Mae Ymchwil mewn Ymarfer yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn profiadau datblygu ymarferol, gan gynnwys lleoliadau o fewn sefydliadau academaidd neu anacademaidd. Bob mis, byddwn yn rhannu’r newyddion diweddarfar fan y rhai sydd ar leoliad ar hyn o bryd.
Os hoffech gael cymorth i gydlynu eich lleoliad, cysylltwch â chydlynydd Ymchwil mewn Ymarfer – Sian Shepherd esrcrip@bangor.ac.uk

Myfyriwr: Anaïs Moczulski
Carfan: 2025
Llwybr:
Prifysgol: Prifysgol Bangor
Sefydliad Lletyol: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

“Mae wedi gwneud i mi feddwl sut yr hoffwn i fy nyfodol a fy ngyrfa edrych
Ble mae eich lleoliad, ac i ba sefydliad ydych chi’n gweithio
Rwy’n gweithio gyda Chwaraeon Cymru, ac yn fwy penodol, o fewn y tîm Iechyd a Pherfformiad Menywod. Mae’r tîm hwn yn canolbwyntio ar rymuso athletwyr benywaidd i optimeiddio eu hiechyd, eu lles a’u perfformiad i’r graddau gorau posibl trwy nodi a gweithredu amrywiol strategaethau cefnogi ar lefel unigolion ac ar lefel sefydliad. Mae’r prif broject yr ydw i wedi gweithio arno hyd yma’n ymwneud â nodi anghenion iechyd allweddol athletwyr benywaidd ac anghenion gwybodaeth ymarferwyr a datblygu adnoddau hygyrch a llawn gwybodaeth i helpu i gefnogi Chwaraeon Cymru fel sefydliad ochr yn ochr â gwahanol grwpiau o athletwyr a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Mae Chwaraeon Cymru yn bartner cydweithredol yn fy mhroject PhD felly dwi wedi bod yn ffodus ac mae wedi bod yn brofiad cyffrous iawn cael gweithio’n uniongyrchol gyda’r sefydliad, dysgu gan yr ymarferwyr anhygoel sy’n gweithio yma, ac mae wedi helpu i feithrin cysylltiadau a chreu rhwydwaith proffesiynol o fewn fy noethuriaeth a thu hwnt i hynny.
Beth yw eich barn hyd yma am y lleoliad, pa sgiliau ydych chi wedi gallu eu defnyddio neu pa fanteision ydych chi wedi eu cael?
Mae gweithio gyda’r tîm Iechyd a Pherfformiad Menywod yn Chwaraeon Cymru wedi bod yn brofiad cyffrous ac mae hefyd wedi bod yn agoriad llygaid. Rydw i wedi dysgu cymaint am iechyd a lles athletwyr benywaidd, a hynny ymhell y tu hwnt i’m project PhD, ac mae wedi gwneud i mi feddwl sut yr hoffwn i fy nyfodol a fy ngyrfa edrych. O blith yr holl bethau dw i wedi’u gwneud hyd yn hyn, dw i wedi cael y cyfle i gydweithio gyda thîm rhyngddisgyblaethol mawr a chreu ffeithluniau a chynnwys i’w rhoi ar gyfryngau cymdeithasol / gwefannau gwahanol grwpiau o athletwyr yn trafod gwahanol agweddau ar iechyd menywod. Mae dysgu lledaenu ymchwil a gwybodaeth mewn modd hygyrch gan gymryd oedran a natur y boblogaeth i ystyriaeth, wrth ymarfer fy sgiliau creadigol wedi bod yn gyfle gwerth chweil. Dw i wir yn edrych ymlaen at weddill fy mhrofiad ar leoliad.
Oes gennych chi air o gyngor i rywun sydd newydd ddechrau ar leoliad neu sy’n ystyried mynd ar leoliad?
Mae’n bwysig cofio nad oes wnelo’r profiad lleoliad â’ch project PhD na’ch pwnc chi o gwbl, yn hytrach ei bwrpas yw ennill profiad yn y byd go iawn a datblygu sgiliau personol a sgiliau academaidd/diwydiannol allweddol a fyddai fel arall yn anodd eu datblygu trwy’r profiad arferol o wneud doethuriaeth. Fe gewch gyfle i gwrdd â phobl newydd, ymgysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant, cydweithio mewn amgylchedd tîm, a dysgu pethau newydd a chyffrous. Ceisiwch fyw yn y foment a gwerthfawrogi’r profiad newydd lle mae ymchwil a dysgu yn cwrdd ag effaith a chynnydd yn y byd go iawn – bydd 13 wythnos yn mynd heibio fel y gwynt.

