Os ydych yn cael eich cyllido fel myfyriwr YGGCC rydych yn gymwys i gael lwfans tuag at eich costau (yn unol â’ch barn chi, eich goruchwyliwr neu eich adran fel modd o roi cymorth uniongyrchol â’ch ymchwil). Gallai enghreifftiau o gostau o’r fath gynnwys:
- Treuliau gwaith maes yn y Deyrnas Unedig
- Cynadleddau ac ysgolion haf yn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a thramor
- cyrsiau hyfforddiant iaith, sydd fel arfer yn cael eu hastudio yn y Deyrnas Unedig cyn taith gwaith maes tramor
- ad-dalu cyfieithwyr ar y pryd, tywyswyr, cynorthwywyr
- costau arolwg, e.e. argraffu, deunydd ysgrifennu, galwadau ffôn
- prynu eitemau bach o gyfarpar e.e. camerâu, recordyddion tâp, ffilmiau
- llyfrau a deunyddiau darllen eraill nad ydynt ar gael drwy lyfrgelloedd
Bydd eich sefydliad cartref yn prosesu hawliadau yn erbyn eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Cysylltwch â gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig eich ysgol/adran yn y lle cyntaf os nad ydych yn siŵr am y broses ar gyfer bilio treuliau yn erbyn eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.