiectau i lywio a datblygu YGGCC a byddwch yn mynychu a chymryd…

  • Cynhadledd WISERD 2025 – Sesiwn ymchwilwyr newydd ac enillwyr gwobrau 

    Cynhadledd WISERD 2025 – Sesiwn ymchwilwyr newydd ac enillwyr gwobrau 

    Cynhaliwyd Cynhadledd WISERD 2025 ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 30 Mehefin a 1 Gorffennaf gyda dros 120 o ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Roedd WGSSS yn falch o gydweithio â Chymdeithas Ddysgedig Cymru i noddi gwobrau cyflwyniadau cynhadledd WISERD: Papur Ymchwilydd Newydd Gorau a Sgwrs Sydyn Orau.  Dechreuodd y gynhadledd gyda sesiwn newydd…

  • Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru

    Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru

    Mae YGGCC yn falch o gynnig 4 cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau fel y’i nodir yn y disgrifiadau prosiect isod. Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau yn ystod Haf/Hydref 2025 am gyfnod o 3-6 mis (ar sail amser llawn neu am gyfnod cyfwerth…

  • Gwyddoniaeth Dinasyddion: Gwreiddiau a Changhennau gan Chloe Griffiths 

    Gwyddoniaeth Dinasyddion: Gwreiddiau a Changhennau gan Chloe Griffiths 

    Mae Chloe Griffiths yn fyfyrwraig PhD a ariennir gan WGSSS sy’n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y Llwybr Daearyddiaeth Ddynol. Mae ei thesis, sy’n dwyn y teitl “Community Participation in Biological Recording: An Ethnography of Citizen Science,” yn archwilio ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gasglu data gwyddonol. Teithiodd Chloe i Copenhagen i…

  • Datgelu Cyflwyniadau Fflach: Sut i Ymgysylltu a Chreu Argraff mewn Llai na Thri Munud

    Datgelu Cyflwyniadau Fflach: Sut i Ymgysylltu a Chreu Argraff mewn Llai na Thri Munud

    Bydd Arweinydd Hyfforddiant YGGCC, Dr Peter Wootton Beard, yn trafod y syniad o gyflwyniad fflach ac yn rhannu ei 10 awgrym ar gyfer cynnal cyflwyniad fflach llwyddiannus. Beth yw cyflwyniad fflach? Mae cyflwyniadau fflach yn fyr ac yn gryno, a byddant fel arfer yn dod i ben wedi tair munud. Yn aml iawn, bydd angen…

  • Pwpilometreg, Agweddau Iaith, a Thaith i Mannheim gan Dan Strogen

    Pwpilometreg, Agweddau Iaith, a Thaith i Mannheim gan Dan Strogen

    Fel sy’n digwydd yn aml mewn ymchwil, nid oedd fy narganfyddiad o bwpilometreg yn gynllun bwriadol, ond yn hytrach damwain ffodus. Yn 2024, wrth ddilyn fy ngradd meistr mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol, mynychais gynhadledd EuroSLA – y Gynhadledd Ymchwilwyr Caffael Ail Iaith Ewropeaidd – a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Montpellier. Yno, ochr yn ochr â’m darpar…

  • Lansio Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru

    Lansio Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru

    Cafodd Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ei lansio mewn digwyddiad arbennig a gafodd ei gynnal yn Senedd Cymru yng nghwmni’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, gan gynnwys partneriaid strategol ac arweinwyr academaidd. Mae YGGCC, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, yn un o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol sy’n rhan…

  • Fy Interniaeth gydag Amgueddfa Cymru gan Susannah Paice

    Fy Interniaeth gydag Amgueddfa Cymru gan Susannah Paice

    Dyma fyfyrwraig PhD YGGCC, Susannah Paice, yn ysgrifennu am ei lleoliad gydag Amgueddfa Cymru. Pam wnaethoch chi gais am interniaeth gydag Amgueddfa Cymru? Yn ystod y Gwanwyn y llynedd, roeddwn i’n cyrraedd y pwynt yn fy ymchwil PhD lle roedd cael seibiant yn gwneud synnwyr i mi. O ystyried bod y broses gychwynnol o gasglu…

