Adfer Coedweddau Afiach: Ymateb i Golli Coed Ynn a Llwyfenni yn y Deyrnas Unedig

Dr James Weldon
Llwybr: Cynllunio Amgylcheddol
Adran: Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gofodol
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Mentor: Yr Athro Sara MacBride-Stewart
Crynodeb o’r Prosiect
Wedi’u hysgogi gan hinsawdd sy’n newid a mwy o fasnach ryngwladol, mae achosion o glefydau coed yn dod yn fwy cyffredin ac yn fwy difrifol. Mae hyn ar adeg pan fo plannu coed yn nodwedd ganolog o bolisi amgylcheddol, yn fyd-eang ac yng Nghymru. Yn unol â hynny, dechreuodd fy PhD drwy ddadansoddi colled drychinebus coed oherwydd clefyd. Archwiliodd y prosesau, yr arferion a’r naratifau sy’n gysylltiedig ag adfer coedweddau rhag clefydau.
Mae llawer o ymdrechion cadwraeth wedi’u seilio ar y farn y dylid gwarchod natur gyda’r ymyrraeth ddynol leiaf posibl. Fodd bynnag, canfyddiad craidd o’m thesis oedd bod clefydau wedi achosi i gadwraethwyr a rheolwyr amgylcheddol groesawu organebau anfrodorol a hybrid, organebau sydd wedi’u cyflwyno neu eu creu gan y ddynoliaeth. Mae’r credoau hyn ynglŷn â gwerth dylanwad y ddynoliaeth ar fannau naturiol yn codi cwestiwn craidd sy’n berthnasol i faes ehangach cadwraeth sy’n deillio o’r ymdrechion adfer hyn: Mewn disgyblaeth a nodweddir gan yr awydd i gadw ecosystemau hanesyddol, sut mae cadwraethwyr yn ymateb i ecosystemau newydd, a’u trefnu, er mwyn creu dyfodol gwydn? Yn y gymrodoriaeth hon, byddaf yn datblygu’r ffordd hon o feddwl mewn perthynas â’r tair thema ganlynol: Rhywogaethau anfrodorol; Diffinio ‘coedweddau’; Organebau hybrid.
Nodau ar gyfer y Gymrodoriaeth
- Cynhyrchu cyhoeddiadau o ansawdd uchel i sefydlu hanes llwyddiannus a sicrhau bod y PhD yn cael yr effaith fwyaf posibl.
- Papur sy’n cynnig diffiniad amlrywogaeth mwy cyfannol o’r term coedwedd
- Papur sy’n archwilio dimensiynau gofodol ac amserol yr ymadrodd ‘y goeden iawn yn y lle iawn’
- Cyflwyno papurau mewn dwy gynhadledd ryngwladol.
- Cynhadledd Cymdeithas Ecolegol Prydain
- Cyfarfod Cymdeithas Daearyddwyr America
- Lledaenu ymchwil i lunwyr polisïau ac ymarferwyr amgylcheddol trwy seminarau ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau adfer a chadwraethwyr a Phlatfform yr Amgylchedd Cymru.
- Datblygu cais am gyllid Ôl-ddoethurol ar gyfer prosiect ymchwil o’r enw ‘Dyfodol Hybrid’
- Lledaenu ymchwil PhD i gynulleidfa gyffredinol
- Erthygl yn The Conversation ar rôl newidiol ‘brodoriaeth’ wrth reoli coedweddau
- Gweithio tuag at gyhoeddi yn llawlyfr golygedig Routledge International Handbook of Planetary Health, a datblygu’r rhwydwaith rhyngwladol sy’n gysylltiedig â’r llyfr hwn.
Cyngor i ddarpar ymgeiswyr
Meddyliwch yn ofalus am ba agweddau ar eich PhD yr hoffech eu datblygu ymhellach. A oes unrhyw benodau neu syniadau penodol a oedd yn ddiddorol neu’n gyffrous i chi nad oedd gennych amser na lle i’w datblygu’n llawn wrth ysgrifennu eich PhD? I mi, roedd y pethau hyn yn deillio o drafodaethau gyda fy ngoruchwylwyr yn ystod y camau ysgrifennu diweddarach ac yn fy Viva.
Cofiwch fod 9 mis yn gyfnod byr iawn, felly byddwch yn rhesymol ynglŷn â’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gyflawni.
Gwnewch yn siŵr fod eich brwdfrydedd ynglŷn â’ch prosiect yn amlwg wrth ysgrifennu. Roedd hyn yn anodd wrth ysgrifennu’r cais ar ddiwedd fy mhroses PhD gan fod fy mrwdfrydedd yn isel, yn ôl pob tebyg… ond cofiwch pam mae’ch ymchwil yn ddiddorol i chi a pham y credwch ei bod yn bwysig!
Cysylltwch ag ymgeiswyr llwyddiannus blaenorol – mae croeso i chi anfon e-bost ataf
Cyhoeddiadau
Bear, C., Mukherjee, A., Dahl, P. a Weldon, J. 2026. Policy roadmap: Governing food system transparency for sustainability, health, and food safety. Project Report. Caerdydd: Prosiect TITAN. Ar gael yn: https://titanproject.eu/wp-content/uploads/D7.4-Policy-Roadmap-final.pdf.
Weldon, J., Dahl, P., Bear, C. a Mukherjee, A. 2026. From transparency to implementation: A step-by-step guide to food system transparency. Caerdydd: Prosiect TITAN. Ar gael yn: https://titanproject.eu/wp-content/uploads/TITAN-Policy_From-transparency-to-implementation-A-step-by-step-guide-to-food-system-transparency-.pdf
Dahl, P., Weldon, J., Bear, C. a Mukherjee, A. 2026. Food system transparency that works for SMEs. Caerdydd: Prosiect TITAN. Ar gael yn: https://titanproject.eu/wp-content/uploads/TITAN-Policy-brief_Food-system-transparency-that-works-for-SMEs-3.pdf
Weldon, J. et al. 2026. One Health Case Studies: a resource for Parties to the Convention on Migratory Species. Ar gael yn: https://www.cms.int/sites/default/files/publication/one-health-case-studies_report_complete_0.pdf
Weldon, J. 2025. The fragmented afterlives of plants: Protecting elm trees from disease in Brighton. Agoriad: A Journal of Spatial Theory, 2, erthygl 2.9.
Walkling, B. et al., 2025. Editorial introduction: Working with fragments. Agoriad: A Journal of Spatial Theory, 2, erthygl 2.1.
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/james-weldon-537b842b4/
Google Scholar: https://scholar.google.com/citations?user=kvLixuMAAAAJ&hl=en
Ebost: weldonjr@cardiff.ac.uk
