Ynglŷn ag Ymchwil ar Waith
Mae Ymchwil ar Waith, o fis Hydref 2024 ymlaen, yn rhan graidd o’r PhD ar gyfer pob myfyriwr newydd sy’n derbyn ysgoloriaethau ESRC yn Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC). Mae Ymchwil ar Waith yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn profiadau datblygu ymarferol, gan gynnwys lleoliadau o fewn sefydliadau academaidd neu anacademaidd. Mae’n rhan annatod o’ch taith PhD, a gynlluniwyd i wella eich sgiliau ymchwil a phroffesiynol mewn cyd-destunau newydd.
Amcanion
Mae’r lleoliad Ymchwil ar Waith wedi’i gynllunio i’ch helpu i:
- Datblygu sgiliau craidd, proffesiynol a throsglwyddadwy
- Cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigedd methodolegol mewn cyd-destunau amrywiol
- Cael effaith yn gynnar yn eich gyrfa academaidd neu broffesiynol drwy fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn
Gall buddion ychwanegol gynnwys y canlynol:
- Adeiladu rhwydweithiau proffesiynol
- Ennill profiad mewn entrepreneuriaeth ac arloesi
- Cyfrannu at ddatblygu polisïau
- Gwella sgiliau ymgysylltu â’r cyhoedd
Meddyliau Cyntaf am Leoliad
Mae Myfyriwr WGSSS, Chloe Thompson, Prifysgol Swydd Gaerloyw, yn ysgrifennu am ei lleoliad gyda Llywodraeth Cymru.
Rydw i wir yn mwynhau’r lleoliad hyd yn hyn. Mae wedi bod yn ffordd wych o gael gwell dealltwriaeth o waith beunyddiol y gwasanaeth sifil, eu dull o weithio, a’r gwahaniaethau o’i gymharu ag ymchwil mwy academaidd.
Mae Myfyriwr WGSSS, Chloe Thompson, Prifysgol Swydd Gaerloyw, yn ysgrifennu am ei lleoliad gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i mi gymhwyso gwyddor ymddygiad mewn senarios byd go iawn ym maes iechyd y cyhoedd. Ochr yn ochr â hynny, mae’r lleoliad yn helpu i wella fy sgiliau ymchwil a deall ymddygiad pobl yn well mewn perthynas â phrofion.
Mae Myfyriwr WGSSS, Sherina Lowe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ysgrifennu am ei lleoliad gyda Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.

Cliciwch yma i ddarllen mwy o Feddyliau Cyntaf Lleoli.
Lleoliadau sydd ar gael
Gallwch ddewis o ystod o fathau o leoliadau:
Lleoliadau Anacademaidd dan Arweiniad Partneriaid
Cynhelir gan randdeiliaid cymeradwy YGGCC ar draws y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector.
Lleoliadau Academaidd dan Arweiniad Partneriaid
Cynhelir gan ganolfan ymchwil, tîm ymchwil, neu dîm gwasanaethau proffesiynol y tu allan i’ch tîm goruchwylio neu’ch adran gartref cyfredol.
Lleoliadau wedi’u trefnu eich hun
Rydych chi’n dewis ac yn trefnu lleoliad gyda sefydliad lletyol addas.
Lleoliadau Gwaith Allanol
Includes schemes such as the UKRI Yn cynnwys cynlluniau fel Cynllun Interniaeth Polisi UKRI, lleoliadau penodol i’r sefydliad IAA, neu gyfleoedd allanol perthnasol eraill.
Barod i ddechrau?
Cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer lleoliad yma: https://forms.office.com/e/3bXfSchBGL
Gwybodaeth bwysig
Rhaid i bob lleoliad fodloni meini prawf lleoliadau ESRC ac ni ellir bod â thâl ychwanegol at eich cyflog. Am gwestiynau neu arweiniad pellach, cysylltwch â’r Cydlynydd Ymchwil ar Waith drwy:esrcrip@bangor.ac.uk