  • Fy interniaeth 6 mis gyda Cadw (fel rhiant i ddau blentyn ifanc yng nghanol Cymru) gan Kirsty Usher

    Fy interniaeth 6 mis gyda Cadw (fel rhiant i ddau blentyn ifanc yng nghanol Cymru) gan Kirsty Usher

    Dyma fyfyriwr PhD YGGCC, Kirsty Usher, yn ysgrifennu am ei lleoliad 6 mis gyda’r Cadw. Rwy’n ysgrifennu hwn gyda’r gobaith o annog unrhyw un sydd, fel yr oeddwn i, ddim yn siŵr a yw’r interniaeth a ariennir gan ESRC ar eu cyfer. Fy sefyllfa i yw fy mod yn fyfyriwr aeddfed ac yn fam i…

  • Fy interniaeth yn Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru gan Isabel Lang

    Fy interniaeth yn Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru gan Isabel Lang

    Dyma fyfyriwr PhD YGGCC, Isabel Lang, yn ysgrifennu am ei lleoliad tri mis gyda’r tîm ymchwil Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Ymchwil y Senedd Rwy’ bob amser wedi rhoi pwys ar interniaethau a’u pwysigrwydd o ran cynnig cyfleoedd i rwydweithio, magu hyder a gwydnwch, a dysgu sgiliau newydd   Dechreuodd fy angerdd tuag at ymchwil…

  • £18.5 miliwn wedi’i ddyrannu i Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru

    £18.5 miliwn wedi’i ddyrannu i Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru

    Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn un o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid. Mae’r buddsoddiad mewn partneriaethau hyfforddiant doethurol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’w weledigaeth newydd sy’n adlewyrchu canfyddiadau’r Adolygiad o PhD yn y Gwyddorau…

  • Adroddiad Katharine Young yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru

    Adroddiad Katharine Young yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru

    Yn ddiweddar, cwblhaodd Katharine Young interniaeth yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, lluniodd adroddiad o’r enw ‘Addysg cyfrwng Cymraeg yn sgîl trochi hwyr: mapio’r ddarpariaeth yng Nghymru‘ (cliciwch ar y teitl glas i weld yr adroddiad) sydd bellach ar gael ar wefan y Llywodraeth. Crynodeb Katharine o’r adroddiad: Mae addysg drochi hwyr yn…

  • Pum awgrym i wneud eich cais am interniaeth doethuriaeth yn llwyddiant

    Pum awgrym i wneud eich cais am interniaeth doethuriaeth yn llwyddiant

    Helô, Jodie ydw i, ymchwilydd doethuriaeth trydedd flwyddyn (aaah!) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy nhraethawd ymchwil yn ymchwilio i effaith a niwed/niweidiau iaith casineb wrth-LGBTI+ ar-lein. Roedd fy interniaeth yn swydd tri mis a ariannwyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn Llywodraeth Cymru (Ionawr–Ebrill 2021), a rhoddwyd y…

  • Myfyrdodau ar Interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

    Myfyrdodau ar Interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

    Yn y blog hwn, mae Aimee Morseyn trafod ymgymryd ag interniaeth yn ystod eich PhD. Dod o hyd i interniaeth Mae nifer o interniaethau ar gael gyda sefydliadau amrywiol. Mae’r DTP yn gweithio’n benodol mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi datblygu cyfleoedd interniaeth ac mae UKRI yn rhedeg rhaglenni interniaeth mewn…

  • Rebecca Windemer: Fy 5 awgrym gorau ar gyfer dylunio ac ymgymryd â chymrodoriaeth ôl-ddoethurol ESRC

    Rebecca Windemer: Fy 5 awgrym gorau ar gyfer dylunio ac ymgymryd â chymrodoriaeth ôl-ddoethurol ESRC

    Mae’r farchnad swyddi ôl-PhD yn heriol ac yn gwbl ddigalon. Erbyn i mi orffen fy PhD, roeddwn wedi colli hyder ynof fy hun ac yn fy ymchwil. Roeddwn i wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn ceisio am nifer mawr o swyddi ôl-ddoethurol, weithiau’n cyrraedd cyfweliad ond byth yn cael y swydd. O ganlyniad, bu bron…

