Cystadleuaeth Gyffredinol dan Arweiniad Myfyrwyr


Mae Cystadleuaeth Gyffredinol 2026 ar Agor!


Mae Cystadleuaeth Gyffredinol 2025 wedi cau.

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Gyffredinol 2025 YGGCC. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD o’u dyluniad eu hunain (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2026/27) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, sef 11 Rhagfyr 2025. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gyffredinol YGGCC.   

Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd amrywiol, yn ogystal â’r heriau rydych wedi’u hwynebu (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).   

Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gydweithredol. Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau.  


2026 Amserlen y Gystadleuaeth Gyffredinol  

09/09/2025 Ceisiadau’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn Agor    
11/12/2025 Dyddiad cau i fyfyrwyr wneud cais  Ar ôl y dyddiad cau; caiff ceisiadau eu hasesu gan ysgolion a llwybrau academaidd. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Os yw myfyriwr yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yn cael ei gwblhau gan oruchwylwyr.  
23/02/2026 Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC  Caiff ceisiadau eu hadolygu gan Is-grŵp Bwrdd Rheoli YGGCC.  
20-21/03/2026Cytuno ar y dyfarniadau  Bydd YGGCC yn cysylltu ag ymgeiswyr i rannu eu penderfyniad o ran yr ysgoloriaeth. Gall ymgeiswyr gael eu rhoi ar y rhestr wrth gefn ar y cam hwn os nad ydynt wedi bodloni’r rhestr ar gyfer dyfarniad awtomatig.  
Ebrill 2026  Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn  Bydd YGGCC yn trefnu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i brosesu Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn a fydd yn pennu’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn yr ysgoloriaeth a hyd yr astudiaeth, gan ei gyfateb â’r ddarpariaeth sydd ar gael.  
Mehefin 2026Prosesu cynigion ffurfiol  
Mehefin 2026 Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol  


Ysgoloriaeth a ariennir ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol  

Mae YGGCC yn cynnig un ysgoloriaeth ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am yr ysgoloriaeth hon gynnal eu hymchwil a chwblhau’r PhD yn Gymraeg. Gall y PhD fod mewn unrhyw bwnc a gwmpesir gan lwybrau YGGCC. Gall Swyddogion Cangen y Coleg Cymraeg eich cynorthwyo i ddod o hyd i oruchwyliwr priodol sy’n siarad Cymraeg mewn llwybr YGGCC.  


Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth


Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Defnyddir yr wybodaeth a gesglir o’r ffurflen hon at ddibenion ystadegol a monitro yn unig. Ni chaiff ei defnyddio yn rhan o’r broses asesu. Defnyddir yr wybodaeth i gynhyrchu ystadegau anhysbys ar gyfer y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.


Dolenni gwneud cais  

Cystadleuaeth Efrydiaeth Gyffredinol
Dyddiad Cau Cais: 11:55pm 11-12-2025
PathwayPrifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol BangorPrifysgol CaerdyddPrifysgol De CymruPrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol Swydd Gaerloyw
AddysgAMHI’w gadarnhauAMHAMH
Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a TechnolegI’w gadarnhauAMHI’w gadarnhauAMHAMHAMH
Cynllunio AmgylcheddolI’w gadarnhauI’w gadarnhauAMHAMHI’w gadarnhau
Daearyddiaeth DdynolI’w gadarnhauI’w gadarnhauAMHI’w gadarnhauAMHAMHAMH
EconomegAMHI’w gadarnhauAMHAMHAMH
Economi Digidol a ChymdeithasI’w gadarnhauAMHAMHAMHAMHAMH
Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol I’w gadarnhauAMHI’w gadarnhauAMHAMH
Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau ArdalI’w gadarnhauI’w gadarnhauAMHAMHAMHAMH
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer CorffI’w gadarnhauAMHI’w gadarnhauAMHAMHAMH
Iechyd a Llesiant a Gwyddorau DataI’w gadarnhauI’w gadarnhauAMHAMHAMHAMH
Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd AMHI’w gadarnhauAMHAMH
Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a DemocratiaethI’w gadarnhauAMHAMHI’w gadarnhauAMHAMHAMH
Rheoli a BusnesI’w gadarnhauAMHI’w gadarnhauAMHAMHAMH
SeicolegI’w gadarnhauAMHI’w gadarnhauAMHAMH
Troseddeg a'r GyfraithAMHI’w gadarnhauAMHAMH