Os oes gennych chi anabledd sy’n golygu eich bod yn ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â’ch astudiaethau, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am lwfans ychwanegol. Gall hyn dalu costau sy’n ymwneud â threuliau dyddiol ychwanegol, offer arbennig neu help anfeddygol fel gweithwyr cymorth, tiwtoriaid arbenigol, cymorth yn y llyfrgell, cymryd nodiadau ac ati. Dylid hawlio costau llungopïo a nwyddau traul drwy eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Mae’n bwysig nodi’r canlynol:
- Rhaid gwneud unrhyw gais am lwfans myfyrwyr anabl, a chytuno ar y telerau, cyn i unrhyw wariant gael ei ymrwymo pan geisir cyllid ESRC.
- Ni ellir gwneud dyfarniadau ôl-weithredol ar gyfer prynu offer, cyfleusterau na chymorth personol mewn cysylltiad â’ch anabledd.
- Gellir hawlio unrhyw wariant ar ôl i ddyddiad terfyn eich cyllid basio neu ar gyfer cymorth a ddarperir ar ôl dyddiad terfyn eich cyllid.
- Nid yw myfyrwyr ffioedd yn unig yn gymwys i gael lwfans myfyriwr anabl.
Sut i wneud cais
- Dylech drafod anghenion cymorth ychwanegol gyda gwasanaeth cymorth anabledd a dyslecsia eich sefydliad cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau y bydd gennych fynediad at y cymorth gorau a mwyaf priodol drwy gydol eich astudiaethau.
- Mae’r Swyddog Anabledd yn trefnu asesiad anghenion i benderfynu pa gymorth rydych chi ei angen. Rhowch wybod i’r Swyddog Anabledd eich bod yn cael cyllid ESRC.
- Bydd y gwasanaeth cymorth anabledd a dyslecsia yn cadarnhau manylion eich lwfans myfyriwr a bydd y Brifysgol sy’n eich croesawu yn hawlio arian gan ESRC.
Am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu gwestiynau penodol mewn perthynas â hawliadau lwfans myfyriwr anabl, cysylltwch â:
- Gwasanaethau Hygyrchedd Prifysgol Aberystwyth
- Gwasanaeth Anabledd Prifysgol Bangor
- Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia Prifysgol Caerdydd
- Gwasanaeth Anabledd Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Gwasanaeth Anabledd, Dyslecsia a Chymorth Dysgu Prifysgol Swydd Gaerloyw
- Gwasanaeth Anabledd, Pryfysgol De Cymru
- Swyddfa Anabledd Prifysgol Abertawe