Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr YGGCC yn sianel hanfodol ar gyfer casglu sylwadau/syniadau gan gyd-fyfyrwyr a ariennir gan YGGCC ar draws ysgolion a llwybrau academaidd. Mae ganddynt rôl hanfodol wrth gyfleu sylwadau a chynigion er mwyn helpu i wella hyfforddiant ymchwil a’r profiad cyffredinol i fyfyrwyr PhD.
2024 Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Sefydliad | Enw | Llwybrau |
Prifysgol Aberystwyth | Kirsty Usher | Daearyddiaeth Ddynol |
Prifysgol Bangor | Swydd ar Gael | |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | Hannah Williams | Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff |
Prifysgol Caerdydd | Isabel Lang | Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol |
Prifysgol Caerdydd | Swydd ar Gael | |
Prifysgol Abertawe | Walaa Mouma | Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd |
Prifysgol Swydd Gaerloyw | Swydd ar Gael |
Rôl Cynrychiolydd Myfyrwyr
- Cwblhau gwaith sy’n seiliedig ar brosiectau i lywio a datblygu YGGCC.
- Cynnwys myfyrwyr eraill YGGCC drwy eu hannog i roi adborth a rhannu barn a syniadau.
- Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd tymhorol ar-lein gyda swyddog e-ddysgu YGGCC.
- Mynychu cyfarfod blynyddol gyda Chyfarwyddwr YGGCC.
Gwyliwch y fideo isod a grëwyd gan Mike Hackman, swyddog e-ddysgu YGGCC, i gael gwybod rhagor am y rôl.
Bydd cynrychiolydd arweiniol yn cael ei enwebu gan garfan cynrychiolwyr y myfyrwyr ac yn rhan o grŵp rheoli YGGCC.
Mae rôl cynrychiolydd myfyrwyr yn para am gyfnod o 12 mis. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr newydd yn cael y cyfle i gymryd rhan bob blwyddyn. Fodd bynnag, gall cynrychiolwyr gael eu hail-enwebu am ail dymor.
Ni ddylid gofyn i gynrychiolwyr myfyrwyr ymwneud â phroblemau personol, anawsterau academaidd nac anghydfodau unigol myfyrwyr eraill.
Dewis Cynrychiolwyr
Anfonir y cais blynyddol am gynrychiolwyr drwy’r wefan, y cylchlythyr a dulliau cyfathrebu eraill. Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr YGGCC o bob cam yn eu hastudiaethau.
Os oes diddordeb gennych chi, cyflwynwch eich cais i enquiries@wgsss.ac.uk . Gofynnir i enwebeion amlinellu, yn gryno, pam y bydden nhw’n gynrychiolydd myfyrwyr da a sicrhau cefnogaeth 1-2 fyfyriwr arall sy’n cael eu hariannu gan YGGCC ar gyfer eu henwebiad.
Bydd un cynrychiolydd myfyrwyr yn cael ei ddewis ar gyfer pob sefydliad (dau ar gyfer Prifysgol Caerdydd). Pan fydd mwy o enwebiadau na swyddi, gofynnir i gydfyfyrwyr fwrw eu pleidlais dros yr ymgeiswyr sydd orau ganddynt.