Cymrawd Ôl-ddoethurol : Dr Lucy Robinson


Crynodeb o’r Prosiect

Mae plant y lluoedd arfog – y rhai sydd â rhiant neu ofalwr sy’n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, yn Lluoedd Arfog Prydain – yn grŵp o blant yn y gymdeithas nad yw eu lleisiau’n aml yn cael eu clywed mewn ymchwil, polisïau ac arferion. Mae hyn wedi golygu nad yw profiadau addysgol unigryw, anghenion cysylltiedig a hunaniaeth unigryw plant y lluoedd arfog (sydd wedi’u llunio gan ofynion y lluoedd arfog) yn cael eu deall na’u cefnogi’n llawn mewn ysgolion. Roedd fy ymchwil doethurol yn cydnabod hyn, a defnyddiais ddull arloesol a chreadigol trwy ymchwilio gyda phlant y lluoedd arfog i gael dealltwriaeth o sut mae bywyd milwrol yn dylanwadu ar eu hymdeimlad o bwy ydyn nhw a’u profiadau addysgol. Ar y cyd â chael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd yn y maes hwn, nododd fy ymchwil oblygiadau ymarferol sy’n ceisio bod yn sail i brofiadau plant y lluoedd arfog mewn ysgolion a gwella eu profiadau yn y pen draw.

Mae’r gymrodoriaeth hon felly yn gyfle i ategu cyfraniad cymdeithasol ac academaidd presennol fy ymchwil doethurol ac ymestyn arno trwy fabwysiadu dull o sicrhau effaith sy’n arloesol ac wedi’u dargedu. Fel sy’n cael ei drafod yn fwy manwl isod, bydd y gymrodoriaeth yn rhoi’r gallu i baratoi a chyflwyno allbynnau academaidd mwy traddodiadol ynghyd â datblygu adnoddau pwrpasol i gefnogi staff ysgolion sy’n gweithio gyda phlant y lluoedd arfog mewn capasiti proffesiynol.


Nodau ar gyfer y Gymrodoriaeth

  • Paratoi dwy erthygl ar gyfer cyfnodolion sy’n seiliedig ar ganfyddiadau ac allbynnau arwyddocaol fy ymchwil doethurol i’w cyhoeddi mewn cyfnodolion dylanwadol.
  • Datblygu erthyglau, blogiau a phodlediadau ategol sy’n hygyrch ac yn ddiddorol i gefnogi’r uchod.
  • Creu adnodd e-ddysgu pwrpasol gydag athrawon dan hyfforddiant ac athrawon ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio gyda phlant y lluoedd arfog yn ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr, ac ar eu cyfer.
  • Cydweithio â SCiP Alliance i greu adnodd digidol i gefnogi gwaith llais yn ysgolion y DU.
  • Cyflwyno yn Fforwm CIMVHR ac ymgymryd ag ymweliad sefydliadol â Phrifysgol Queen’s i gyfnewid gwybodaeth ynghylch rhoi ymchwil ar waith yn ymarferol.
  • Trefnu a chyflwyno cyfres o weminarau tair rhan ar ymchwil a methodoleg sy’n canolbwyntio ar blant, gan edrych ar grwpiau o blant a phobl ifanc cudd, ymylol neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ymchwil ymhellach.
  • Cynnal asesiadau dichonoldeb ar gyfer cydweithrediadau a/neu brosiectau ymchwil yn y dyfodol a chynllunio cyfleoedd gyrfaol ar gyfer y dyfodol. 

Cyngor i ddarpar ymgeiswyr

Mae’r broses ymgeisio am y gymrodoriaeth yn drylwyr ac yn amlochrog. Felly, mae’n bwysig rhoi digon o amser i chi eich hun lunio a mireinio’ch cynnig yn ofalus. Mae llawer o gyfyngiadau o ran nifer geiriau i gadw atyn nhw, sy’n gallu bod yn anodd ar y dechrau ond maen nhw wir yn eich annog chi i ysgrifennu’n gryno ac yn glir. Peidiwch ag ofni gofyn am adborth gan fentoriaid a chyfoedion. Hyd yn oed os nad yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch chi wedi dysgu llawer iawn o bethau ac wedi datblygu eich set sgiliau – yn barod i lwyddo gyda chais yn y dyfodol!


Cyhoeddiadau

Robinson, L. (2025). The Research Ethics Tree: engaging children and young people with research ethics using an interactive tool. Journal of Creative Research Methods, 1(1), 158-166. https://doi.org/10.1332/30502969Y2025D000000006 [cyhoeddiad mewn cyfnodolyn]. 

Robinson, L. & Ho, J. (2025). Embracing opportunities during your PhD: Reflections on planning and running a public engagement activity, British Educational Research Association (BERA). [postiad blog]. 

Robinson, L. (2024). Military life, mobility and me: a collection of composite images by British service children, Journal of Military, Veteran and Family Health, 10(2), 159-162, https://doi.org/10.3138/jmvfh-2023-0043 [cyhoeddiad mewn cyfnodolyn]. 

Robinson, L. (2024). Creative data generation methods: The self-portrait and relational map, National Centre for Research Methods (NCRM). [adnodd dysgu ar-lein]. 

Robinson, L. (2024). International Creative Research Methods Conference, 11-12 September, 2023, QMiP Bulletin, 37, 55-56, 10.53841/bpsqmip.2024.1.37.55. [adolygiad o ddigwyddiad].  

Robinson, L. (2024). Presenting at an e-festival: Experiences of an early career researcher, British Educational Research Association (BERA). [postiad blog].  

Robinson, L., & Rankin, J. (2024). Developing your early career researcher profile & skillset. (BERA Bites Issue 11), British Educational Research Association (BERA). [adnodd dysgu ac addysgu].  

Ginger, J., & Robinson, L. (2024). The Eighth Annual Qualitative Research Symposium 30–31 January 2024: Reflections from two doctoral students, QMiP Bulletin, 37, 57-58, 10.53841/bpsqmip.2024.1.37.57. [adolygiad o ddigwyddiad]. 


LinkedIn: www.linkedin.com/in/lucygbrobinson  

Ebost: Robinsonl29@cardiff.ac.uk