Mae cynadledau blynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn denu cydweithwyr o bob rhan o’r sectorau academaidd, polisi, sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru; ac mae wedi ennill ei phlwyf fel cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru.
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 dros ddau ddiwrnod (Dydd Llun 30 Mehefin a Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025) ym Prifysgol Aberystwyth.
Rydym yn gweithio’n agos â’n cydweithwyr yn WISERD wrth gynllunio cynadleddau, sy’n cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr doethurol gyflwyno papurau, rhoi cynnig ar gystadlaethau a phroffilio agweddau eraill ar eu gwaith mewn cyd-destun bywiog a chefnogol. Rydym hefyd fel arfer yn cyfrannu sesiwn hyfforddi.
Rydym yn annog holl fyfyrwyr YGGCC i fynd i’r digwyddiad blynyddol pwysig hwn.
Thema cynhadledd eleni yw ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o bregethu a pholareiddio’.
Mae’r thema ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yn rhoi sylw i bryderon cyffredinol ynghylch rôl cymdeithas sifil mewn cyfnod o anfodlonrwydd a newid cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025.
Galwad am Bapurau – Ymchwilwyr Newydd i gynnal Cyflwyniadau Fflach
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 30 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025. Bydd diwrnod cyntaf y gynhadledd yn cyflwyno sesiynau ymchwilwyr newydd, gan gynnwys cyflwyniadau fflach fydd yn para 3 munud.
Beth yw cyflwyniad fflach? Darllenwch ein 10 arfer da am ysgrifennu cyflwyniad fflach ar wefan YGGCC.
Bydd tocyn llyfr yn cael ei roi ar gyfer Cyflwyniadau ar Bapur Ymchwilwyr Newydd a Chyflwyniadau Fflach gan Ymchwilwyr Newydd. Mae’r tocynnau wedi’u noddi gan Rwydwaith ECR Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac YGGCC.
Rhaid cyflwyno crynodebau ar gyfer cyflwyniadau fflach 3 munud i WiserdAnnualConference@caerdydd.ac.uk gan ddefnyddio’r templed profforma atodedig. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich crynodebau yw 9.00 y bore, dydd Mercher 30 Ebrill 2025.