Myfyriwr: Emma Evans
Carfan: 2024
Llwybr: Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Digidol a Democratiaeth
Prifysgol: Metropolitan Caerdydd
Sefydliad Lletyol: Llywodraeth Cymru

Rhoddodd y lleoliad ddealltwriaeth werthfawr i mi o sut mae ymchwil yn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer”
Eich rôl yn ystod y lleoliad gwaith a’r sefydliad:
Fel rhan o’m lleoliad gyda Llywodraeth Cymru, bûm yn cefnogi project a oedd yn edrych ar sut y gellir gwerthuso mentrau ymgysylltu democrataidd yn fwy effeithiol. Fy mhrif amcan oedd gwneud adolygiad llenyddiaeth i lywio argymhellion ar ddulliau monitro a gwerthuso projectau a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill.
Cyn dechrau’r lleoliad, roeddwn yn teimlo’n bryderus. Roedd y broses ymgeisio yn codi ofn braidd ac, o ystyried y pwysau i wneud lleoliad, roeddwn i’n poeni y gallai treulio tri mis oddi wrth fy ymchwil PhD fod yn niweidiol. Ond roedd yr amgylchedd gwaith yn groesawgar, yn hyblyg ac yn ystyriol o’m hymrwymiadau teuluol, gan sicrhau bod y profiad yn ddiddorol ac yn berthnasol i’m taith ddoethurol.
Ochr yn ochr â chwblhau’r adolygiad llenyddiaeth, ysgrifennais adroddiad llawn a chynhyrchais ail ddrafft a oedd yn cynnwys canfyddiadau o weithdy a gynlluniais ac a hwylusais gyda sefydliadau a gyllidir. Ar ôl gwneud unrhyw fân newidiadau terfynol, disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni, sy’n ganlyniad arbennig o werth chweil i mi.
Rhoddodd y lleoliad ddealltwriaeth werthfawr i mi o sut mae ymchwil yn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer. Roedd yn ddiddorol gweld tystiolaeth yn cael ei defnyddio ar draws adrannau a sut mae’r berthynas broffesiynol rhwng pobl yn gallu dylanwadu ar ddatblygiad polisïau.
Roedd gweithio fel rhan o dîm yn brofiad newydd hefyd. Trwy gyfarfodydd wythnosol, digwyddiadau a gweithgareddau tîm anffurfiol, enillais hyder a datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Gwnaeth addasu i arddull ysgrifennu Llywodraeth Cymru i mi feddwl yn fwy gofalus am hygyrchedd ac eglurder fy ngwaith fy hun, gwersi a fydd o fudd uniongyrchol i’m PhD.
Wrth edrych yn ôl, rwy’n hynod falch o’r hyn a gyflawnais a gallaf weld fy hun yn dilyn gyrfa y tu hwnt i’r byd academaidd, gan gynnwys o fewn Llywodraeth Cymru.
Fy nghyngor i interniaid PhD yn y dyfodol:
Peidiwch â phoeni gormod os nad yw’r lleoliad yn eich maes ymchwil – byddwch yn cael profiad gwych a fydd o fudd i chi mewn llawer o wahanol ffyrdd a bydd hynny’n eich cefnogi yn eich project eich hun, dewiswch rywbeth sy’n edrych yn ddiddorol ac ewch o’r fan honno.

