Dr Tom Allbeson (allbesont@cardiff.ac.uk)
Prifysgol Caerdydd,
Prof Richard Thomas (richard.h.thomas@swansea.ac.uk)
Prifysgol Abertawe,
Trosolwg o’r llwybr
Trosolwg o'r llwybr
Mae cylchredeg gwybodaeth yn gyhoeddus yn hanfodol i normau democrataidd, sefydliadau, a dinasyddiaeth. Adrodd, tystiolaeth, delweddau, data, polisi ac ymchwil – mae'r holl ffynonellau gwybodaeth hyn yn cylchredeg mewn ecoleg ddigidol cymhleth sy'n rhychwantu’r cyfryngau cymdeithasol, newyddion ar-lein a’r diwylliant print, gan gwmpasu llywodraethau, symudiadau ar lawr gwlad, chwythwyr chwiban, cyrff anllywodraethol a newyddiaduraeth ymchwiliol arobryn. Bydd y llwybr Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth yn meithrin prosiectau doethurol mewn tri maes ymchwil croestoriadol sy'n berthnasol i ecosystemau gwybodaeth gyfoes: newyddiaduraeth a democratiaeth; democratiaeth a digido; a newyddiaduraeth a’r diwylliant digidol. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Newyddiaduriaeth a dinasyddiaeth ddemocrataidd yng nghyd-destun digido (e.e. arferion cyfoes newyddiaduraeth ymchwiliol; trawsnewidiadau mewn gwerthoedd newyddiadurol; newyddiaduraeth y dinesydd a chyfryngau amgen; llwyfannau digidol ac addysg gyhoeddus mewn iechyd a pherthnasoedd i bobl ifanc; dyfodol y cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus; chwythu’r chwiban, a sylw’r newyddion; ac ati)
- Heriau i ddadlau a llywodraethu democrataidd a hwylusir gan faes cyfoes y cyfryngau a chyfathrebu, a chyfleoedd yn hynny o beth (e.e. camwybodaeth ac anhwylder gwybodaeth; iaith casineb, hiliaeth a chasineb at fenywod; cyrhaeddiad ac effaith mathau newydd o lwyfannau democratiaeth ddigidol gwleidyddol ar-lein; ac ati)
- Goblygiadau newid technolegol ar gyfer gwerthoedd, arferion a chonfensiynau democrataidd (e.e. canlyniadau defnyddio systemau data a gwneud penderfyniadau awtomataidd ar gyfer cysylltiadau gwladwriaeth-dinasyddion; rolau newidiol emosiynoldeb, newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol; dealltwriaeth newydd o ryddid barn a llythrennedd gwybodaeth; dulliau newydd o lywodraethu’r cyfryngau/cyfathrebu; ac ati)
- Croestoriadau’r cyfryngau, technoleg a democratiaeth o safbwynt hanesyddol (e.e. ymchwil a hwylusir gan fethodolegau digidol, arloesol y dyniaethau; ysgolheictod sy’n defnyddio cyhoeddiadau, archifau a setiau data hanesyddol wedi’u digido; ac ati)
Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol
Mae'r llwybr yn cynnwys yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC, Prifysgol Caerdydd) a Thîm Pwnc y Cyfryngau a Chyfathrebu (Prifysgol Abertawe). Yn REF2021, roedd JOMEC yn ail yn y DU am ymchwil mewn astudiaethau cyfathrebu, astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau cyfryngau. Mae 95% o ymchwil yr ysgol yn cael ei chydnabod yn ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol, ac mae JOMEC yn darparu cymorth i grwpiau ymchwil perthnasol sy’n cynnwys y Lab Cyfiawnder Data, y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, y Grŵp Ymchwil Astudiaethau Cyfryngau Ffeministaidd, a Chanolfan Hanes y Cyfryngau Tom Hopkinson. Mae'r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe yn datblygu i fod yn ganolfan sefydledig ar gyfer astudiaethau cyfryngau. Yn 2022, enillodd y 3ydd safle yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr allan o 93 o adrannau cyfryngau'r DU.
Bydd myfyrwyr ar y llwybr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ar ddulliau ymchwil arloesol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal â seminarau ymchwil adrannol a gweithdai sgiliau ymchwilwyr ôl-raddedig (e.e. cyflwyno papurau, rheoli prosiectau a chyflogadwyedd) a gefnogir gan Academi Ddoethurol Caerdydd. Bydd hyfforddiant arbenigol yn cael ei ddarparu gan sefydliadau allanol yn ôl y gofyn (e.e. y Gymdeithas Hanes Llafar; hyfforddiant ar ddata digidol gan NatCen Learning). Gall y myfyrwyr hefyd fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a chyflwyno cynhadledd ryngwladol ddwyflynyddol JOMEC, Dyfodol Newyddiaduraeth.
Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd
Bydd gan raddedigion ar y llwybr ddiddordeb mewn gyrfaoedd ym myd academia, polisi, llywodraethu, ymchwil a datblygu, y diwydiannau creadigol, y cyfryngau a newyddiaduraeth.
Gwnewch gais am Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth yn:
- Prifysgol Abertawe (Link I’w gadarnhau)
- Prifysgol Caerdydd