Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal

Pob Llwybr > Hawliau a Llywodraethu
Sefydliadau: Cynullydd Llwybr:

Dr Andrew Dowling (DowlingA@cardiff.ac.uk)

Yr Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd

Cysylltiadau Llwybr:
  • Dr Andrew Davenport (acd11@aber.ac.uk)

    Prifysgol Aberystwyth,

  • Dr Matthew Wall (M.T.Wall@Swansea.ac.uk)

    Prifysgol Abertawe,

  • Prof Peter Dorey (Dorey@cardiff.ac.uk)

    Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

  • Trosolwg o’r llwybr 

    Mae'r llwybr Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal yn donio myfyrwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol i gynnal ymchwil uwch i fyd gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol ac astudiaethau ardal. 

    Rydym yn gydweithredol i'r carn, gan adeiladu ar gysylltiadau sefydliadol hirsefydlog rhwng Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth; Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd; Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe; ac Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.  

    Roedd ein llwybr wedi arddangos rhagoriaeth yn yr ymarfer ymchwil diwethaf, ac roedd effaith yn gryfder penodol. Rydym yn cyfuno arbenigeddau ymchwil cyflenwol mewn meysydd megis: 

    • cysylltiadau rhyngwladol a damcaniaeth wleidyddol, 
    • gwleidyddiaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig a pholisi cyhoeddus, 
    • diogelwch (gan gynnwys seiberddiogelwch a diogelwch niwclear),
    • strategaeth a deallusrwydd, 
    • gwleidyddiaeth ranbarthol a diogelwch (Ewrop, y Dwyrain Canol, Rwsia, Tsieina, Affrica, America Ladin ac Unol Daleithiau America), 
    • gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol, 
    • polisi cyffuriau byd-eang, 
    • gwleidyddiaeth rhywedd, 
    • gwleidyddiaeth amgylcheddol ac astudiaethau datblygu, gwrthdaro a heriau ôl-wrthdaro, 
    • astudiaethau rhyfel a heddwch 
    • gwleidyddiaeth a'r gyfraith (domestig a rhyngwladol). 
    • gwleidyddiaeth gymharol, 
    • iaith a chymdeithas ac ieithyddiaeth gymdeithasol 

    Mae ein llwybr yn unigryw o ran ehangder ei arbenigedd ar bynciau a dulliau, a'r moddau rhyngddisgyblaethol helaeth y mae ein myfyrwyr yn cael cyfle i ymgysylltu â nhw. Rydym hefyd yn mynd ati ein hunain i wahaniaethu trwy gynnig cyfleoedd, yn enwedig yng Nghaerdydd, i gyfuno astudiaethau ar iaith dramor ag ymchwil i wleidyddiaeth, diwylliant neu gymdeithas 'ardaloedd' penodol (cyfandiroedd, gwledydd neu ranbarthau).  

    Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol

    Mae pob myfyriwr yn elwa o ddiwylliant ymchwil bywiog y llwybr, sy’n cynnwys ymgysylltu parhaus â phryderon damcaniaethol a methodolegol craidd Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal; cyflwyniadau seminarau doethurol; a siaradwyr academaidd/ac ymarferwyr sy'n ymweld. Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ynghylch gwaith doethurol sydd ar y gweill mewn sawl fformat, ac mae'n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, cymhwyso dulliau ymchwil a chyfathrebu canfyddiadau.  

    Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 

    Mae’r myfyrwyr yn elwa o'n cysylltiadau â sefydliadau sy'n amrywio o Lywodraeth Cymru i Senedd San Steffan, i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu y DU, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Chatham House, Consortiwm y Polisi Cyffuriau Rhyngwladol, a rhwydwaith Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). 

    Mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i swyddi ymchwil ôl-ddoethurol neu ddarlithio ledled y DU ac yn rhyngwladol; neu maent yn defnyddio eu hyfforddiant yn y gwyddorau cymdeithasol i ddilyn gyrfaoedd y tu hwnt i'r byd academaidd: mewn cyfraith gyfansoddiadol, yn rolau cynghorwyr arbennig i Lywodraethau Cymru a'r DU, yng ngwasanaeth sifil y DU (y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn), mewn cyrff anllywodraethol, ac yn rolau ymchwilwyr seneddol yn y DU ac mewn mannau eraill.