Myfyriwr: Chloe Lanceley
Carfan: 2024
Llwybr: Seicoleg
Prifysgol: Prifysgol Abertawe
Sefydliad Lletyol: Parkinson’s UK

“Dangosodd y lleoliad i mi fod y sgiliau rydw i wedi’u datblygu drwy fy PhD yn drosglwyddadwy dros ben ac yn addas iawn ar gyfer gyrfa ym maes polisi.
Roedd fy lleoliad o fewn tîm polisi Parkinson’s UK, yn gweithio fel Intern Dylanwadu ar Bolisi. Yn y rôl, roeddwn yn cynorthwyo gyda datblygiad datganiad safbwynt polisi newydd, a’r dylanwadu a’r ymgyrchu cenedlaethol a oedd yn digwydd ar y pryd.
Tra roeddwn i ar y lleoliad, fe wnes i wella nifer o sgiliau a datblygu gwybodaeth arbenigol am sut mae mynd ati i ddylanwadu ar bolisi. Cyn y lleoliad, roedd gen i wybodaeth gyfyngedig am ddylanwadu ar bolisi, ond mae hynny wedi gwella’n aruthrol ers ymgymryd â’r lleoliad.
Cefnogodd y darparwr lleoliad fy nysgu a’m datblygiad yn fawr hefyd. Roedd fy rheolwyr yn awyddus i mi gael profiad cyfoethog a chywir o waith polisi, sy’n golygu fy mod wedi cael llu o gyfleoedd. Er enghraifft, cefais y cyfle i weithio ar adolygiadau ar raddfa fawr, fel Adolygiad Timms o Daliadau Annibyniaeth Personol, a chefais ymweld â’r Senedd. Fe wnaeth y lleoliad fy helpu hefyd i ddatblygu sawl sgíl, gan gynnwys rheoli projectau, hwyluso a chyd-gynhyrchu gwaith, rheoli rhanddeiliaid (mewnol ac allanol), ac ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer polisi.Cefnogodd y darparwr lleoliad fy nysgu a’m datblygiad yn fawr hefyd.
Roedd fy rheolwyr yn awyddus i mi gael profiad cyfoethog a chywir o waith polisi, sy’n golygu fy mod wedi cael llu o gyfleoedd. Er enghraifft, cefais y cyfle i weithio ar adolygiadau ar raddfa fawr, fel Adolygiad Timms o Daliadau Annibyniaeth Personol, a chefais ymweld â’r Senedd. Fe wnaeth y lleoliad fy helpu hefyd i ddatblygu sawl sgíl, gan gynnwys rheoli projectau, hwyluso a chyd-gynhyrchu gwaith, rheoli rhanddeiliaid (mewnol ac allanol), ac ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer polisi.
Roedd fy mhrofiad ar leoliad yn gadarnhaol iawn, ac mae wedi gwneud i mi ystyried gyrfa mewn polisi ar ôl y PhD. Mae wedi fy nysgu fy mod wedi datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy drwy fy PhD y gellir eu defnyddio y tu allan i leoliad academaidd, sgiliau sy’n arbennig o berthnasol i waith polisi.
Dysgwch fwy am y gwaith yr oedd Chloe yn rhan ohono yn ystod ei lleoliad yma:
Myfyriwr: Alf Entwistle
Carfan: 2025
Llwybyr: Rheoli a Busnes
Prifysgol: Prifysgol Abertawe
Sefydliad Lletyol: Visit West, Sefydliad Rheoli Cyrchfannau

Rwyf eisoes wedi ennill cyfoeth o brofiad gwerthfawr
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar farchnata a brandio dinasoedd, yn enwedig y prosesau a’r perthnasoedd pŵer sy’n gysylltiedig â sut mae dinasoedd a lleoedd yn cael eu hyrwyddo. Roeddwn i’n ffodus i sicrhau lleoliad tri mis gyda Visit West yn eu swyddfa ym Mryste, sef y Sefydliad Rheoli Cyrchfannau (DMO) ar gyfer Gorllewin Lloegr. Gan fod DMOs yn chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo llefydd, roeddwn i’n awyddus i gael cipolwg ar sut mae rhywun yn gweithredu o’r tu mewn. Nawr hanner ffordd drwy’r lleoliad, rwyf eisoes wedi ennill cyfoeth o brofiad gwerthfawr. Hyd yn hyn, rydw i wedi gweithio ar amrywiaeth o brojectau, gan gynnwys dylunio arolwg barn trigolion ar dwristiaeth a chynhyrchu adroddiad ar dueddiadau hirdymor ymwelwyr a gwariant ar draws y rhanbarth. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o weithgareddau beunyddiol y sefydliad, o reoli aelodaeth i gefnogi digwyddiadau diwydiant, gyda’r posibilrwydd o daith ym malŵn aer poeth Visit West yn dal ar y gorwel.

