Mae gan YGGCC gyllid ar gyfer llwybrau i’w defnyddio ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau neu weithgareddau sy’n cynorthwyo’r gwaith o feithrin carfannau, yn enwedig y rhai sy’n dod â myfyrwyr o leoliadau daearyddol gwahanol at ei gilydd. Rydym yn croesawu ceisiadau ddwywaith y flwyddyn, a all fod yn geisiadau ar y cyd ar gyfer cynigion sy’n ymwneud â llwybrau lluosog. Mae hyd at £3,000 ar gael fesul llwybr.
Y Broses o Gyflwyno Cais
Dylai cynullwyr llwybrau ddefnyddio ffurflen gais YGGCC i wneud cais o dan y cynllun hwn. Gall eich llwybr fod yn rhan o un cynnig fesul cylch, am unrhyw swm hyd at uchafswm o £3,000 y llwybr dan sylw yn y cais (e.e. gall cais sy’n cynnwys 3 llwybr fod am hyd at £9,000 o gyllid). Nodwch pa weithgareddau a gynigir, yr amserlenni a ragwelir, a sut bydd y gweithgareddau’n cael eu trefnu. Dylid darparu manylion penodol ynghylch sut mae’r gweithgareddau’n cysylltu â’r llwybr a’i ddatblygiad. Dylech hefyd ddarparu costau. Rhowch fanylion unrhyw arian y gwnaethoch gais amdano neu a dderbyniwyd o ffynonellau eraill. Bydd gwerth unrhyw gyfraniad ariannol tuag at gostau yn cael eu hystyried wrth asesu ceisiadau.
Sylwch fod cefnogaeth YGGCC, p’un a yw’n ariannol, yn dechnegol, neu o ran cyhoeddusrwydd, yn amodol ar drefnwyr digwyddiadau yn cytuno i ddilyn Canllawiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant YGGCC ar gyfer Cynadleddau a Digwyddiadau (LINK to EDI guidance doc).
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu llenwi i enquiries@wgsss.ac.uk
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar dydd Llun 3 Mehefin 2024.
Y Broses Ddethol
Bydd panel asesu YGGCC yn ystyried ceisiadau am grantiau datblygu carfan. Dylid defnyddio’r arian o fewn 12 mis. Mae’n rhaid cael modd o archwilio’r holl wariant a dadansoddiad o’r costau, wedi eu hategu gan gopïau o anfonebau ar ddiwedd y gweithgaredd. Gwneir ad-daliad ar ôl derbyn a phrosesu gwaith papur treuliau. Bydd y Bwrdd yn cyhoeddi holiadur yn dilyn cwblhau’r gweithgaredd er mwyn canfod gwybodaeth fydd ei hangen at ddibenion adrodd blynyddol ESRC.
Byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ddiwedd Mehefin 2024.