Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Gyffredinol 2025 YGGCC. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD o’u dyluniad eu hunain (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2025/26) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, sef 11 Rhagfyr 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gyffredinol YGGCC.
Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd amrywiol, yn ogystal â’r heriau rydych wedi’u hwynebu (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).
Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gydweithredol. Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau.
2025 Amserlen y Gystadleuaeth Gyffredinol
16/09/2024 | Ceisiadau’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn Agor |
11/12/2024 | Dyddiad cau i fyfyrwyr wneud cais Ar ôl y dyddiad cau; caiff ceisiadau eu hasesu gan ysgolion a llwybrau academaidd. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Os yw myfyriwr yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yn cael ei gwblhau gan oruchwylwyr. |
28/02/2025 | Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC Caiff ceisiadau eu hadolygu gan Is-grŵp Bwrdd Rheoli YGGCC. |
20-21/03/2025 | Cytuno ar y dyfarniadau Bydd YGGCC yn cysylltu ag ymgeiswyr i rannu eu penderfyniad o ran yr ysgoloriaeth. Gall ymgeiswyr gael eu rhoi ar y rhestr wrth gefn ar y cam hwn os nad ydynt wedi bodloni’r rhestr ar gyfer dyfarniad awtomatig. |
Ebrill 2025 | Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn Bydd YGGCC yn trefnu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i brosesu Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn a fydd yn pennu’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn yr ysgoloriaeth a hyd yr astudiaeth, gan ei gyfateb â’r ddarpariaeth sydd ar gael. |
Mehefin 2025 | Prosesu cynigion ffurfiol |
Mehefin 20245 | Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol |
Dogfennau sydd eu hangen ar gyfer y cais
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu’r dogfennau canlynol i gefnogi eu cais. Mae angen cyflwyno’r dogfennau hyn erbyn y dyddiad cau ar 11 Rhagfyr 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gyffredinol YGGCC.
Os bydd unrhyw ddogfen ar goll o’ch cais, bydd yn cael ei ystyried fel cais anghyflawn ac ni fydd yn gallu symud ymlaen i’r cam rhestr fer.
Ffurflen gais am Ysgoloriaeth YGGCC
CV academaidd
Dim mwy na dwy dudalen
Dau eirda academaidd neu broffesiynol
Rhaid i’r ymgeiswyr ofyn i’r canolwyr eu hunain, a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Rhaid i’r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
Trawsgrifiadau a Thystysgrifau Gradd
Gan gynnwys cyfieithiadau os yw’n berthnasol
6 – Os yw’n berthnasol, prawf o Gymhwysedd Iaith Saesneg
Gweler gofynion sefydliadol ar gyfer mynediad
Y broses ymgeisio
Cam 1 – Dewis Llwybr
Y cam cyntaf yw darganfod pa brifysgolion partner yn YGGCC sy’n cynnig hyfforddiant ymchwil a goruchwyliaeth yn y maes rydych chi am weithio ynddo. Mae 15 llwybr hyfforddi ar draws 7 prifysgol yn YGGCC. Nid yw pob llwybr ar gael ym mhob prifysgol. Mae ein tudalennau Llwybrau yn rhoi manylion am y pynciau sydd ym mhob llwybr. Os nad ydych yn siŵr ym mha lwybr hyfforddi y mae eich prosiect ymchwil arfaethedig, cysylltwch â’r Arweinydd Llwybr a enwyd i gael cyngor.
Cam 2 – Paru â goruchwyliwr
Dylech ddatblygu ymdeimlad cyffredinol o’r prosiect ymchwil rydych am ei ddilyn yn eich PhD, ac yna mynd at academydd yn un o sefydliadau partner YGGCC mewn llwybr sy’n addas i’ch prosiect. Rhaid i’r prif oruchwyliwr fod wedi’i leoli yn un o’r adrannau/ysgolion achrededig. Mae’r tudalennau staff academaidd ar wefannau sefydliadau partner YGGCC yn lle gwych i ddechrau, bydd gan y rhan fwyaf o’r tudalennau staff academaidd fywgraffiad sy’n manylu ar eu maes pwnc o ddiddordeb.
Fel arall, gallwch fynd at Cynullydd Llwybr YGGCC, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i oruchwyliwr addas.
Rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr brofiad amrywiol o lunio cynlluniau ymchwil. Fel rhan o’n hymrwymiad i ehangu cyfranogiad, anogir holl oruchwylwyr YGGCC i gefnogi ymgeiswyr i ddatblygu cynigion, gan adeiladu ar eu cryfderau a’u profiadau penodol.
Cam 3 – Gwneud cais i’r sefydliad o’ch dewis
Unwaith y byddwch wedi dewis eich llwybr a’ch sefydliad, dylech wneud cais ffurfiol drwy dudalennau’r brifysgol berthnasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol yn eich cais. Rhaid anfon pob dogfen erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn.
Cam 4 – Adolygu’r cais
Caiff eich cais ei adolygu gan yr adran/prifysgol lle mae eich darpar oruchwyliwr wedi’i leoli. Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw benderfynu ar gynnig lle PhD i chi.
Cam 5 – Cyfweliad ac enwebiad
Os ydych yn llwyddiannus ac yn cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad gan banel llwybr. Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei enwebu gan yr Arweinydd Llwybr i Fwrdd Rheoli YGGCC i’w adolygu. Bydd eich darpar oruchwyliwr hefyd yn cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i asesu eich profiad a’ch gofynion hyfforddi. Yna bydd YGGCC yn cysylltu â chi i gadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais.
Cam 6 – Canlyniad
Yn dilyn adolygiad gan is-grŵp cystadleuaeth arbennig y Bwrdd Rheoli, bydd YGGCC wedyn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr enwebedig i roi eu canlyniadau. Os byddwch yn llwyddiannus, anfonir cadarnhad o lythyr ariannu atoch y bydd angen i chi ei dderbyn neu ei wrthod o fewn pythefnos. Unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig, bydd gofyn i chi fynychu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i gwblhau eich Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn.
Cam 7 – Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cwrdd ag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC a fydd yn defnyddio’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol i helpu i adolygu eu profiad a’u hanghenion hyfforddi yn fanwl, gan gyfateb hyn â darpariaeth hyfforddi yn YGGCC. Bydd hyn yn caniatáu i’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn gael ei gwblhau, gan nodi hyfforddiant gofynnol a sefydlu hyd y dyfarniad.
Cam 8 – Cynnig ffurfiol
Unwaith y bydd hyd y dyfarniad wedi’i gadarnhau, byddwch wedyn yn cael llythyr dyfarnu ffurfiol a llythyr ariannu gan y sefydliad rydych wedi gwneud cais iddo.
Ysgoloriaeth a ariennir ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae YGGCC yn cynnig un ysgoloriaeth ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am yr ysgoloriaeth hon gynnal eu hymchwil a chwblhau’r PhD yn Gymraeg. Gall y PhD fod mewn unrhyw bwnc a gwmpesir gan lwybrau YGGCC. Gall Swyddogion Cangen y Coleg Cymraeg eich cynorthwyo i ddod o hyd i oruchwyliwr priodol sy’n siarad Cymraeg mewn llwybr YGGCC.
Dolenni gwneud cais
Yn aros am ddolenni, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n fuan
Pathway | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Addysg | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | Ymgeisiwch | AMH |
Astudiaethau a Troseddeg | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | Ymgeisiwch | AMH | AMH |
Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Technoleg | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | AMH | AMH |
Cynllunio Amgylcheddol | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | AMH | I’w gadarnhau |
Daearyddiaeth Ddynol | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | Ymgeisiwch | AMH | AMH | AMH |
Economeg | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau | AMH | AMH | AMH |
Economi Digidol a Chymdeithas | I’w gadarnhau | AMH | AMH | I’w gadarnhau | AMH | AMH | AMH |
Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | Ymgeisiwch | AMH | AMH |
Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | Ymgeisiwch | AMH | AMH | AMH |
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | AMH | AMH | Ymgeisiwch | AMH |
Iechyd a Llesiant a Gwyddorau Data | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | I’w gadarnhau | AMH | AMH | AMH | AMH |
Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | AMH | AMH |
Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth | I’w gadarnhau | AMH | AMH | I’w gadarnhau | AMH | AMH | AMH |
Rheoli a Busnes | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau | AMH | AMH | AMH |
Seicoleg | I’w gadarnhau | AMH | I’w gadarnhau | Ymgeisiwch | AMH | Ymgeisiwch | AMH |