Ynglŷn ag Ymchwil ar Waith
Mae Ymchwil ar Waith, o fis Hydref 2024 ymlaen, yn rhan graidd o’r PhD ar gyfer pob myfyriwr newydd sy’n derbyn ysgoloriaethau ESRC yn Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC). Mae Ymchwil ar Waith yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn profiadau datblygu ymarferol, gan gynnwys lleoliadau o fewn sefydliadau academaidd neu anacademaidd. Mae’n rhan annatod o’ch taith PhD, a gynlluniwyd i wella eich sgiliau ymchwil a phroffesiynol mewn cyd-destunau newydd.
Amcanion
Mae’r lleoliad Ymchwil ar Waith wedi’i gynllunio i’ch helpu i:
- Datblygu sgiliau craidd, proffesiynol a throsglwyddadwy
- Cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigedd methodolegol mewn cyd-destunau amrywiol
- Cael effaith yn gynnar yn eich gyrfa academaidd neu broffesiynol drwy fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn
Gall buddion ychwanegol gynnwys y canlynol:
- Adeiladu rhwydweithiau proffesiynol
- Ennill profiad mewn entrepreneuriaeth ac arloesi
- Cyfrannu at ddatblygu polisïau
- Gwella sgiliau ymgysylltu â’r cyhoedd

Proses Cam wrth Gam

Barod i ddechrau eich taith lleoliad? Cliciwch y saeth wrth ymyl pob cam i weld canllawiau:
Cam 1 – Paratoi
Mae dod o hyd i leoliad yn gofyn am waith paratoi. Cyn i chi ddechrau chwilio am gyfleoedd, rydym yn argymell cwblhau’r gweithgareddau canlynol.
Beth i’w wneud
Ewch i sesiwn wybodaeth Ymchwil ar Waith Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Cyflwynir y sesiynau ar-lein hyn bob semester a’u hysbysebu drwy gylchlythyr misol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a’r sianel Teams. Mae sesiynau’n rhoi trosolwg o’r cynllun a chyfle i ofyn cwestiynau.
Hysbysebir sesiynau bob mis yng nghylchlythyr Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru, neu anfonwch e-bost at esrcrip@bangor.ac.uk i ofyn am gyfarfod un-i-un.
Trafod amseriad y lleoliad gyda’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr
Cyn gwneud cais am leoliad, trafodwch eich cynlluniau gyda’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr.
Ystyriwch:
- Eich amserlen ymchwil a cherrig milltir allweddol
- Gofynion adolygiad symud ymlaen
- Pryd fydd lleoliad yn cael yr effaith leiaf ar eich ymchwil PhD
Adolygwch eich Dadansoddiad Anghenion Datblygu. Dylai eich lleoliad gefnogi eich datblygiad proffesiynol a’ch nodau gyrfa hirdymor.
Ystyriwch:
- Pa sgiliau ydych chi eisiau eu datblygu?
- Meysydd lle byddech yn elwa o brofiad ychwanegol
- Sut gall lleoliad gyfrannu at eich cynlluniau gyrfa yn y dyfodol
Diweddarwch eich CV a’ch deunyddiau cais
Diweddarwch eich CV ac adnewyddu eich sgiliau ymgeisio a’ch sgiliau cyfweld. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y brifysgol ddarparu cefnogaeth ac arweiniad.
Pwyntiau allweddol
- Ni ellir mynd ar leoliad yn ystod 3 mis cyntaf eich PhD
- Os ydych yn gwneud cais yn eich blwyddyn olaf, rhaid bod gennych o leiaf chwe mis o’ch cyfnod ariannu ar ôl ar ddechrau’r lleoliad.
- Ni ellir mynd ar leoliad yn ystod eich blwyddyn Meistr.
- Canolbwyntiwch ar y sgiliau a’r profiadau rydych eisiau eu hennill, nid dim ond lleoliadau sy’n gysylltiedig â phwnc eich ymchwil
- Amserlen: Caniatewch hyd at 6 mis i gynllunio
Camau Nesaf
- Darellenwch y canllwiau Lleoliad a’r Canllawiau Cyllido (brig y dudalen hon)
- Cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb (gwaelod y dudalon hon)
Cam 2 – Dod o Hyd i Leoliad
Gallwch sicrhau lleoliad mewn un o dair ffordd:
Lleoliadau a Hysbysebir gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru
Gwnewch gais yn uniongyrchol ar gyfer cyfleoedd a hysbysebir ar wefan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau lletyol ar draws sectorau cyhoeddus, sectorau preifat a sectorau academaidd i ddatblygu cyfleoedd lleoliadau sy’n cael eu hysbysebu trwy wefan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a sianel Teams Ymchwil ar Waith.
