Galwad am Bapurau: Agoriad: Cyfnodolyn damcaniaeth ofodol
Mae tîm golygyddol Agoriad yn chwilio am gyflwyniadau i’w rhifyn agoriadol ar y thema ontoleg frodorol (gweler testun llawn yr alwad isod). Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cyflwyniadau gan ysgolheigion brodorol yn ogystal ag uwchraddedigion, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr sefydledig.
Cyfnodolyn mynediad agored newydd ar-lein yw Agoriad sy’n cael ei reoli a’i olygu gan uwchraddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa gyda goruchwyliaeth a chymorth gan dîm rheoli golygyddol. Y nod yw cyhoeddi ymchwil o ansawdd uchel ar ddadleuon damcaniaethol allweddol yn ogystal â darparu proses gyhoeddi gefnogol i ymchwilwyr ar bob lefel. Cefnogir y cyfnodolyn gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC (Cymru) ac fe’i cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caerdydd.
Cyhoeddir Agoriad yn flynyddol ac mae’n ymdrin â phwnc neu thema ddamcaniaethol benodol, sydd fel arfer yn gysylltiedig ag Ysgol Theori Gregynog, sef cynhadledd flynyddol i uwchraddedigion a gynhelir gan lwybr Daearyddiaeth Ddynol Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru. Eleni bydd y cyfnodolyn yn cynnwys erthygl gan y Prif Siaradwr, yr Athro Jenny Pickerill, o Brifysgol Sheffield, yn ogystal â chyfweliad gyda hi.
Gobeithiwn gyhoeddi amrywiaeth o fformatau o fewn Agoriad, mae hyn yn cynnwys y papurau academaidd traddodiadol ac adolygiadau o lyfrau, ond cysylltwch hefyd os hoffech i ni ystyried fformatau eraill: traethodau, lluniau, barddoniaeth, celf weledol, sain.
Gweler testun llawn yr alwad isod. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cysylltiedig â’ch prosiect, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm golygyddol Agoriad@cardiff.ac.uk. Rydym yn hapus i dderbyn crynodebau ac ymholiadau ar hyn o bryd, ac eisiau rhoi llwybr cefnogol i hwyluso awduron o’r cyflwyno i’r cyhoeddi.
Y dyddiad cau i dderbyn cyflwyniadau: 15 Ionawr 2024
Manylion cyflwyno: I’w gadarnhau
Agoriad: Cyfnodolyn damcaniaeth ofodol – Gweminar.
Bydd YGGCC yn cynnal gweminar ar 22 Tachwedd i gyflwyno ontolegau Cynhenid a’r broses o gyflwyno erthyglau i Agoriad.
Cofrestrwch ar gyfer y gweminar yma.
Galwad am Bapurau
‘Ontolegau brodorol’
Oni allai rhywun symud i safbwynt sy’n dangos mai grym dychmygus y cymdeithasau – neu’n well, y pobloedd a’r cynulliadau – y ceisiwn eu hesbonio yw ffynhonnell y cysyniadau, y problemau, yr endidau a’r asiantau mwyaf diddorol a gyflwynwyd i’r meddylfryd?
Viveiros de Castro, Cannibal Metaphysics
Mewn cyfnod lle mae ysgolheictod daearyddol yn myfyrio ar ei etifeddiaeth drefedigaethol, ac yn ceisio dad-drefedigaethu ei feddylfryd a’i olwg ar y byd, mae llawer o ysgolheigion wedi troi at ontolegau brodorol fel dewis amgen posib i oruchafiaeth yr ysgolheictod sydd wedi’i wreiddio mewn safbwyntiau Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae ymagwedd o’r fath yn codi nifer o gwestiynau dyrys. Er bod yr anthropolegydd Eduardo Viveiros de Castro yn dweud wrthym fod llawer i’w ddysgu o syniadaeth frodorol, mae hefyd yn amharod i ddisgrifio rhai dulliau penodol o feddwl yn rhai sy’n perthyn yn fewndarddol ac yn eu hanfod i eraill. Mae ymagwedd ochelgar o’r fath fel petai’n codi cwestiynau ynghylch ein termau allweddol. Mae arlliw o gyntefigrwydd i’r brodorol bob amser ac mae ontoleg, yn yr un modd, yn awgrymu rhywbeth ‘hanfodol’. Felly, sut allwn ni gydnabod y meddylfryd cwbl wahanol sydd gan eraill – a’i botensial i agor ein rhagdybiaethau, ein cysyniadau a’n dulliau o gynhyrchu gwybodaeth – heb syrthio i’r maglau hyn? Sut mae cydnabod bod rhai ontolegau yn rhai ‘amgen’ (a rhyddfreiniol hyd yn oed) heb enwi’r ontolegau hynny ac (yn y broses honno) eu cydnabod fel rhai sy’n eiddo ‘iddyn nhw’ ac nid ‘i ni’? Onid ydym mewn perygl (unwaith eto) o briodoli nodweddion penodol i rai sy’n wahanol ac o neilltuo nodweddion eraill i ni ein hunain a’r rhai sy’n debyg i ni? Ac os felly, sut mae osgoi i hyn fod yn fath arall o briodoli trefedigaethol? Nod y rhifyn hwn o Agoriad yw edrych ar y potensial a’r problemau cydsyniol a gyfyd wrth ymwneud â syniadaeth frodorol. Rydym yn croesawu cyflwyniadau ym maes Daearyddiaeth a disgyblaethau cysylltiedig sy’n archwilio sut mae syniadau, cysyniadau a dealltwriaeth pobl eraill o’r byd yn agor sgyrsiau cymhleth ynghylch gwahaniaethau ac yn dyfnhau (yn hytrach na dianc rhag) problem yr hyn mae’n ei olygu i ddad-drefedigaethu meddylfryd yn yr unfed ganrif ar hugain.