Gwobr Effaith YGGCC 

Mae’r wobr hon, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i gydnabod a gwobrwyo myfyrwyr ymchwil a ariennir gan YGGCC sydd wedi creu neu alluogi effaith, ymgysylltiad a chydweithrediad rhagorol. 

Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil presennol YGGCC a all ddangos bod eu prosiect, neu y bydd eu prosiect, o fudd gwirioneddol, amlwg i bobl, sefydliadau, cymunedau, neu’r gymdeithas ehangach, yn unol â diffiniad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o effaith

  • Rhaid i’r effaith fod yn gyfraniad dangosadwy y mae ymchwil ragorol yn ei wneud i gymdeithas a’r economi, gan gynnwys buddion i unigolion, sefydliadau, neu genhedloedd.  
  • Gall yr effaith fod yn academaidd, economaidd, neu’n gymdeithasol, ar yr amod bod tystiolaeth glir i’w chefnogi.  
  • Effaith gyfrannol – dylanwadu ar bolisi, ymarfer, gwasanaethau, deddfwriaeth, neu ymddygiad.  
  • Effaith gysyniadol – mynegi dadleuon mewn ffordd wahanol, gwella dealltwriaeth o faterion.  
  • Meithrin galluedd – datblygu sgiliau technegol neu bersonol ymhlith cyfranogwyr, defnyddwyr, neu gymunedau.  

Newid neu fudd i gymdeithas a’r economi, neu rhywbeth sy’n cael effaith arnynt. Mae hyn yn cynnwys newid cadarnhaol i weithgarwch, ymwybyddiaeth, ymddygiad, capasiti, cyfle, perfformiad, polisi, arferion, proses neu ddealltwriaeth buddiolwyr allweddol.  

 Y cyfraniad academaidd cadarnhaol y gall ymchwil ragorol ei wneud i ddeall a hyrwyddo dull neu ddamcaniaeth wyddonol ar draws disgyblaethau. Er enghraifft, gallai ymgeiswyr gyflwyno cais yn seiliedig ar ymchwil gradd doethur, Ymweliad Sefydliadol Tramor, neu brosiect arbennig megis cydweithrediad traws-sefydliadol. 


  • Yn gynulleidfa nad yw’n academaidd, cymuned, etholaeth, sefydliad neu unigolion.  
  • Yn gynulleidfa academaidd, cymuned, neu gonsortiwm.   
  • Wedi eu lleoli yn lleol, yn rhanbarthol neu’n rhyngwladol. Er bod yn rhaid i fyfyrwyr YGGCC fod wedi eu cofrestru mewn Prifysgol YGGCC i fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth hon, gall eu heffaith fod yn unrhyw le yn y DU neu dramor. 

Drwy wneud cais, byddwch yn gallu:

  • Cryfhau eich gallu i nodi ac esbonio effaith eich ymchwil 
  • Cymryd amser i werthfawrogi’r cyfraniadau ystyrlon yr ydych chi’n eu gwneud 
  • Cyllid o £500 i gyflawni eich effaith, neu ei ddatblygu ymhellach, yn dibynnu ym mha gategori yr ydych yn ymgeisio 

Mae myfyrwyr ymchwil a ariennir gan YGGCC, sydd o fewn y cyfnod a gaiff ei ariannu o’u dyfarniad, yn gymwys i wneud cais.