Mae pob cyfle yn cynnwys y canlynol:
- Disgrifiad o’r lleoliad
- Gweithgareddau ac amcanion arfaethedig
- Datblygu sgiliau
- Deilliannau disgwyliedig
- Cyfarwyddiadau ymgeisio
Mae ymchwilwyr yn gwneud cais yn uniongyrchol i’r sefydliad lletyol. Wrth gyflwyno eich cais, copïwch (cc) y mewnflwch: esrcrip@bangor.ac.uk
Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad cau a nodir.
Bydd y sefydliad lletyol yn adolygu ceisiadau ac yn dewis yr ymgeisydd llwyddiannus.
Bydd y sefydliad lletyol yn rheoli’r broses recriwtio ac yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Os ydych yn derbyn lleoliad, anfonwch e-bost at esrcrip@bangor.ac.uk
Rydym yn annog ymchwilwyr i ystyried cyfleoedd y tu hwnt i’w maes ymchwil uniongyrchol a chanolbwyntio yn hytrach ar y sgiliau y maent yn dymuno eu datblygu a’r profiadau y maent eisiau eu cael.
Sylwch: Efallai na fyddwch yn llwyddiannus gyda’ch cais cyntaf, felly caniatewch ddigon o amser i gynllunio a gwneud cais.
Cynlluniau Lleoliadau Allanol
Gallwch wneud cais am gyfleoedd drwy raglenni lleoliadau allanol, megis
- Interniaethau Polisi UKRI
- Cynlluniau lleoliadau doethurol neu gynlluniau interniaethau eraill
Rhaid i leoliadau allanol fodloni gofynion lleoliadau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a’r ESRC, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd o ran hyd a chyllid.
Os ydych yn ansicr a yw cyfle yn gymwys, cysylltwch ag esrcrip@bangor.ac.uk cyn gwneud cais.
Lleoliadau a Drefnir Gennych Chi
Gallwch drefnu eich lleoliad eich hun drwy gysylltu â sefydliad addas yn uniongyrchol a datblygu lleoliad sy’n diwallu eich anghenion datblygu a gofynion y sefydliad lletyol.
Pwyntiau allweddol
Wrth ddatblygu lleoliad a drefnir gennych chi:
- Rhannwch Ganllawiau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ar gyfer Sefydliadau Lletyol gyda’r sefydliad
- Trafodwch weithgareddau a chanlyniadau posibl
- Sicrhewch fod y lleoliad yn cefnogi eich anghenion datblygu
- Sicrhewch fod y lleoliad yn bodloni gofynion Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru
- Ystyriwch fforddiadwyedd ac ymrwymiadau teithio
Efallai y bydd eich goruchwyliwr hefyd yn gallu eich cyflwyno i gysylltiadau o fewn eu rhwydwaith proffesiynol. Ar ôl i leoliad gael ei gytuno mewn egwyddor, rhaid i chi gyflwyno Cais Cymeradwyo Lleoliad i Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Amserlen: Hyd at 6-9 mis yn dibynnu ar amserlenni recriwtio.
Cipolwg ar gymhwysedd lleoliadau
- Rhaid iddynt fodloni gofynion lleoliadau yr ESRC/Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru. Gwelwch y canllawiau
- Rhaid iddynt gefnogi datblygiad eich sgiliau a’ch datblygiad proffesiynol
- Gallant fod yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector neu’r sector academaidd
- Gellir eu cynnal yn y cnawd, o bell neu’n hybrid
- Rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru cyn iddynt ddechrau
Fformat Lleoliadau
Gellir cynnal lleoliadau:
- Yn y cnawd
- O bell
- Yn hybrid
Dylai ymchwilwyr, lle bo modd, geisio lleoliadau o fewn pellter cymudo rhesymol oni bai bod gweithio o bell yn bosibl neu fod costau teithio wedi’u cynnwys.
Cam 3 – Cael Cymeradwyo’r Lleoliad
Ar ôl i chi sicrhau cynnig lleoliad, gwnewch gais am gymeradwyaeth Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru cyn i’r lleoliad ddechrau. Mae’r Lleoliad Ymchwil ar Waith yn elfen orfodol o ysgoloriaeth Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a rhaid cymeradwyo pob lleoliad i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion yr ESRC ac yn cefnogi eich anghenion datblygu.
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Cwblhau Ffurflen Gais Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru am Leoliad.
- Cael mewnbwn gan eich sefydliad lletyol a’ch goruchwyliwr.
- Gwneud cais am gyllid lleoliad (os oes angen).
- Cwblhau unrhyw ofynion cynefino’r sefydliad lletyol.
- Cwblhau unrhyw brosesau cymeradwyo y brifysgol.
Pwyntiau allweddol
- Cyflwynwch eich cais o leiaf 12 wythnos cyn dyddiad dechrau’r lleoliad.
