Mae ceisiadau ar gyfer Cystadleuaeth Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol WGSSS ESRC 2026 AR AGOR
Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn gwahodd ceisiadau am hyd at bump Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol a ariennir gan yr ESRC yn unrhyw un o’n Llwybrau achrededig i gychwyn ym mis Hydref 2026.
Mae’r Cymrodoriaethau ar gyfer y rhai sydd ar fin dechrau eu gyrfa ar y cam ôl-ddoethurol, gan gynnig cyfle iddyn nhw atgyfnerthu eu gwaith PhD trwy ddatblygu cyhoeddiadau, rhwydweithiau, a’u sgiliau ymchwil a phroffesiynol.
Mae’r grantiau’n darparu cyllid am naw mis yn llawn amser, neu ddeunaw mis yn rhan-amser (pro-rata yn seiliedig ar ymrwymiad amser yr ymgeisydd) i roi amser i’r cymrodorion baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes ymchwil naill ai yn y byd academaidd neu tu allan iddo.
Ni ellir ariannu ymchwil newydd drwy’r gwobrau hyn. Dylai darpar ymgeiswyr sydd am wneud cais am gyllid ymchwil ystyried gwneud cais am gyfle grant Ymchwilwyr Newydd ESRC .
Mae gwybodaeth lawn ar gael ym Manyleb yr Alwad. Mae’r ESRC hefyd wedi cynhyrchu cyfres o atebion i Gwestiynau Cyffredin.
Cysylltwch â fellowships@wgsss.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u trafod yn y dogfennau canllaw y cyfeirir atynt uchod. .
Eligibility
Mae’r cyfle hwn yn agored i ymgeiswyr sydd wedi cwblhau eu PhD yn y DU mewn sefydliad ymchwil yn y DU. Nid yw’n ofynnol i ymgeiswyr fod wedi cael ysgoloriaeth a ariannwyd gan yr ESRC o’r blaen i fod yn gymwys i wneud cais.
I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:
Have been awarded a PhD or have Fod wedi ennill PhD neu wedi llwyddo yn eu viva voce gyda mân addasiadau erbyn y dyddiad cau, sef 1 Mehefin 2026, a bod wedi cael eu dyfarniad PhD erbyn dyddiad dechrau’r gymrodoriaeth, sef 1 Hydref 2026.
Fod â dim mwy na 15 mis (cyfwerth ag amser llawn, gan ganiatáu seibiannau gyrfa) o brofiad ôl-ddoethurol gweithredol. Mesurir hyn o ddyddiad pasio viva voce yr ymgeisydd hyd at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 1 Mehefin 2026.
Mae profiad ôl-ddoethurol gweithredol yn cyfeirio at brofiad ymchwil. Fel arfer, ceir hyn o fewn y byd academaidd, ond gall rolau sy’n gysylltiedig ag ymchwil mewn sefydliadau anacademaidd gyfrif wrth asesu cymhwysedd hefyd. Ni ystyrir rolau addysgu yn unig heb gydran ymchwil yn brofiad ôl-ddoethurol gweithredol. Mae rhagor o wybodaeth am brofiad ôl-ddoethurol gweithredol ar gael ar dudalen 4 y ddogfen Cwestiynau Cyffredin .
Nid yw’r alwad ar agor i ymgeiswyr sy’n aelodau staff parhaol, sefydledig mewn swydd academaidd sydd â chydran ymchwil.
Noder mai dim ond un cais i un Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) a ganiateir. Ni chaiff ymgeisydd gyflwyno cais i fwy nag un DTP o dan delerau’r cyfle ariannu hwn.
Mae cymrodoriaethau’n para naw mis yn llawn amser, neu ddeunaw mis yn rhan-amser ac yn cynnwys cyflog. Dim ond os yw’n cyd-fynd â’ch patrwm gwaith arferol y cewch wneud cais yn rhan-amser, gan fod y dyfarniadau hyn wedi’u cynllunio i gymryd 100% o’ch amser gwaith. Ni all cymrodorion fod ag ail gyflogaeth yn ystod y dyfarniad, ac eithrio mewn achosion lle cwblhaodd ymgeisydd eu PhD yn rhan-amser ochr yn ochr â chyflogaeth rhan-amser barhaol. Yn y sefyllfaoedd eithriadol hynny, gellir ystyried cymrodoriaeth ran-amser ochr yn ochr â’r swydd honno. Disgwylir i bob ymgeisydd arall ymrwymo eu hamser gwaith llawn i’r gymrodoriaeth.
Anogir ymgeiswyr i ymgynghori â’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin i gael arweiniad, gan fod llawer o gwestiynau cyffredin ynghylch cymhwysedd yn cael eu trafod yno.
Amserlen
| 23/03/2026 | Lansio Cystadleuaeth Galwad y gymrodoriaeth yn agor; mae’r ymgeiswyr yn dechrau paratoi. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr o Lwybrau a Chynullwyr ar y Dudalen Llwybr. Cysylltwch â’r Cynullydd Llwybr perthnasol cyn gynted â phosibl. |
| 01/05/2026 | Cam 1 – Dyddiad Cau’r Llwybrau Dyddiad cau i gyflwyno’r cais cam 1 i’r Llwybrau |
| 22/05/2026 | Cam 1 – Canlyniad y Llwybrau Mae’r Llwybrau’n rhoi gwybod i’r ymgeiswyr ac yn enwebu ymgeiswyr |
| 01/06/2026 (23.59) | Cam 2 – Dyddiad Cau YGGCC Dyddiad cau i gyflwyno cais llawn i YGGCC |
| 30/06/2026 | Cam 2 – Canlyniad YGGCC Anfon y penderfyniadau terfynol at yr ymgeiswyr |
| 23 July 2026 | Cyflwyniad ESRC Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflwyno cynigion i’r ESRC |
| 01/10/2026 | Cymrodoriaethau yn Dechrau Mae prosiectau’r cymrodoriaethau yn dechrau’n swyddogol |
Canllawiau Ymgeisio am Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol YGGCC
Fel y disgrifiwyd yn yr alwad, mae’n rhaid i ymgeiswyr ganfod mentor yn gyntaf – dylai hwn fod yn uwch-gydweithiwr yn y sefydliad ymchwil a’r Llwybr a fydd yn cynnal y Gymrodoriaeth.
