Fy interniaeth 6 mis gyda Cadw (fel rhiant i ddau blentyn ifanc yng nghanol Cymru) – Kirsty Usher

Dyma fyfyriwr PhD YGGCC, Kirsty Usher, yn ysgrifennu am ei lleoliad 6 mis gyda’r Cadw.

Rwy’n ysgrifennu hwn gyda’r gobaith o annog unrhyw un sydd, fel yr oeddwn i, ddim yn siŵr a yw’r interniaeth a ariennir gan ESRC ar eu cyfer. Fy sefyllfa i yw fy mod yn fyfyriwr aeddfed ac yn fam i ddau o blant ifanc. Dwi hefyd yn byw yn Aberystwyth sy’n llythrennol ar ddiwedd y lein os ti’n dod ar y trên. Efallai y bydd eich sefyllfa’n wahanol, ond yr hyn y gallech chi ei gydnabod sy’n debyg, yw bod gennych chi gyfrifoldebau allanol neu ardal yr ydych chi’n teimlo a allai eich rhwystro rhag manteisio ar y cyfle hwn.

Roedd yr interniaeth yr es i amdani yn brosiect nad oedd yn gysylltiedig â fy ymchwil PhD fy hun, ond roedd yn ddiddordeb academaidd gen i oedd yn bodoli eisoes. Roeddwn hefyd yn cydnabod sut y gallai fod o fudd i’m hymchwil fy hun gyda phersbectif newydd, gan fod rhai pethau’n gorgyffwrdd. Roedd ar gyfer Llywodraeth Cymru, gyda Cadw, yn gweithio ar adolygiad llenyddiaeth o les a’r amgylchedd hanesyddol yn y DU. Roeddwn yn gyffrous i archwilio fy niddordebau eraill fel hyn ac roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle i wneud hynny.

Y Realiti

Oherwydd y dulliau newydd o weithio o bell yn y sector cyflogaeth, o ganlyniad i’r addasiadau niferus sydd eu hangen ar ôl dyfodiad Covid 19, roeddwn i’n gwybod y gallai hyn fod o fudd i fy anghenion fel mam i blentyn bach ac opsiynau gofal plant cyfyngedig. Yn y broses ymgeisio, fe’i gwnes hi yn glir iawn beth oedd fy nghyfyngiadau gyda fy sefyllfa, cydnabuwyd hyn yn deg ac yn gydymdeimladol ac ni wnaeth rwystro’r broses. Wrth gwrs, dim ond un agwedd ohono oedd hyn ac wnes i ddim oedi, gan sicrhau fy mod yn amlygu fy nghryfderau a’m galluoedd yn gyffredinol.

Ond byddwn yn datgan eto, mae’n bwysig bod yn glir am yr hyn sy’n realistig bosibl i chi. Byddwn wedi bod wrth fy modd â’r cyfle i deithio i lawr i Gaerdydd yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd a phethau o’r fath, ond y gwir amdani oedd bod yn rhaid i mi, ac roeddwn i eisiau, aros yn Aberystwyth ar gyfer teithiau nôl a mlaen yr ysgol a gofalu am fy mhlentyn bach. Ddim i ddweud na allwn addasu trefniadau gofal plant, sef yr hyn wnes i gyda fy mhartner. Trafodais delerau hefyd gyda fy mhrifysgol i newid i fod yn rhan amser ar gyfer cyfnod 6 mis yr interniaeth. Roedd hyn yn golygu y gallwn roi set glir o oriau gwaith oedd ar gael ar gyfer yr interniaeth, gan roi llwyth gwaith hylaw i mi fy hun a’r holl gydbwysedd pwysig rhwng bywyd a gwaith. Oherwydd er fy mod wedi bod yn llawn amser ar gyfer y PhD, roedd fy nhrefn bresennol yn cynnwys gwaith gyda’r nos, ac roeddwn i’n deall bod contractau gwaith llywodraethol yn disgwyl i chi weithio o fewn fframiau amser penodol.

Y Pethau Ymarferol

Mae gan Aberystwyth ei swyddfeydd Llywodraeth Cymru ei hun, felly roeddwn yn gallu cytuno â fy ngoruchwylwyr i fynychu’r swyddfa unwaith yr wythnos, neu mor aml ag y gallwn. Dyma sut y cwrddais â’m goruchwylwyr a wnaeth yr ymdrech i deithio o ddau ben Cymru i fy nghyfarfod a’m croesawu. Rwy’n credu fy mod wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi cael dwy fenyw hael, hynod o hyfryd ac anhygoel o broffesiynol. Roedden nhw’n fy ystyried gyda deallusrwydd a pharch, rhoddodd hyder i mi lle’r oeddwn i’n ddealladwy yn nerfus ac yn ansicr o beth oedd eu disgwyliadau gen i.

Dechreuodd y prosiect ei hun esblygu trwy ymgynghori wythnosol gyda fy ngoruchwylwyr. Dechreuodd fel adolygiad llenyddiaeth, yn y bôn nid ceisio ailddyfeisio’r olwyn ond i gasglu’r holl ddata presennol o amgylch y DU a’i gymhwyso i Gymru. Ond wrth i’m hymchwil fy hun ddatblygu i’r ardal ac wrth i fy ngoruchwylwyr awgrymu staff eraill o fewn Cadw i gwrdd â nhw ynglŷn â’u rolau a thrafod sut y daeth yr agenda llesiant iddynt, dechreuodd y prosiect ddatblygu i fod yn fwy o ddull ansoddol sy’n seiliedig ar ymchwil. Yn bennaf wedi’i arwain gan gyfweliadau, dechreuais lunio rhestr o brosiectau lles yng Nghymru, ac mae’n ymddangos bod llawer ohonynt. Roeddwn i’n gallu eistedd a bod yn dyst mewn cyfarfod rhwng y pum sefydliad cadwraeth hanesyddol yn y DU ac Iwerddon. Cyfwelais weithwyr proffesiynol o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Roedd yn doreth o ddarganfyddiad a’m hunig ofid yw nad oedd gennyf fwy o amser i’w wario ar y prosiect. Hefyd, roedd y rhan fwyaf o hyn yn bosibl i’w wneud o gartref.

Y Manteision

Roedd mynd yn rhan amser gyda’r interniaeth, a gwneud rhywbeth mor hollol ffres a gwahanol, yn rhoi’r hoe fawr yr oedd ei angen arnaf o fy mhrosiect PhD fy hun. Roeddwn i wedi bod yn cael trafferth gyda’r hen fwgan cyfarwydd hwnnw o syndrom imposter, ac fe wnaeth y profiad hwn fy rhyddhau fi’n llwyr o hynny. Roedd y cyfle i gyfweld â gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn eu hamgylchedd gwaith ac i ryngweithio’n llwyddiannus â nhw, yn fy atgoffa o fy ngalluoedd fy hun.

Roedd y profiad yn ei gyfanrwydd yn rhoi hyder i mi fy hun, roedd y rhyngweithio ag eraill rwy’n credu yn allweddol. Er bod y rhan fwyaf ohono ar-lein, roedd yn dal i gyfrif ac yn amhrisiadwy. Roedd y mewnwelediad i’r sector penodol hwn yn hynod ddiddorol, er mwyn deall y cynllwynion yn well, ond hefyd y bobl y tu ôl i sefydliad fel Cadw.

Roedd hwn yn brofiad hynod fuddiol sydd wedi fy ngadael yn adfywiol ac yn optimistaidd am y dyfodol. O ran mathau eraill o ragolygon gyrfa y tu allan i’r byd academaidd ac yn awyddus i fynd gyda fy ymchwil fy hun. Ac yn bwysicaf oll, mae gen i wybodaeth ymarferol o’r syniadau hyn erbyn hyn, yn hytrach na dim ond academaidd, a sut maen nhw’n cael eu defnyddio ym myd llywodraeth sy’n cael ei yrru gan bolisi.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *