Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am interniaethau i fyfyrwyr a ddechreuodd ar ysgoloriaeth a ariennir gan YGGCC cyn mis Hydref 2024 ac nad oes amser wedi’i gynnwys yn eu dyfarniad i gwblhau lleoliad gwaith. Mae interniaethau’n ddewisol ac nid yn orfodol i fyfyrwyr a ddechreuodd eu dyfarniad cyn Hydref 2024.
Mae amser ar gyfer lleoliad wedi’i gynnwys yn ysgoloriaethau’r myfyrwyr YGGCC y dechreuodd eu cyllid ar ôl Hydref 2024 . Gweler y dudalen Ymchwil mewn Ymarfer ar wahân am ragor o wybodaeth.
Fel myfyriwr a ariennir gan YGGCC, mae gennych amrywiol gyfleoedd i ymgymryd ag interniaeth ac elwa o’r profiad.
Gallwch dreulio rhwng un a thri mis mewn sefydliad anacademaidd yn y sectorau cyhoeddus, cymdeithas sifil (gwirfoddol), neu breifat. Nid oes angen i’r interniaeth fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’ch ymchwil PhD. Mae llawer o interniaid yn nodi bod y profiad yn rhoi persbectif newydd ar eu hastudiaethau doethuriaeth, a chymhelliant newydd i’w cyflawni.
Fel arfer, mae interniaethau’n cynnwys darn penodol o waith ymchwil ar gyfer y sefydliad cynnal. Ar yr un pryd, maen nhw’n cynnig manteision clir i fyfyrwyr, gan gynnwys cyfleoedd i ddatblygu:
- Rhwydweithiau ymhlith llunwyr polisi ac ymarferwyr
- Cipolwg ar sefydliadau a sut maen nhw’n gweithredu
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau, cyfathrebu a rheoli amser
- Profiad o weithio’n effeithiol yn rhan o dîm
- Ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy eraill
Gall cwblhau interniaeth helpu i dynnu sylw atoch wrth i chi wneud cais am swyddi yn y byd academaidd a thu hwnt.
Nid yw interniaethau wedi’u cynllunio i gwmpasu gwaith maes na chasglu data, ac ni ddylai myfyrwyr barhau i weithio ar eu PhD yn ystod interniaeth. Mae interniaeth yn brofiad ar wahân a dylid ei drin felly.ternship. An internship is a separate experience and should be treated as such.
Cyllid
Rhaid i fyfyrwyr geisio cymeradwyaeth YGGCC cyn cyflwyno unrhyw gais am interniaeth gan fod cyllid yn gyfyngedig
Os byddwch yn llwyddiannus, cewch estyniad â thâl i’ch PhD sy’n cyfateb i hyd yr interniaeth (rhwng un a thri mis), sy’n golygu na fydd yn tynnu amser i ffwrdd o’ch ymchwil.
Gellir cynnal interniaethau o bell, ar sail hybrid neu wyneb yn wyneb. Argymhellir bod interniaethau wyneb yn wyneb wedi’u lleoli o fewn pellter cymudo rhesymol. Dylai sefydliad cynnal yr interniaeth ddarparu cyllid ar gyfer treuliau teithio neu lety. Ni all YGGCC dalu treuliau.
Pwy sy’n gymwys
Fel arfer, ni fydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd â mwy nag un interniaeth yn ystod cyfnod eu dyfarniad.
Dylai myfyrwyr ystyried amseriad interniaeth yn ofalus ochr yn ochr â’u cynllun gwaith PhD a rhaid cael cymeradwyaeth goruchwyliwr cyn gwneud cais. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn gweithio gyda’u goruchwyliwr i ddiweddaru eu cynllun gwaith a sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro â cherrig milltir allweddol, gan gynnwys casglu data.
Rhaid i fyfyrwyr blwyddyn olaf fod â mwy na thri mis ar ôl o’r cyfnod a ariennir i gwblhau eu dyfarniad (neu chwe mis i fyfyrwyr rhan-amser) ar ddyddiad cychwyn yr interniaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol ynghylch Cymhwysedd i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gyfrifol am sicrhau bod ymgymryd ag interniaeth yn cydymffurfio â thelerau eu fisa cyn gwneud cais. Yn y rhan fwyaf o achosion, caniateir i fyfyrwyr rhyngwladol ymgymryd ag interniaethau rhan-amser yn unig, ochr yn ochr ag astudio’n llawn amser er mwyn bodloni cyfyngiadau UKVI ar oriau gwaith.
