Fy Interniaeth gydag Amgueddfa Cymru gan Susannah Paice

Dyma fyfyrwraig PhD YGGCC, Susannah Paice, yn ysgrifennu am ei lleoliad gydag Amgueddfa Cymru.

Pam wnaethoch chi gais am interniaeth gydag Amgueddfa Cymru?

Yn ystod y Gwanwyn y llynedd, roeddwn i’n cyrraedd y pwynt yn fy ymchwil PhD lle roedd cael seibiant yn gwneud synnwyr i mi. O ystyried bod y broses gychwynnol o gasglu data a’u dadansoddi eisoes wedi’i chwblhau, a’r ffaith y byddai popeth yn dod i ben ymhen fy nghyflwyniad mewn cynhadledd yr haf hwnnw, roedd yr amseru’n berffaith.

Ro’n i’n cadw fy llygad ar agor am gyfleoedd ar gyfer interniaethau yng nghylchlythyr YGGCC oherwydd clywais i bethau da gan bobl eraill, ond do’n i ddim yn siŵr a fyddwn i’n gallu dod o hyd i unrhyw beth fyddai’n addas i mi a’m set o sgiliau.

Ac wele, wrth imi chwilio am gyfleoedd, cododd cyfle i wneud interniaeth Sgiliau Treftadaeth, ac ro’n i’n llawn cyffro am hynny, er nad oedd hyn o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol â fy maes ymchwil (sef caffael ail iaith). Mae diddordeb gyda fi yn y sector treftadaeth, er nad oedd hynny’n rhywbeth y bues i’n ynghlwm ag ef cyn hynny, felly ro’n i’n credu y byddai’r interniaeth yn ffordd dda o roi cynnig arni. Hefyd, gan fy mod i’n berson sydd wedi mynd drwy’r byd academaidd heb fawr o brofiad o’r byd y tu allan, fy ngobaith oedd cael blas ar sut brofiad fyddai gweithio mewn sector gwahanol.

Beth oedd ynghlwm â’ch rôl gydol yr interniaeth?

Nod cyffredinol y prosiect oedd casglu gwybodaeth i’w chyfosod o fewn adroddiad ar gyflwr crefftau treftadaeth yn Amgueddfa Cymru. Yna, roedd yr adroddiad hwnnw i fod yn sail ar gyfer strategaeth grefft ehangach, a gafodd ei datblygu’n hwyrach.

Yn nhermau ymarferol, gwnes i dreulio’r wythnos gyntaf yn dod i adnabod fy ngoruchwylwyr a dod yn gyfarwydd â’r cyd-destun treftadaeth crefftau yn y DU. Roedd y mis cyntaf yn gyfuniad o ymchwil annibynnol a siarad â gweithwyr yn Sain Ffagan ynghylch pob math o ffigurau a themâu a fyddai’n berthnasol. Bu’r cyfnod hwn yn eithaf brawychus oherwydd sylweddolais i faint nad oeddwn i’n ei wybod am y sector, a pha mor fawr y gallai’r prosiect fod. Erbyn diwedd yr ail fis, ro’n i wedi mynd ar deithiau (i gyd wedi’u hariannu!) ar hyd a lled Cymru i ymweld â safleoedd eraill, a chyfweld â gweithwyr yn Amgueddfa Cymru ac yn eu plith roedd crefftwyr, curaduron, timau marchnata, penaethiaid safle, cyfarwyddwyr, a llawer mwy. Treuliais i’r mis olaf yn cynnal y cyfweliadau mewnol olaf, yn siarad â phobl o sefydliadau eraill am dreftadaeth crefftau, yn coladu’r themâu a gododd, ac, wrth gwrs, yn ysgrifennu’r adroddiad.

