
Mae YGGCC yn falch o gynnig 4 cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau fel y’i nodir yn y disgrifiadau prosiect isod.
Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n dechrau yn ystod Haf/Hydref 2025 am gyfnod o 3-6 mis (ar sail amser llawn neu am gyfnod cyfwerth â rhan-amser). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad cyfwerth â hyd yr interniaeth ar gyfer eu PhD.
Mae’r cyfleoedd hyn i wneud interniaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr YGGCC a ariannwyd o dan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (myfyrwyr a ddechreuodd ysgoloriaeth rhwng 2017 a 2023). Ni ddylai ymgeiswyr fod o fewn 3 mis i ddiwedd cyfnod yr ysgoloriaeth a ariannwyd.
Sylwer, mae bod yn gymwys i ymgymryd ag un o interniaethau Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar fodloni rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys cyn gwneud cais.
Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.
Interniaethau sydd ar gael
Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:
Hyd: 3 mis
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS).
Dyddiad dechrau’r interniaeth: Haf/Hydref 2025 (union ddyddiad i’w drafod).
Hyd: 6 mis
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS).
Dyddiad dechrau’r interniaeth: Haf 2025 (union ddyddiad i’w drafod).
Hyd: 3 mis
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS).
Dyddiad dechrau’r interniaeth: Medi 2025 (union ddyddiad i’w drafod).
Hyd: 5 mis
Adran: Bydd yr interniaeth wedi’i lleoli o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS).
Dyddiad dechrau’r interniaeth: Medi 2025 (union ddyddiad i’w drafod).
Sut i Wneud Cais
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@wgsss.ac.uk erbyn 4pm ar y 18/07/2025