Cystadleuaeth Gyffredinol dan Arweiniad Myfyrwyr

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Gyffredinol 2025 YGGCC. Gwahoddir darpar fyfyrwyr sydd am wneud cais am ysgoloriaeth ESRC i ymgymryd â phrosiect ymchwil PhD o’u dyluniad eu hunain (gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2025/26) i gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, sef 11 Rhagfyr 2024. Sylwer: efallai y bydd gan sefydliadau ddyddiadau cau cynharach, bydd manylion am y rhain yn hysbysebion unigol Cystadleuaeth Gyffredinol YGGCC.   

Fel rhan o’r asesiad o ymgeiswyr, mae gan YGGCC ddiddordeb mawr ynoch chi fel unigolyn cyfan. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag edrych ar eich cyflawniadau academaidd yn unig (er enghraifft, nid oes angen gradd dosbarth cyntaf er mwyn cael eich asesu fel myfyriwr PhD rhagorol ac i dderbyn cyllid), byddwn yn ystyried yr hyn y gallwch ei gynnig i’r PhD drwy eich gwaith a’ch profiadau bywyd amrywiol, yn ogystal â’r heriau rydych wedi’u hwynebu (dylid manylu ar y rhain yn eich cais yn eich llythyr eglurhaol a’ch CV).   

Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun. Mae hyn yn wahanol i’r Gystadleuaeth Gydweithredol. Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau.  


2025 Amserlen y Gystadleuaeth Gyffredinol  

16/09/2024  Ceisiadau’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn Agor    
11/12/2024 Dyddiad cau i fyfyrwyr wneud cais  Ar ôl y dyddiad cau; caiff ceisiadau eu hasesu gan ysgolion a llwybrau academaidd. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Os yw myfyriwr yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yn cael ei gwblhau gan oruchwylwyr.  
19/02/2025  Anfonir ceisiadau ar y rhestr fer at YGGCC  Caiff ceisiadau eu hadolygu gan Is-grŵp Bwrdd Rheoli YGGCC.  
20-21/03/2025Cytuno ar y dyfarniadau  Bydd YGGCC yn cysylltu ag ymgeiswyr i rannu eu penderfyniad o ran yr ysgoloriaeth. Gall ymgeiswyr gael eu rhoi ar y rhestr wrth gefn ar y cam hwn os nad ydynt wedi bodloni’r rhestr ar gyfer dyfarniad awtomatig.  
Ebrill 2025  Cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn  Bydd YGGCC yn trefnu cyfarfod gydag Arweinydd Hyfforddiant YGGCC i brosesu Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn a fydd yn pennu’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn yr ysgoloriaeth a hyd yr astudiaeth, gan ei gyfateb â’r ddarpariaeth sydd ar gael.  
Mehefin 2025 Prosesu cynigion ffurfiol  
Mehefin 20245 Cyhoeddi llythyr ariannu ffurfiol  


Ysgoloriaeth a ariennir ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol  

Mae YGGCC yn cynnig un ysgoloriaeth ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am yr ysgoloriaeth hon gynnal eu hymchwil a chwblhau’r PhD yn Gymraeg. Gall y PhD fod mewn unrhyw bwnc a gwmpesir gan lwybrau YGGCC. Gall Swyddogion Cangen y Coleg Cymraeg eich cynorthwyo i ddod o hyd i oruchwyliwr priodol sy’n siarad Cymraeg mewn llwybr YGGCC.  


Dolenni gwneud cais  

Cystadleuaeth Efrydiaeth Gyffredinol
Dyddiad Cau Cais: 11:55pm 11-12-2024
PathwayPrifysgol AbertawePrifysgol AberystwythPrifysgol BangorPrifysgol CaerdyddPrifysgol De CymruPrifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol Swydd Gaerloyw
AddysgAr gauAMHAr gauAr gauAMHAr gauAMH
Astudiaethau a TroseddegAr gauAMHAr gauAr gauAr gauAMHAMH
Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a TechnolegAr gauAMHAr gauAr gauAMHAMHAMH
Cynllunio AmgylcheddolAr gauAr gauAr gauAr gauAMHAMHI’w gadarnhau
Daearyddiaeth DdynolAr gauAr gauAMHAr gauAMHAMHAMH
EconomegAr gauAMHAr gauAr gauAMHAMHAMH
Economi Digidol a ChymdeithasAr gauAMHAMHAMHAMHAMHAMH
Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol Ar gauAMHAr gauAr gauAr gauAMHAMH
Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau ArdalAr gauAr gauAMHAr gauAMHAMHAMH
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer CorffAr gauAMHAr gauAMHAMHAr gauAMH
Iechyd a Llesiant a Gwyddorau DataAr gauAr gauAr gauAMHAMHAMHAMH
Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd Ar gauAMHAr gauAr gauAMHAMHAMH
Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a DemocratiaethAr gauAMHAMHAr gauAMHAMHAMH
Rheoli a BusnesAr gauAMHAr gauAr gauAMHAMHAMH
SeicolegAr gauAMHAr gauAr gauAMHAr gauAMH