Heblaw ymweld â’r safleoedd, gwnes i dreulio’r rhan fwyaf o’r interniaeth yn gweithio gartref. Ro’n i’n mynd i Sain Ffagan tua unwaith yr wythnos i gynnal cyfweliadau ac i edrych ar ddeunyddiau ar y safle, ac fe deithiais i hefyd i’r Amgueddfa Genedlaethol yn Cathays i ymweld â’r llyfrgell. Ces i gyfarfod (bron â bod) bob wythnos gyda fy mhrif oruchwyliwr tan wythnosau ola’r interniaeth, ac wedi hynny, dechreuais i gael cyfarfodydd ychwanegol gyda’r Swyddog Datblygu Ymchwil, a wnaeth bwrw golwg dros ddrafftiau o’r adroddiad a helpu â fformatio’r fersiwn derfynol.

A helpodd yr interniaeth i ddatblygu eich sgiliau ymchwil?

Yn bendant. Roedd y rhan fwyaf o’r sgiliau a oedd eu hangen ar gyfer interniaeth yn rhai ro’n i eisoes yn meddu arnyn nhw i ryw raddau drwy fy ngwaith ymchwil, ond fe wnaeth y prosiect hwn roi’r cyfle imi allu ymarfer y sgiliau hynny’n ymhellach. Y sgil fwyaf amlwg a ddefnyddiais i oedd cynnal cyfweliadau. Cyn yr interniaeth, ro’n i ond wedi cynnal llai na 15 o gyfweliadau yn ystod fy ngyrfa, ond drwy gydol y tri mis yn gweithio ag Amgueddfa Cymru, fe wnes i gynnal tua 40 ohonyn nhw. A minnau’n berson swil yn naturiol, gwnaeth y profiad hwnnw roi hwb mawr i’m hyder.

Ar ddechrau’r interniaeth, ro’n i’n pryderu am wneud camgymeriadau a pheidio â gwneud popeth yn unol â disgwyliadau fy ngoruchwylwyr. Wrth i amser fynd yn ei flaen, sylweddolais i mai pobl brysur iawn oedd fy ngoruchwylwyr, er roedden nhw bob amser yn barod eu cymwynas. Mae prosiect tri mis yn wahanol iawn i un tair blynedd, a bu’n rhaid i mi ddysgu sut i ddefnyddio fy amser yn effeithlon iawn. Ar ôl ychydig o yma ac acw, fe wnes i weithio allan yn y pen draw sut i reoli mân-fanylion y prosiect er mwyn gallu cyflawni popeth mewn pryd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried interniaeth fel rhan o’u hyfforddiant doethurol?

  1. Byddwch yn barod i ymdrin â meysydd y tu allan i’ch maes pwnc. Eich sgiliau chi yw’r hyn y mae’r sefydliad lletyol yn gofyn amdanyn nhw – gallwch chi ennill unrhyw wybodaeth benodol i bwnc ar hyd y ffordd. Wrth reswm, mae’n bwysig eich bod chi’n ymddiddori ym mhrosiect yr interniaeth, ond byddwn i’n argymell ichi ystyried y sgiliau rydych chi am eu hymarfer yn ogystal â’r cynnwys.
  2. Peidiwch â gadael i’r tyb efallai fod cannoedd o bobl eraill yn gwneud cais am yr un interniaeth eich troi i ffwrdd. Efallai y bydd yr interniaeth sydd o ddiddordeb ichi yn rhy arbenigol i’r rhan fwyaf o bobl, a hyd yn oed os yw’n boblogaidd, mae gennych chi’r set o sgiliau gwych i fod cystal ag unrhyw un arall.
  3. Gofynnwch i bobl sydd eisoes wedi cwblhau interniaeth am eu profiadau. Bydd y rhain yn wahanol yn dibynnu ar lawer o ffactorau, fel y sefydliad lletyol a’r math o brosiect, a gallai cael mwy o wybodaeth eich helpu i benderfynu a ydych chi am ymgeisio am y cyfle hwnnw. Mae’r mwyafrif o bobl hefyd yn hapus i helpu ym mha ffordd bynnag ag y gallan nhw, felly peidiwch â bod ofn gofyn i weld eu ffurflenni cais llwyddiannus os ydych chi o’r farn y byddai hynny’n ddefnyddiol ichi.