Cronfeydd Ymchwil a Hyfforddiant

Fel myfyriwr YGGCC wedi eich cyllido drwy ESRC, mae gennych fynediad at lawer o gyfleoedd ychwanegol.

  • Rydym yn darparu cyllid tuag at hyfforddiant ychwanegol ar gyfer hyfforddiant iaith anodd lle bo hynny’n briodol ar gyfer eich ymchwil.
  • Mae gennym arian sydd ar gael i gyfrannu at gostau gwaith maes tramor lle mae hyn yn rhan annatod o’ch PhD.
  • Gallwch wneud cais am gyllid i gefnogi ymweliad â sefydliad tramor.
  • Os oes gennych anabledd sy’n golygu eich bod yn gorfod ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â’ch astudiaethau, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer ein lwfans myfyrwyr anabl.