Eich pwynt cyswllt cychwynnol ar gyfer nodi mentor ddylai fod y Cynullydd Llwybr ar gyfer y Llwybr sydd fwyaf cydnaws â’ch cais Cymrodoriaeth. Mae rhestr o’r Llwybrau a’r Cynullwyr ar y Dudalen Llwybrau. Cysylltwch â Chynullydd perthnasol y Llwybr cyn gynted â phosibl.
Mae gan bob Llwybr ei broses ymgeisio Cam 1 ei hun, a bydd y Cynullydd yn anfon y manylion a’r dogfennau angenrheidiol atoch. Anogwn yn gryf i chi gysylltu’n gynnar i sicrhau bod gennych chi ddigon o amser i baratoi eich cais Cam 1.
Rydyn ni’n disgwyl lefel uchel o gystadleuaeth ar gyfer y cymrodoriaethau hyn, ac yn y broses ddethol mae dau gam ymgeisio ffurfiol:
Cam 1 – Cais i’r Llwybr
Dyddiad cau: 1 Mai 2026
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu cais Cam 1 i’r Llwybr perthnasol erbyn y dyddiad hwn.
- Gofynnir i ymgeiswyr hefyd lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth YGGCC. Mae’r data hwn yn cael ei ddal yn gyfrinachol a’i ddefnyddio at ddibenion adrodd ystadegau i’r ESRC yn unig.
- Bydd Llwybrau yn adolygu ceisiadau ac yn llunio rhestr fer o’r ymgeiswyr rhwng 1 Mai a 22 Mai 2026.
Erbyn 22 Mai 2026, bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad Cam 1. Bydd Llwybrau yn enwebu ymgeiswyr dethol i symud ymlaen i Gam 2. Caniateir i bob un o’n 15 Llwybr enwebu un neu ddau gais i’w hystyried gan Grŵp Rheoli YGGCC yn ystod Cam 2.
Cam 2 – Cais YGGCC
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2026 (23.59)
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr enwebedig gyflwyno eu cais Cam 2 llawn i YGGCC drwy e-bostio fellowships@wgsss.ac.uk
- Mae’n rhaid i’r ceisiadau gynnwys yr holl atodiadau gorfodol.
- Caiff ceisiadau eu hadolygu gan Fwrdd Rheoli YGGCC.
Camau Terfynol
- Erbyn mis Gorffennaf 2026: Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad terfynol. Efallai y bydd rhai yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn.
- Canol mis Gorffennaf 2026: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflwyno eu cynnig terfynol i’r ESRC.
Cymrodoriaethau yn dechrau: 1 Hydref 2026
Atodiadau Gorfodol
Yn ogystal â’r ffurflen gais , rhaid i bob cais gynnwys atodiadau 1-4. Mae angen Atodiadau 5-7 os ydynt yn berthnasol. Rhaid i bob atodiad fod mewn ffont maint 11 o leiaf.
Mae manylion llawn yr atodiadau gorfodol sydd eu hangen yn eich cais ar gael ym Manyleb Galwad Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yr ESRC.
- Achos dros gymorth (uchafswm o chwe ochr A4)
- Cyfiawnhad o’r adnoddau (uchafswm o un ochr A4)
- CV (uchafswm o ddwy ochr A4 )
- Datganiad y mentor a chrynodeb o’r CV (uchafswm o ddwy ochr A4)
- Cynllun rheoli data (uchafswm o dair ochr A4) Er na all ymgeiswyr gasglu unrhyw ddata newydd fel rhan o’r gymrodoriaeth hon, gall fod amgylchiadau eithriadol lle caiff data presennol ei ailddefnyddio neu ei gyfuno â data arall i ffurfio set ddata newydd
- Rhestr o gyhoeddiadau – Lle dyfynnir cyfeirnodau yn y cynnig, dylid cynnwys rhestr o gyhoeddiadau yn nodi’r llyfryddiaeth berthnasol. Dylid cynnwys cyhoeddiadau’r ymgeisydd ei hun gyda’i CV.
- Atodiadau eraill (os yn berthnasol) Manylir atodiadau derbyniol eraill ym manyleb yr alwad Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol
Ni dderbynnir unrhyw atodiadau ychwanegol eraill, a gellir dychwelyd neu wrthod eich cynnig os byddwch yn cynnwys atodiadau nad ydynt yn cael eu caniatáu dan yr alwad hon, neu os bydd unrhyw un o’r atodiadau gorfodol ar goll.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant
Mae’r DTP yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth ryweddol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol
Arweiniad Ychwanegol
Mae gwefan yr ESRC yn cynnwys adnoddau ar baratoi cynigion ymchwil a gwybodaeth am foeseg, effaith ymchwil a datblygu prosiectau cydweithredol.
Mae pecyn cymorth effaith yr ESRC hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer datblygu strategaethau effaith.
Proffiliau Cymrodorion Ôl-ddoethurol
Cymerwch olwg ar broffiliau ein cymrodyr ôl-ddoethuriaeth presennol.
Cysylltwch
Os oes gennych chi gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan y cwestiynau cyffredin, cysylltwch â fellowships@wgsss.ac.uk.
