Seicoleg

Pob Llwybr > Iaith, Dysgu ac Ymddygiad
Sefydliadau: Cynullydd Llwybr:
Photograph of Dr Hayley Young

Dr Hayley Young (h.a.young@swansea.ac.uk)

Prifysgol Abertawe,

Cysylltiadau Llwybr:
  • Photograph of Prof Kami Koldewyn

    Prof Kami Koldewyn (k.koldewyn@bangor.ac.uk)

    Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor

  • Photograph of Dr Rhiannon Phillips

    Dr Rhiannon Phillips (RPhillips2@cardiffmet.ac.uk)

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

  • Photograph of Prof Marc Buehner

    Prof Marc Buehner (BuehnerM@cardiff.ac.uk)

    Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd

  • Trosolwg o’r llwybr 

    Trosolwg o'r llwybr  
    Mae'r llwybr Seicoleg yn canolbwyntio ar agweddau gwyddor gymdeithasol Seicoleg, sef disgyblaeth eang sy'n ymestyn o archwilio ymddygiad dynol mewn cyd-destunau cymdeithasol i ddadansoddiadau niwrolegol o adeiledd a swyddogaeth yr ymennydd a deall materion o bwysigrwydd cymdeithasol, megis y newid yn yr hinsawdd.  

    Mae'r llwybr yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe, ac mae'n cwmpasu mewnbwn arbenigol gan ymarferwyr seicoleg sy'n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil ac ymyriadau seicolegol a all wella canlyniadau i rai o aelodau mwyaf bregus y gymuned, a hynny gan weithio'n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid trwy gyfranogiad cyhoeddus a chydgynhyrchu. 

    Mae'r pedwar sefydliad sy'n rhan o'r llwybr hwn yn bartneriaid delfrydol oherwydd y cyflenwoldeb yn eu cryfderau ymchwil, sy'n cynnwys gwaith ar agweddau, cymhelliant, gwneud penderfyniadau ac emosiynau, eu proffiliau datblygiadol, a’r modd y maent yn ymwneud â'r amgylchedd a chynaliadwyedd, iechyd a llesiant, maeth a deiet, a chwsg.  

    Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol

    Mae hyfforddiant uwch yn tynnu ar gryfderau cyflenwol y pedwar sefydliad, e.e. dulliau cymysg a dulliau cydgynhyrchu o ymdrin ag ymchwil y gwyddorau cymdeithasol a datblygu ymyriadau, ystadegau Bayesaidd, a rhwydweithiau niwral artiffisial ar gyfer dadansoddi ac efelychu. Mae yna hyfforddiant arbenigol ar gyfer Camau 1 a 2 Cymdeithas Seicolegol Prydain, e.e. seicoleg fforensig/iechyd, ar gael i gynyddu sgiliau sy’n berthnasol i yrfaoedd anacademaidd yn y GIG neu mewn diwydiant.  

    Ceir digonedd o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad pellach trwy gydol y rhaglen ddoethurol. Mae'r partneriaid yn cynnal cynhadledd ôl-raddedig ar y cyd yn flynyddol i arddangos rhagoriaeth ac arloesedd yn yr amgylchedd hyfforddiant ac ymchwil ar y cyd.

    Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 

    Yn ymarferol, mae ymchwil yn cael ei galluogi trwy gydweithio ar lwybrau â nifer o sefydliadau amrywiol, er enghraifft yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Bywyd Gwyllt, Ymddiriedolaeth Innovate (cymuned Awtistiaeth), Llamau (elusen y digartref), Alcohol Change UK, Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, yn ogystal â chynlluniau lleoli, e.e. MSc mewn Cwnsela (Bangor).  

    Gall y myfyrwyr hefyd ymgysylltu â nifer o ganolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol megis Lleoedd Cynaliadwy yng Nghaerdydd, Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mangor, DECIPHER yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn ogystal â rhyngweithio â phrosiectau a gefnogir gan amrywiaeth o brosiectau Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig a phrosiectau Ewropeaidd. At hynny, mae gan bob sefydliad enw da am gydoruchwyliaeth ryngddisgyblaethol lwyddiannus o fyfyrwyr doethuriaeth (yn cynnwys ar y cyd â Busnes, Deintyddiaeth, Peirianneg, y Gwyddorau Cymdeithasol a Meddygaeth). 

    Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau allgymorth, megis Pint of Science a Soapbox Science, Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC ar y campws, a’r Ŵyl Wyddoniaeth Brydeinig, yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o allgymorth ac effaith.