Cymrawd Ôl-ddoethurol : Dr Oliver Dodd


Crynodeb o’r Prosiect

Gwrthdaro arfog Colombia oedd un o ryfeloedd cartref hiraf y byd, gan arwain at dros 450,000 o farwolaethau a dadleoli eang. Yn 2016, llofnodwyd cytundeb heddwch hanesyddol, yn cynnwys ymrwymiadau uchelgeisiol i ddiwygio gwledig a gwleidyddol, ailymgorffori gwrthryfelwyr, a chyfiawnder trosiannol. Er gwaethaf y cyflawniadau hyn, mae llawer o elfennau sylfaenol y gwrthdaro yn parhau i fod heb eu datrys ac mae trais yn ailymddangos.

Bydd y gymrodoriaeth hon yn cyhoeddi canfyddiadau o’m hymchwil ddoethurol i’r rhesymau pam y parhaodd y gwrthdaro cyhyd a pham y llofnodwyd cytundeb heddwch o’r diwedd ar ôl degawdau o ymdrechion aflwyddiannus. Mae fy ymchwil yn herio esboniadau confensiynol, gan ddadlau nad ffactorau agos fel gwendid y wladwriaeth, masnachu cyffuriau, dyluniad sefydliadol, na chymhellion grwpiau arfog sy’n egluro’r gwrthdaro arfog orau, ond y newidiadau gwleidyddol ac economaidd mawr sydd wedi ailffurfio trefn gwladwriaeth Colombia dros amser. Yn arbennig, mae fy ymchwil yn dadlau bod newidiadau i’r economi wleidyddol ryngwladol ehangach a ffurf gwladwriaeth Colombia yn ganolog i wneud cytundeb heddwch 2016 yn bosibl.  

Trwy ledaenu fy nghanfyddiadau doethurol ar draws amrywiol gyhoeddiadau, bydd y prosiect yn galluogi rhanddeiliaid, academyddion a llunwyr polisïau i gael dealltwriaeth newydd o’r rhesymau pam mae gwrthdaro arfog yn parhau, yn ogystal â’r amodau ar gyfer llofnodi cytundebau heddwch.


Nodau ar gyfer y Gymrodoriaeth

  • Gorffen datblygu monograff llyfr gyda gwasg brifysgol flaenllaw
  • Cwblhau erthygl yn derfynol a’i chyflwyno i gyfnodolyn academaidd blaenllaw
  • Datblygu pecyn cymorth dwyieithog ac ymarferol ar sicrhau heddwch ar gyfer ymarferwyr datrys gwrthdaro mewn partneriaeth â rhanddeiliad sicrhau heddwch yng Ngholombia
  • Lledaenu’r canfyddiadau mewn cynhadledd academaidd flaenllaw
  • Lledaenu’r canfyddiadau yng Ngholombia trwy ddau weithdy sy’n ymdrin ag ymarferwyr a pholisi
  • Cyhoeddi erthygl ar gyfer y cyhoedd sy’n amlinellu’r ffactorau gwleidyddol ac economaidd rhyngwladol sy’n ysgogi gwrthdro i ailgychwyn yng Ngholombia
  • Dechrau datblygu cynnig grant allanol

Cyngor i ddarpar ymgeiswyr

Yn gyntaf, byddwn yn annog ymgeiswyr yn y dyfodol i ddechrau paratoi eu cais yn gynnar, yn enwedig o ran meddwl am sut gallant ddatblygu cais mor gryf â phosibl. Yn ail, byddwn yn annog ymgeiswyr i feddwl am addasrwydd y sefydliad a’r mentor, gan wneud yn siŵr bod yr ymgeisydd yn cyflwyno achos cryf ynglŷn â pham mae’r sefydliad a’r mentor o’i ddewis yn gweddu’n dda i’r prosiect. Yn drydydd, o ystyried y gallai ceisiadau gael eu hasesu gan ddarllenwyr y tu allan i arbenigedd uniongyrchol yr ymgeisydd, byddwn yn cynghori ymgeiswyr i esbonio beth yw prif ddadl y prosiect a’r cyfraniad at wybodaeth, yn ogystal â’r perthnasedd a/neu effaith polisi, mor eglur â phosibl. Yn bedwerydd, byddwn yn annog ymgeiswyr i sicrhau bod y cais yn uchelgeisiol ond hefyd yn realistig. Yn olaf, byddwn yn annog ymgeiswyr i roi hygrededd i’r nodau arfaethedig, megis, lle bo’n briodol, trwy ddarparu llythyrau partner sy’n tystio i’r cydweithio arfaethedig.


Cyhoeddiadau

Dodd, O. (2025) ‘War of movement: The political economy of conflict escalation in Colombia, 1990–1998’, Review of International Studies. DOI: 10.1017/S0260210525101411

Dodd, O. (2024) ‘Uncovering the sources of revolutionary violence: The case of Colombia’s National Front 1958–1964’, Small Wars & Insurgencies, 35(5), pp. 865–895. DOI: https://doi.org/10.1080/09592318.2024.2336635


Gwefan: http://www.oliverdodd.org/

LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/droliverdodd

ORCID: https://orcid.org/0009-0005-7260-5185

Ebost: Old37@aber.ac.uk