Blwyddyn fy nghymrodoriaeth mewn rhifau 

Ysgrifennwyd gan Dr Lucy Robinson, Cymrawd Ôl-ddoethurol ESRC 2025/2026, Prifysgol Caerdydd 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy wedi bod yn ddigon ffodus i astudio Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol ESRC yn YGGCC Prifysgol Caerdydd. Pwrpas cyffredinol y gymrodoriaeth yw atgyfnerthu gwaith y PhD drwy ddatblygu allbynnau, rhwydweithiau a sgiliau ymchwil a phroffesiynol. Cewch ragor o wybodaeth am waith y gymrodoriaeth drwy ddilyn y ddolen hon: Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol – YGGCC.  

O dan fentoriaeth yr Athro Dawn Mannay, ceisiodd fy mhrosiect – “Dydw i ddim yn siŵr a ydyn nhw’n gwybod fy mod i’n blentyn y lluoedd arfog”: Ddeall, cefnogi a hyrwyddo profiadau plant y lluoedd arfog yn ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr” – ategu cyfraniad cymdeithasol ac academaidd presennol fy ymchwil ddoethurol ac ymestyn arno drwy fabwysiadu dull o sicrhau effaith sy’n arloesol ac wedi’u dargedu. Drwy wneud hynny, roedd fy rhaglen o weithgareddau yn amlochrog gyda phob gweithgaredd yn cyfrannu at o leiaf un o fy nhri nod allweddol: 

i) gwireddu effaith fy ymchwil ddoethurol ar ymarfer  

ii) cyfleu fy nghanfyddiadau ymchwil, cyfnewid gwybodaeth a rhwydweithio 

iii) cefnogi fy natblygiad proffesiynol 

photo (c) John Cairns

Wrth i fy nghymrodoriaeth ddirwyn i ben, rwy wedi ceisio cyfleu hanfod yr hyn sydd wedi bod yn brofiad cyfoethog, amrywiol ac sydd wedi rhoi boddhad arbennig. Rwy wedi gwneud hynny drwy’r ffeithlun isod – blwyddyn fy nghymrodoriaeth mewn rhifau. Hanner ffordd drwy fy nghymrodoriaeth, ysgrifennais erthygl blog hefyd, yn rhan o gyfres ‘Cwrdd â’r Ymchwilydd’ Prifysgol Caerdydd, lle rwy’n myfyrio ar fy nghymrodoriaeth; gan roi rhagor o wybodaeth am y cynllun.