Mae gan rai cyrff sector cyhoeddus yn y DU, fel Llywodraeth Cymru, ofynion cenedligrwydd a chymhwysedd ychwanegol. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn yn gymwys i wneud cais. Gwiriwch y gofynion cymhwysedd yn ofalus cyn cyflwyno cais.
Cyfleoedd am Interniaethau
Rhennir cyfleoedd interniaeth gyda myfyrwyr YGGCC trwy Sianel MS Teams Myfyrwyr YGGCC a Chylchlythyr YGGCC.
Cynllun Interniaethau Polisi UKRI
Cynllun Blynyddol – fel arfer caiff yr alwad ei lansio ym mis Mehefin
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Mae’r cynllun hwn yn galluogi myfyrwyr doethuriaeth a ariennir gan UKRI i ymgymryd â thri mis o leoliad gyda sefydliad polisi hynod ddylanwadol. Mae interniaid yn derbyn hyfforddiant ac yn gweithio ar bwnc polisi y cytunir arno gyda’r sefydliad cynnal ac sy’n berthnasol i’r ddwy ochr.
Pam y dylech chi ymgeisio?
Mae’r cynllun wedi’i gynllunio er mwyn i fyfyrwyr gael eu trochi yn yr amgylchedd llunio polisïau a datblygu sgiliau wrth drosi ymchwil yn effaith polisi. Mae’n cynnig sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr sy’n berthnasol i ystod eang o lwybrau gyrfa.
UK Gov Open Innovation Team – PhD Placement Scheme
Cynllun Blynyddol – fel arfer caiff yr alwad ei lansio ym mis Ionawr
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
- Gweithio ar brosiectau polisi yn y byd go iawn (iechyd, cyfiawnder, addysg, cynaliadwyedd, ynni, AI, datblygu rhyngwladol).
- Ymuno â’r Uned Gwasanaethau Gwerthuso, a dysgu dulliau gwerthuso meintiol, lled-arbrofol, neu ansoddol – nid oes angen profiad blaenorol.
- Cydweithio â swyddogion, academyddion ac arbenigwyr ar synthesis tystiolaeth, dadansoddi polisïau a gwerthuso effaith.
Pam ddylech chi ymgeisio?
- Rhwydweithio â llunwyr polisi a chael cipolwg ar weithrediadau’r llywodraeth.
- Hybu rhagolygon cyflogaeth – mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i rolau polisi yn y llywodraeth ac mewn melinau trafod.
- Mae tua 30 o leoliadau gwaith ar gael ar draws y cynllun blwyddyn.
Interniaethau wedi’u trefnu eich hun
Gall myfyrwyr hefyd drefnu eu interniaeth eu hunain. Rhaid i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny lenwi Ffurflen Gais am Interniaeth wedi’i Drefnu eich Hun YGGCC gyda chefnogaeth y sefydliad sy’n cynnal yr interniaeth a’ch goruchwyliwr a’i chyflwyno i enquiries@wgsss.ac.uk o leiaf dri mis cyn dyddiad cychwyn arfaethedig yr interniaeth. Mae YGGCC yn adolygu ceisiadau ar sail dreigl.
Rhaid i interniaethau ddarparu rhaglen strwythuredig o weithgareddau neu brosiect diffiniedig sy’n cefnogi datblygiad sgiliau trosglwyddadwy’r myfyriwr. Ni ddylid defnyddio interniaethau i gymryd lle staff dros dro nac i gwmpasu tasgau busnes fel arfer arferol.
Gellir dod o hyd i enghreifftiau o sefydliadau cynnal posibl ar y dudalen Partneriaid Allanol.
Adroddiad Diwedd Interniaeth
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno Adroddiad Diwedd Interniaeth i enquiries@wgsss.ac.uk o fewn tri mis i gwblhau’r interniaeth.
Profiadau Interniaeth
Yn y fideos 3 munud a ganlyn, mae myfyrwyr PHD Cymru sydd wedi gwneud interniaethau yn disgrifio eu profiadau ac yn myfyfyrio ar yr hyn maent wedi ei ddysgu, a sut y dylanwadodd hynny ar eu PhD.
Gallwch hefyd ddarllen adroddiadau interniaeth ein myfyrwyr.
