Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r YGGCC yn credu’n bendant y dylai hyfforddiant ymchwil o safon yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd fod yn hygyrch i bawb, y dylai ymchwil adlewyrchu buddiannau ac anghenion pob cymuned, ac y dylai’r daith YGGCC roi’r un pleser a gwerth i bawb.   Mae hwn yn faes blaenoriaeth allweddol i ni, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Sefydliad Ymchwil y Deyrnas Unedig (UKRI).

Rydym wedi sefydlu gweithgor arbenigol ar gyfer materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’n cynnwys yr Athro Sin Yi CheungDr Kami Koldewyn (Prifysgol Bangor), Dr Amanda Rogers (Prifysgol Abertawe), a Dr Constantino Dumgangane Jr (Prifysgol Efrog) fydd yn cynghori ac yn gweithredu ein strategaeth ar gyfer ehangu cyfranogiad a gwella profiad pob myfyriwr.

Rydym wrth ein bodd bod y fenter hon yn cael ei chefnogi gan ein partneriaid cydweithredol yn Llywodraeth Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n ei defnyddio i ddatblygu eu hadnoddau ymchwil eu hunain mewn perthynas â chymunedau a esgeuluswyd yn flaenorol. Rydym yn croesawu mewnbwn a chyngor gan fyfyrwyr a goruchwylwyr y Bartneriaeth ar gyfer y gwaith hanfodol hwn.

Rydym yn cydnabod bod aelodau o amrywiaeth o grwpiau yn wynebu rhwystrau lluosog, sy’n aml yn rhai cymhleth, wrth geisio cyfranogi mewn astudiaethau ôl-raddedig.  Mae ein gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ymgysylltu â’r gwirionedd bod gwahaniaethu ac eithrio yn aml yn gysylltiedig â mwy nag un cefndir neu hunaniaeth.


Llywodraethu’r YGGCC

Mae’r YGGCC yn gweithio i sicrhau bod cyfansoddiad a gweithrediad ei grwpiau llywodraethu (e.e. paneli dethol) yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned ehangach.   Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eitem sefydlog ar agenda pob un o gyfarfodydd llywodraethu’r YGGCC.   Ein nod yw rhannu a hybu arfer gorau ar draws y YGGCC.


Recriwtio i Ysgoloriaethau Ymchwil

Mae anghydraddoldeb strwythurol hanesyddol ym myd addysg wedi golygu bod rhai cymunedau hiliol ac ethnig yn cael eu tangynrychioli yn y byd academaidd.   Mae YGGCC wedi cymryd camau i ddechrau rhoi sylw i’r materion hyn trwy fenter sy’n caniatáu i lwybrau o fewn y bartneriaeth gynnig hyd at bedwar enwebiad ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil, yn hytrach na thri, yn y gystadleuaeth gyffredinol, cyhyd â bod o leiaf un o’r ymgeiswyr hynny o gefndir Brau Du, Asiaidd Du, ethnig lleiafrifol neu hil gymysg.   Mae gwybodaeth lawn am ysgoloriaethau ymchwil y Bartneriaeth, cymhwysedd a sut mae cyflwyno cais ar gael er ein tudalen ysgoloriaethau ymchwil.

Mae’r YGGCC yn ymdrechu i fynd ati i recriwtio myfyrwyr mewn modd agored, tryloyw, ar sail rhinweddau, gan ddethol ymgeisydd/ymgeiswyr heb ystyried cefndir nag unrhyw nodwedd warchodedig a ddiffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.  Mae’r ystadegau recriwtio yn dangos bod myfyrwyr o rhai cymunedau hiliol ac ethnig yn cael eu tangynrychioli’n sylweddol iawn ymhlith ymgeiswyr i YGGCC (ESRC) a deiliaid eu dyfarniadau.  Ar hyn o bryd mae hynny’n cyfiawnhau cymryd ‘camau cadarnhaol’ o dan Ddeddf 2010, ar ffurf cyfle i enwebu myfyriwr ychwanegol, fel y nodwyd yn y paragraff blaenorol.

Mae gofyn bod yr holl staff sy’n ymwneud â recriwtio ymgeiswyr yn cwblhau ac wedi diweddaru’r hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant perthnasol sy’n cael ei ddarparu o fewn eu sefydliad.  

Gwneir pob ymdrech i sicrhau amrywiaeth yr holl baneli asesu, gan gynnwys cydbwysedd rhywedd a chynnwys cydweithwyr sydd â chefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol

Rydym hefyd yn gofyn i lwybrau adrodd yn ôl i’r YGGCC ar ddiwedd y broses recriwtio ynghylch eu cydymffurfiaeth â’r camau hyn, fel bod modd i ni wella ymarfer ac addasu ein strategaeth ar gyfer blynyddoedd i ddod.

I gyd-fynd â’r mesurau hyn, rydym ni’n trefnu gweithgareddau estyn allan a chyhoeddusrwydd, gan gynnwys targedu myfyrwyr mewn ystod amrywiol o brifysgolion, cysylltu ag undebau a chymdeithasau myfyrwyr, a gweithio gyda grwpiau hiliol ac ethnig a grwpiau cymunedol eraill yng Nghymru.


Hygyrchedd a Chynwysoldeb

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwefan sy’n hwylus i’w defnyddio ac yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl, ac rydym ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon.   Os profwch unrhyw anhawster wrth gyrchu unrhyw dudalennau sydd gennym ar y we, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut gallem ni wella hygyrchedd, cysylltwch â ni ar ymholiadau@yggcc.ac.uk.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes anabledd arnoch.

Cynhelir yr holl ddigwyddiadau a gefnogir gan YGGCC yn unol â Chanllawiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant YGGCC ar gyfer Digwyddiadau a Chynadleddau.

Yn achos yr holl ddigwyddiadau hyfforddi sydd yng ngofal y Bartneriaeth, rydym ni’n ymdrechu i sicrhau cydbwysedd cynrychioliadol o siaradwyr neu ddarparwyr hyfforddiant, ac i arddangos rhagoriaeth ymhlith yr holl staff a myfyrwyr.


Bwlio, Aflonyddu ac Erledigaeth

Mae’r Bartneriaeth yn hybu agwedd o beidio â goddef unrhyw aflonyddu, bwlio nac erledigaeth.  Oddi mewn i’n sefydliadau partner mae cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn profi unrhyw fath o fwlio, aflonyddu neu erledigaeth.

Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Swydd Gaerloyw
Prifysgol De Cymru


Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb

Mae’r YGGCC wedi cwblhau Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer ei menter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn perthynas â’r cystadlu am ysgoloriaethau ymchwil.   Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ar gael ar gais.