Myfyriwr: Olesya Romashko
Carfan: 2024
Llwybr: Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Digidol a Democratiaeth
Prifysgol: Prifysgol Abertawe
Sefydliad Lletyol: Institute for Children’s Futures

Er bod fy ymchwil PhD yn canolbwyntio ar bwnc hollol wahanol, mae’r wybodaeth sylfaenol sydd gennyf wedi fy helpu’n fawr i addasu i’r rôl hon
Eich rôl yn ystod y lleoliad gwaith a’r sefydliad:
Rwy’n gweithio gyda’r Institute for Children’s Futures (ICF), sef sefydliad rhyngddisgyblaethol sy’n ymroddedig i wella bywydau plant yn fyd-eang trwy roi eu lleisiau a’u hawliau wrth wraidd ymchwil a pholisi. Yn y rôl hon, rwy’n canolbwyntio’n agos ar un o flaenoriaethau ymchwil craidd y sefydliad: Dinasoedd a Rhanbarthau sy’n Gyfeillgar i Blant. Yn benodol, rwy’n cynnal Asesiad Tystiolaeth Cyflym (REA) i helpu i nodi bylchau, rhwystrau a heriau yn y ffordd y mae cyfranogiad plant yn cael ei gysyniadoli, ei weithredoli a’i ddangos mewn ymchwil academaidd fel rhywbeth sy’n cyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Fel rhan o’r gwaith hwn, rwy’n archwilio tystiolaeth ac arfer byd-eang ar draws sefydliadau ymchwil, sefydliadau hawliau plant, a chyrff cyhoeddus, gan roi sylw i bobl ifanc 14–25 oed. Drwy’r dadansoddiad, rwy’n nodi ac yn dadansoddi’r ystyriaethau moesegol, cyfreithiol, gweithredol ac ymarferol allweddol sy’n gysylltiedig â Phaneli Pobl Ifanc (YPP), gyda sylw arbennig i gyfranogiad ar-lein ac ymgysylltu dinesig digidol. Y nod yw helpu i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i ddylunio mannau sydd wir yn cynnal hawliau, annibyniaeth a chyfranogiad dinesig plant.
Eich barn hyd yn hyn am y lleoliad:
Rwyf wedi dechrau pennod newydd gyffrous yn fy mywyd. Mae gan bawb eu canfyddiad eu hunain o fywyd — boed drwy fewnbynnau synhwyraidd, profiadau yn y gorffennol, llwybrau byr meddyliol, neu ddisgwyliadau cymdeithasol. Ond fel yr ysgrifennodd Shakespeare yn ei ddrama Hamlet: “…there is nothing either good or bad, but thinking makes it so.” Dyna pam, yn lle canolbwyntio ar yr heriau, rwy’n dewis gweld y cyfleoedd enfawr sydd ar gael yma. Er bod fy ymchwil PhD yn canolbwyntio ar bwnc hollol wahanol, mae’r wybodaeth sylfaenol sydd gennyf wedi fy helpu’n fawr i addasu i’r rôl hon, ac ar yr un pryd, bydd y mewnwelediadau a’r sgiliau unigryw rwy’n eu hennill nawr yn hynod ddefnyddiol wrth barhau â fy ymchwil PhD yn y dyfodol. Rwy’n mynd i’r afael â’r ymchwil, yn cydweithio â thîm anhygoel, ac yn cyfrannu at waith hynod effeithiol yn y byd go iawn.
Fy nghyngor i interniaid PhD yn y dyfodol:
Fel myfyriwr rhyngwladol, mae’n hawdd teimlo ychydig yn betrus i ddechrau, ac mae’n naturiol amau a ydych yn perthyn yn llwyr i dirwedd academaidd a phroffesiynol newydd. Fy nghyngor mwyaf yw: peidiwch â bod yn swil, a pheidiwch byth ag amau eich gwerth na’ch gallu! Mae’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw wir eisiau eich gweld yn llwyddo, a byddent bob amser yn eich cefnogi. Mae camu i’r rôl hon wedi dangos i mi nad awyrgylch gwaith cynhyrchiol yn unig ydyw, ond amgylchedd cynnes a chyfeillgar iawn lle mae croeso i’ch persbectif byd-eang unigryw. Cofleidiwch y cyfle’n hyderus, gofynnwch gwestiynau heb betruso, a chofiwch eich bod yn rhan hanfodol o’r tîm. Cofiwch hefyd i fanteisio i’r eithaf ar arbenigedd eich goruchwylwyr a’ch tîm — mae effaith yn y byd go iawn yn digwydd drwy gydweithio.

