Cyfle ariannu: Ysgoloriaethau PhD ADR UK

Mae YGGCC yn falch o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Ysgoloriaethau ADR UK. Mae’r cyfle ariannu hwn yn gwahodd goruchwylwyr ymchwil PhD sydd ar Lwybrau YGGCC i gyflwyno cynigion prosiectau.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK) yn gwahodd ceisiadau gan Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i gynnal carfan o ysgoloriaethau PhD gan ddefnyddio data gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ADR UK.  Caiff YGGCC wneud cais i gynnal hyd at bum ysgoloriaeth dan arweiniad goruchwylwyr.

Mae’r ysgoloriaethau hyn yn cynnig cyfle i fynd i’r afael â chwestiynau polisi sydd o flaenoriaeth gan ddefnyddio portffolio cynyddol ADR UK o setiau data blaenllaw,  sy’n cwmpasu meysydd fel addysg, cyfiawnder, cyflogaeth ac iechyd.

Bydd ysgoloriaethau ADR UK yn cael eu hariannu’n llawn ac maen nhw’n destun yr un Telerau ac Amodau â myfyrwyr sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan ERSC/Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI)


Amserlen y Gystadleuaeth

Bydd YGGCC yn cynnal cam cyntaf y gystadleuaeth, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 31 Gorffennaf 2026. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu ac yn cael eu rhoi ar restr fer, a bydd pum prosiect yn cael eu henwebu i ADR UK ar 15 Medi 2026.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2027. I’w cadarnhau ar ôl cyhoeddi canlyniadau ADR UK.

Ar ôl recriwtio, disgwylir y bydd carfan y myfyrwyr PhD yn dechrau ym mis Hydref 2027.

Cyfle ariannu ADR UK yn agor28 Ebrill 2026
Dyddiad cau i wneud cais i YGGCC31 Gorffennaf 2026
YGGCC yn adolygu’r ceisiadauMis Awst i fis Medi 2026
Dyddiad cau ADR UK15 Medi 2026
Penderfyniadau ariannuIonawr 2027
Ysgoloriaethau PhD yn dechrau Hydref 2027

Pwy sy’n gymwys

Rhaid i’r prif oruchwyliwr fod yn gweithio mewn llwybr a achredwyd gan YGGCC. Rhestrir adrannau cymwys ar Dudalennau Llwybrau YGGCC.

Rhaid i bob cais gynnwys defnydd o o leiaf un set ddata flaenllaw bresennol ADR UK – setiau data blaenllaw – ADR UK


Cyllid a dyfarniadau

Mae ysgoloriaethau ADR UK yn cael eu hariannu’n llawn ac yn cwmpasu ffioedd dysgu cartref safonol UKRI, cyflog byw blynyddol heb ei drethu i fyfyrwyr yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.   

Mae hyd y dyfarniad yn dibynnu ar anghenion hyfforddiant y myfyriwr; mae dyfarniadau yn amrywio o 3.5–4.5 blynedd amser llawn (neu gyfwerth â rhan-amser) ac yn cynnwys Lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio tri mis o hyd. Ceir mwy o fanylion ar y dudalen Ysgoloriaethau.


Sut i wneud cais

Bydd angen i oruchwylwyr sy’n dymuno gwneud cais gwblhau a chyflwyno Ffurflen B arhoi datganiad ategol sy’n amlinellu’r canlynol:

  • cryfderau’r goruchwyliwr mewn ymchwil, dadansoddi a hyfforddi ym maes dulliau meintiol;
  • sut byddai ysgoloriaeth sy’n defnyddio data gweinyddol cysylltiedig yn cyfrannu at ddatblygiad YGGCC a chymuned ymchwil maes data gweinyddol;
  • a yw cais am fynediad cychwynnol at setiau data perthnasol wedi cael ei wneud neu’i gymeradwyo;
  • y dull o ddenu ystod eang ac amrywiol o ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Dylid anfon ceisiadau i enquiries@wgsss.ac.uk erbyn dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026.


Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manyleb llawn yr alwad, ar wefan ADR UK.

Mae ADR UK hefyd yn cynnig gweminarau, sesiynau briffio am setiau data, a chefnogaeth gan gymheiriaid i helpu ymgeiswyr.

Nid oes modd i fyfyrwyr na sefydliadau nad ydyn nhw’n rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol presennol ESRC wneud cais i ymuno yn y cyfle hwn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ADRStudentships@esrc.ukri.org