- Gall unrhyw geisiadau a dderbynnir llai nag 8 wythnos cyn y dyddiad dechrau greu oedi wrth ddechrau’r lleoliad.
- Rhaid cael y gymeradwyaeth ofynnol a chytundeb lleoliad wedi’i lofnodi cyn i chi ddechrau.
Amserlen: O leiaf 8-12 wythnos.
Cam 4 – Dechrau eich Lleoliad
Yn ystod eich lleoliad byddwch yn parhau i fod yn ymchwilydd doethurol cofrestredig yn eich prifysgol.
Eich cyfrifoldebau
- Cadw mewn cysylltiad â’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr.
- Ymgysylltu’n llawn mewn gweithgareddau ar leoliad.
- Cwblhau unrhyw ofynion monitro fisa lle bo’n berthnasol.
- Codi unrhyw bryderon gyda’ch sefydliad lletyol, eich prifysgol, neu Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru cyn gynted â phosibl.
Deiliaid Fisa Myfyrwyr
- Rhaid i ymchwilwyr sydd â Fisa Myfyrwyr barhau i fodloni holl ofynion monitro ac adrodd y brifysgol er mwyn parhau i gydymffurfio â rheoliadau’r UKVI.
Pwyntiau allweddol
- Gall lleoliadau fod yn llawn amser neu’n rhan amser.
- Gallwch barhau i gael mynediad at wasanaethau cefnogi’r brifysgol drwy gydol y lleoliad.
Amserlen: Fel arfer 13 wythnos yn llawn amser neu 26 wythnos yn rhan amser
Cam 5 – Adroddiad Lleoliad
Ar ddiwedd eich lleoliad, cyflwynwch y dogfennau adrodd a gwerthuso gofynnol.
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Cyflwyno eich Adroddiad Diwedd Lleoliad.
- Cwblhau’r arolwg adborth lleoliad.
- Adfyfyrio ar y profiadau a’r sgiliau rydych wedi eu hennill.
- Rhannu canlyniadau ac effaith lle bo’n briodol.
Amserlen: Cyflwyno o fewn 1 mis o gwblhau’r lleoliad.
.
Lleoliadau sydd ar gael
Gallwch ddewis o ystod o fathau o leoliadau:
Lleoliadau Anacademaidd dan Arweiniad Partneriaid
Cynhelir gan randdeiliaid cymeradwy YGGCC ar draws y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector.
Lleoliadau Academaidd dan Arweiniad Partneriaid
Cynhelir gan ganolfan ymchwil, tîm ymchwil, neu dîm gwasanaethau proffesiynol y tu allan i’ch tîm goruchwylio neu’ch adran gartref cyfredol.
Lleoliadau wedi’u trefnu eich hun
Rydych chi’n dewis ac yn trefnu lleoliad gyda sefydliad lletyol addas.
Lleoliadau Gwaith Allanol
Includes schemes such as the UKRI Yn cynnwys cynlluniau fel Cynllun Interniaeth Polisi UKRI, lleoliadau penodol i’r sefydliad IAA, neu gyfleoedd allanol perthnasol eraill.
Meddyliau Cyntaf am Leoliad
Mae Myfyriwr WGSSS, Chloe Thompson, Prifysgol Swydd Gaerloyw, yn ysgrifennu am ei lleoliad gyda Llywodraeth Cymru.
Rydw i wir yn mwynhau’r lleoliad hyd yn hyn. Mae wedi bod yn ffordd wych o gael gwell dealltwriaeth o waith beunyddiol y gwasanaeth sifil, eu dull o weithio, a’r gwahaniaethau o’i gymharu ag ymchwil mwy academaidd.
Mae Myfyriwr WGSSS, Chloe Thompson, Prifysgol Swydd Gaerloyw, yn ysgrifennu am ei lleoliad gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i mi gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn senarios byd go iawn ym maes iechyd y cyhoedd. Ochr yn ochr â hynny, mae’r lleoliad yn helpu i wella fy sgiliau ymchwil a deall ymddygiad pobl yn well mewn perthynas â phrofion.
Mae Myfyriwr WGSSS, Sherina Lowe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ysgrifennu am ei lleoliad gyda Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.

Cliciwch yma i ddarllen mwy o Feddyliau Cyntaf Lleoli.
Barod i ddechrau?
Cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer lleoliad yma: https://forms.office.com/e/3bXfSchBGL
Gwybodaeth bwysig
Rhaid i bob lleoliad fodloni meini prawf lleoliadau ESRC ac ni ellir bod â thâl ychwanegol at eich cyflog. Am gwestiynau neu arweiniad pellach, cysylltwch â’r Cydlynydd Ymchwil ar Waith drwy:esrcrip@bangor.ac.uk