Myfyriwr: Esyltt Einion
Carfan: 2024
Llwybr: Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Sefydliad Lletyol: Llywodraeth Cymru

Teimlaf fod y lleoliad gwaith wedi fy arfogi â’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar ymchwilydd polisi craff.
Roedd fy nghyfnod yng nghangen Ymchwil y Gymraeg o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn un cadarnhaol iawn. Yn sicr, bu i’r profiad o gymhwyso fy sgiliau academaidd i gyd-destun polisi go iawn ddyfnhau fy nealltwriaeth o ran sut y caiff ymchwil ei ddefnyddio o fewn y cylch polisi.
Teimlaf fod y lleoliad gwaith wedi fy arfogi â’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar ymchwilydd polisi craff, ac fy mod wedi ehangu fy rhwydwaith proffesiynol. Yn ogystal, gan i amseru’r lleoliad gwaith gyd-daro gyda chyfnod etholiad Senedd Cymru, roedd hi’n ddifyr cael gweld effaith un tymor seneddol yn dod i ben a thymor arall yn cychwyn ar waith adran Cymraeg 2050, a chael y cyfle i wrando ar anerchiad y Prif Weinidog newydd i’r gwasanaeth sifil yn fuan wedi’r etholiad.
Mae’r lleoliad gwaith wedi dylanwadu ar fy llwybr gyrfa yn yr ystyr bod y profiad wedi fy ngwneud i’n fwy pendant am fy mwriad i fynd ar drywydd gyrfa yn gysylltiedig â pholisi iaith Gymraeg y tu hwnt i’r byd academaidd. Hynny yw, mae’r profiad o lunio papur sgopio a rhwydweithio gyda chydweithwyr polisi ac ymchwil yn ystod fy amser yn y Llywodraeth wedi fy mherswadio y byddai dilyn trywydd gyrfa o’r fath yn dod â boddhad mawr i mi, ac yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad o bwys.

Myfyriwr: Charlotte Cooper
Carfan: 2024
Llwybr: Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd
Prifysgol: Prifysgol Bangor
Sefydliad Lletyol: Llywodraeth Cymru

Mae’n rhoi boddhad mawr fod yn rhan o’r broses o droi ymchwil yn newid yn y byd go iawn.
Eich rôl yn ystod y lleoliad gwaith a’r sefydliad:
Rwy’n ymgymryd â fy lleoliad gyda Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda’r timau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Polisi Niwroamrywiaeth, a Chymraeg 2050. Bwriad fy mhrosiect yw cyfuno’r ymchwil sydd ar gael er mwyn cynhyrchu adroddiad ar brofiad defnyddwyr o gyfathrebu estynedig amgen dwyieithog.
Eich barn hyd yn hyn am y lleoliad:
Roeddwn i’n nerfus iawn am fy lleoliad, gan fy mod yn berson niwrowahanol sydd wedi cael profiadau gwael yn y gweithle yn y gorffennol, ond mae pawb yn Llywodraeth Cymru wedi bod mor groesawgar ac wedi mynd yr ail filltir i wneud yn siŵr bod gen i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnaf a’m bod i’n gallu gweithio yn y ffordd sy’n fwyaf addas i mi. Mae pawb yn teimlo’n angerddol am y prosiect hwn ac eisiau sicrhau ei fod yn cael effaith wirioneddol; mae’n rhoi boddhad mawr fod yn rhan o’r broses o droi ymchwil yn newid yn y byd go iawn.
Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i siarad â nifer o bobl a dysgu am eu llwybrau gyrfa, yn ogystal â mynd i gynhadledd Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn werthfawr iawn. Rydw i wir yn mwynhau fy amser gyda Llywodraeth Cymru a bydda i’n drist iawn pan fydd y cyfnod yn dod i ben.
Fy nghyngor i interniaid PhD yn y dyfodol:
Manteisiwch ar gynifer o gyfleoedd â phosibl i wneud cysylltiadau a rhannu eich gwaith. Gall cydweithwyr gynnig dealltwriaeth ac amlygu llwybrau newydd i’w harchwilio o ran y prosiect a’ch llwybr gyrfa ehangach. Peidiwch ag ofni gofyn am bethau sydd eu hangen arnoch chi, mae pawb eisiau gwneud yn siŵr bod y lleoliad mor werthfawr a phleserus â phosibl.