  • Interniaethau Ellen Bristow ac Amy Simpson gyda Llywodraeth Cymru

    Interniaethau Ellen Bristow ac Amy Simpson gyda Llywodraeth Cymru

    Rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2021, roedd Ellen ac Amy yn gweithio fel Interniaid Ymchwil Polisi Addysg i Lywodraeth Cymru. Yn yr erthygl blog hon, maent yn rhannu eu profiadau o ymgymryd ag interniaethau fel rhan o’u hyfforddiant doethuriaeth. Pam wnaethoch chi gais am interniaeth gyda Llywodraeth Cymru? Ellen: Fel oedd yn wir i…

  • Interniaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – Aimee Morse

    Interniaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – Aimee Morse

    Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2021, bu myfyriwr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol, Aimee Morse (Cynllunio Amgylcheddol, Prifysgol Swydd Gaerloyw). yn ymgymryd ag interniaeth gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan weithio ar brosiect o’r enw ‘Cydweithio a gweithredu polisi ar lefel leol yng Nghymru: gwerthusiad astudiaeth achos o grŵp ffermwyr yng Ngogledd Cymru’.  Dyma fyfyrdodau…

  • Ymchwil Nicola Heady ar COVID-19 a phlant o dan ofal

    Ymchwil Nicola Heady ar COVID-19 a phlant o dan ofal

    Gofynnom ni i’n myfyrwyr yn ddiweddar am ymchwil sy’n berthnasol i COVID-19. Cysylltodd Nicola Heady â ni i roi gwybod am ei phrosiect: Mae iechyd meddwl da a chyflawniad addysgiadol i bob plentyn yn y DU yn flaenoriaethau i’r llywodraeth. Mae cyflawniad y deilliannau hyn yn galluogi ac yn grymuso plant i bontio rhwng rhwydweithiau…

  • Joey Soehardjojo wedi ennill gwobr am y LERA ‘Traethawd Gorau’

    Joey Soehardjojo wedi ennill gwobr am y LERA ‘Traethawd Gorau’

    Mae Joey Soehardjojo, sy’n gymrawd ôl-ddoethurol gyda PHD Cymru, wedi ennill Gwobr Thomas A. Kochran a Stephen R. Selight am y ‘Traethawd Gorau’, gan y Gymdeithas Lafur a Chyflogadwyedd (LERA). Ymgymerodd Joey a’i gymrodoriaeth yn Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau ei PhD yn Ysgol Busnes Warwick. Ei draethawd yw Knowledge and HRM Practice…

  • Ymchwil Dysgu yn yr Awyr Agored yn Mynd yn Fyd-eang

    Ymchwil Dysgu yn yr Awyr Agored yn Mynd yn Fyd-eang

    Mae ymchwil gan Ymchwilydd PHD Cymru, Emily Marchant (Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Abertawe), ar fanteision dysgu yn yr awyr agored wedi cael ei gyhoeddi gan gyfryngau ar draws y byd.   Canfu’r astudiaeth fod awr neu ddwy o ddysgu yn yr awyr agored bob wythnos yn ennyn diddordeb plant, yn gwella’u llesiant ac yn cynyddu boddhad athrawon…

  • Myfyriwr PHD Cymru yn ennill Thesis Tri Munud Prifysgol Abertawe

    Myfyriwr PHD Cymru yn ennill Thesis Tri Munud Prifysgol Abertawe

    Llongyfarchiadau i Darren Scott, myfyriwr PHD Cymru (yr Economi Ddigidol a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe), enillydd Thesis Tri Munud (3MT) Prifysgol Abertawe yn yr Arddangosfa Ymchwil Ol-raddedig flynyddol.   Cafodd Darren dri munud yn unig i grynhoi ei ymchwil mewn ffordd ddiddorol, a soniodd am sut gellid mynd i’r afael â segurdod trwy ddefnyddio apiau ffitrwydd a…

  • Penodi John Harrington yn Gyfarwyddwr PHD Cymru

    Penodi John Harrington yn Gyfarwyddwr PHD Cymru

    Mae PHD Cymru wrth eu bodd yn cyhoeddi bod yr Athro John Harrington wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr newydd arno. John yw Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd. Wrth ymateb i’r penodiad, dywedodd John, mae’n fraint cael bod yn gyfarwyddwr ar PHD Cymru ESRC. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr…