Gofynnom ni i’n myfyrwyr yn ddiweddar am ymchwil sy’n berthnasol i COVID-19. Cysylltodd Nicola Heady â ni i roi gwybod am ei phrosiect:
Mae iechyd meddwl da a chyflawniad addysgiadol i bob plentyn yn y DU yn flaenoriaethau i’r llywodraeth. Mae cyflawniad y deilliannau hyn yn galluogi ac yn grymuso plant i bontio rhwng rhwydweithiau cymdeithasol a gwella symudedd cymdeithasol. Fodd bynnag, mae plant sy’n agored i niwed ac o dan ofal bedwar gwaith yn fwy tebygol o fod ag anhwylder iechyd meddwl, a naw gwaith yn fwy tebygol o fod ag angen addysg arbennig (AAA); oherwydd anawsterau emosiynol, ymddygiadol, datblygiadol a dysgu.
Yng nghanol yr anawsterau meddwl a dysgu hyn mae anhwylderau niwroddatblygiadol megis ADHD, Awtistiaeth neu anableddau dysgu; cyflyrau gydol oes sy’n effeithio’n sylweddol ar iechyd meddwl, ymddygiad, cyfathrebu cymdeithasol a’r gallu i ddysgu. Does dim modd cefnogi’r cyflyrau hyn gan wasanaethau cymorth cyffredinol; mae gofyn am arbenigedd a dull amlddisgyblaethol penodol at ddibenion ymyrraeth effeithiol. Mae ymchwil ddiweddar gyda gweithwyr rheng-flaen yn awgrymu nad yw llawer o blant dan ofal yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, diagnosteg niwroddatblygiadol a chymorth a chefnogaeth AAA. Mae ffactorau megis trothwyon uchel a chyfyngol sydd angen eu bodloni i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed, asesiadau diagnostig sydd wedi’u hoedi’n ofnadwy, diffyg cymorth ar ôl a chyn diagnosis, adnoddau addysgu cyfyngedig a diffyg gwybodaeth arbenigol yn rhwystro ac yn tarfu ar ddiwallu anghenion unigryw’r plant bregus hyn.
Mae sefyllfa ddigynsail y coronafeirws eisoes wedi codi pryderon cymdeithasol ynghylch yr effaith andwyol ar iechyd meddwl a chyflawniad addysgol pob plentyn. Fodd bynnag, i’r plant o dan ofal sydd eisoes dan anfantais; mae’n bosibl y bydd newid rhagweithiol brys o ran gwasanaethau iechyd meddwl, adnoddau arbenigol ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth meddwl a niwroddatblygiadol a chefnogaeth AAA yn lleihau’r effeithiau trychinebus a ragwelir yn sgîl y sefyllfa, ac yn helpu i newid canlyniadau iechyd a chymdeithasol gwael sy’n cael eu rhagweld ar hyn o bryd i’r plant hyn.