Myfyriwr: Calum Muskett
Carfan: 2024
Llwybr: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Prifysgol: Prifysgol Bangor
Sefydliad Lletyol: Llywodraeth Cymru

Mae gweithio mewn amgylchedd newydd wedi bod yn ddiddorol ac yn werth chweil.
Eich rôl ar leoliad a’r sefydliad:
Rwy’n ymgymryd â’m interniaeth PhD gyda thîm Ymchwil Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o fewn yr adran Economi Gylchol. Fy mhrif broject yw adroddiad o’r enw “Extended Producer Responsibility for Batteries: A Literature Review of Opportunities for Wales”, a fydd yn helpu i hysbysu datblygiad polisi yn y dyfodol.
Eich barn hyd yn hyn am y lleoliad:
Mae gweithio mewn amgylchedd newydd wedi bod yn ddiddorol ac yn werth chweil. Mae’r tîm wedi bod yn hynod groesawgar, ac mae’r pwnc ei hun yn gyfoes iawn, sydd wedi gwneud y cyfnod dysgu yn bleserus. Rwyf wedi cael y cyfle i siarad ag arbenigwyr yn y maes y mae eu mewnwelediadau wedi llywio cyfeiriad fy ngwaith yn fawr. Mae cyfleoedd gwych hefyd wedi bod ar gyfer datblygiad proffesiynol, gan gynnwys cwrs ar friffio gweinidogion ac uwch swyddogion, sydd wedi bod yn arbennig o werthfawr i mi.
At ei gilydd, mae wedi bod yn brofiad ardderchog hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weddill fy amser gyda’r tîm.
Fy nghyngor i interniaid PhD yn y dyfodol:
Fy nghyngor i interniaid PhD yn y dyfodol fyddai manteisio i’r eithaf ar bob cyfle dysgu, o hyfforddiant ffurfiol i sgyrsiau anffurfiol, gan fod y profiadau hynny’n cyfoethogi’r lleoliad yn fawr. Gall siarad ag arbenigwyr ar draws y sefydliad agor safbwyntiau newydd a chryfhau eich gwaith, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu a gofyn cwestiynau. Yn fwy na dim, mwynhewch y profiad; mae’n gyfle prin i archwilio sut y gall eich sgiliau ymchwil gyfrannu at bolisi yn y byd go iawn.

Myfyriwr: Abi Palmer
Carfan: 2024
Llwybr: Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Sefydliad Lletyol: Gofal Cymdeithasol Cymru

Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy am y prosesau sy’n rhan o baratoi data gweinyddol ar gyfer ymchwil.
Eich barn hyd yn hyn ar y lleoliad:
Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy am y prosesau sy’n rhan o baratoi data gweinyddol ar gyfer ymchwil. Mae fy PhD yn cynnwys dadansoddiad o gyfrifiad newydd Oedolion sy’n Derbyn Gofal a Chefnogaeth, ac mae’r lleoliad yn ategu’r project hwnnw drwy roi cipolwg i mi ar rôl y sector cyhoeddus wrth ddatblygu’r cyfrifiad a setiau data gweinyddol eraill. Rydw i wedi dysgu am aeddfedrwydd data sefydliadol, prosesau a rheoliadau rhannu data, a sut mae perchnogion data yn gweithio gydag amgylcheddau data diogel i amddiffyn data pobl. Rydw i wedi cynhyrchu rhywfaint o gynnwys gwe am y project ar gyfer gwefan Grŵp Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i gyfrannu at greu fideo wedi’i animeiddio am rannu data.
Unrhyw gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd newydd ddechrau ei leoliad neu sy’n ystyried lleoliad:
Mae fy nghydweithwyr ar leoliad wedi pwysleisio fod hwn yn gyfle i ddysgu, ac rydw i wedi cael fy annog i gysylltu ag amrywiol adrannau i ddysgu mwy am eu gwaith o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn adleisio’r argymhelliad hwnnw; defnyddiwch yr amser i ddysgu ac i geisio cael profiad eang o’r sefydliad yn ogystal â phrofiad manwl o’ch prif broject.
Darllenwch fwy am brofiad Abi yma

Myfyriwr: Chloe Thompson
Carfan: 2024
Llwybr: Cynllunio Amgylcheddol
Prifysgol: Prifysgol Swydd Gaerloyw
Sefydliad Lletyol: Llywodraeth Cymru

Mae wedi bod yn ffordd wych o gael gwell dealltwriaeth o ..gwahaniaethau o’i gymharu ag ymchwil mwy academaidd.
Dywedwch wrthym am eich lleoliad:
Fy enw i yw Chloe Thompson ac rydw i yn ail flwyddyn fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Ers ychydig mwy na mis rydw i wedi bod ar leoliad gwaith yn nhîm Strategaeth ac Ymchwil Polisi Coedwigaeth Llywodraeth Cymru.
Y manteision hyd yn hyn:
Rydw i wir yn mwynhau’r lleoliad hyd yn hyn. Mae wedi bod yn ffordd wych o gael gwell dealltwriaeth o waith beunyddiol y gwasanaeth sifil, eu dull o weithio, a’r gwahaniaethau o’i gymharu ag ymchwil mwy academaidd.
Awgrymiadau i gyd-fyfyrwyr PhD:
Fy nghyngor i eraill sy’n ystyried neu sydd newydd ddechrau eu lleoliadau fyddai manteisio ar unrhyw gyfleoedd i ddod yn rhan o’ch tîm ehangach – ewch i gyfarfodydd dewisol a sgwrsiwch â phobl nad ydych chi efallai’n gweithio’n uniongyrchol â nhw.

Myfyriwr: Sherina Lowe
Carfan: 2024
Llwybr: Seicoleg
Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sefydliad Lletyol: Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg

Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i mi gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn senarios byd go iawn ym maes iechyd y cyhoedd
Dywedwch wrthym am eich lleoliad:
Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymyriadau i gynyddu faint o bobl sy’n cael profion am firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed (HIV, Hepatitis B ac C) ymhlith poblogaethau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol, gan gyfrannu at Gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Ddileu Firysau sy’n cael eu Cludo yn y Gwaed. Rwy’n defnyddio fframwaith COM-B i gasglu mewnwelediadau ymddygiadol ac yn defnyddio technegau ymchwil ansoddol a meintiol i nodi’r ffactorau sy’n rhwystro ac yn hwyluso cynnal profion o fewn gwasanaethau megis carchardai, clinigau iechyd rhywiol, a rhaglenni camddefnyddio sylweddau.
Y manteision hyd yn hyn:
Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i mi gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn senarios byd go iawn ym maes iechyd y cyhoedd. Ochr yn ochr â hynny, mae’r lleoliad yn helpu i wella fy sgiliau ymchwil a deall ymddygiad pobl yn well mewn perthynas â phrofion.
Rydw i wrth fy modd â’r lleoliad, ac rydw i wedi dysgu llawer ac yn teimlo’n ddiolchgar fy mod i’n cael gweithio gyda chydweithwyr hyfryd a chefnogol. Ond, bu’n rhaid wrth ychydig o amynedd gan iddi gymryd amser i mi gael mynediad at systemau ac ati.
Awgrymiadau i gyd-fyfyrwyr PhD:
Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dechrau lleoliad yw eich bod yn ei ddefnyddio fel cyfle i archwilio swyddi sydd y tu allan i’r llwybr gyrfa ymchwil arferol, efallai y byddwch chi’n synnu at y cyfleoedd, a dylech fanteisio hefyd ar y cyfle i feithrin cysylltiadau proffesiynol ystyrlon.
