Cynigion am Hyfforddiant yn y Brifysgol

Darpariaeth Hyfforddiant YGGCC

Ar ran yr ESRC, rydyn ni’n cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y myfyrwyr rydyn ni’n eu hariannu yn cael hyfforddiant ymchwil gwyddorau cymdeithasol eang sy’n rhoi sgiliau iddynt reoli gyrfa ymchwil lwyddiannus a chyfrannu at yr economi a’r gymdeithas yn ehangach.

Rydyn ni’n sicrhau darpariaeth o hyfforddiant craidd, penodol i bwnc a lefel uwch – drwy ein rhaglenni meistr mewn dulliau ymchwil, cyrsiau eraill a ddarperir gan sefydliadau YGGCC, a’n cyfleoedd hyfforddi lefel uwch ein hunain, gan gynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi ar-lein.

Yn ogystal, fel myfyriwr YGGCC mae yna amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi eraill ar gael i chi ledled y Deyrnas Unedig. Yn benodol, mae gennych hawl i fynd i unrhyw un o’r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hyfforddi dulliau ymchwil a gynigir gan Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol eraill ledled y Deyrnas Unedig. Hysbysebir y rhain drwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRM).


Hyfforddiant Cyfunol

Ar ôl pennu anghenion ein hysgolheigion drwy ein proses dadansoddiad o anghenion datblygu (DNA), rydyn ni’n darparu mynediad i hyfforddiant yn unol â’n darpariaeth hyfforddiant cyfunol. Mae hyn yn golygu bod yr holl brifysgolion sy’n rhan o’r cynllun a’n partneriaid strategol yn cytuno i rannu eu cyfleoedd hyfforddi er budd holl ysgolheigion YGGCC waeth ble maen nhw wedi’u cofrestru. Felly os ydych chi’n fyfyriwr cofrestredig mewn un brifysgol, ond bod cyfle hyfforddiant ar gael mewn un arall neu gydag un o’n partneriaid strategol (lle nad oes sesiwn gyfatebol ar gael yn eich prifysgol chi) yna byddwn ni’n eich cefnogi chi i gael mynediad at yr hyfforddiant hwnnw. Mae holl bartneriaid YGGCC wedi addo cefnogi’r egwyddor hon, ac rydyn ni’n falch iawn o’r cwmpas mae hyn yn ei gynnig i ni allu darparu arlwy hyfforddiant o safon fyd-eang. Bydd yr adnoddau cyfunol hyn yn datblygu’n raddol dros amser.

Rydyn ni hefyd yn datblygu platfform i gynnal adnoddau hyfforddiant ar-lein, gan gynnwys deunyddiau sydd wedi’u creu’n benodol ar ein cyfer ni, yn ogystal â recordiadau o’n cynadleddau a gweithdai hyfforddi uwch. Mae rhai o’r adnoddau hyn ar gael i fyfyrwyr PhD yn sefydliadau YGGCC yn unig a bydd angen manylion mewngofnodi, ond mae llawer ohonynt ar gael i bawb.


Beth am y costau sy’n gysylltiedig â chael hyfforddiant mewn lleoliadau eraill?

Bydd sefydliadau a phartneriaid yn gwneud popeth allan nhw i sicrhau bod hyfforddiant mor hygyrch â phosibl i’r rhai sydd ei angen. Serch hynny, os oes costau’n gysylltiedig â chael hyfforddiant, yna gellid talu’r rhain gan ddefnyddio Grant Hyfforddiant a Chymorth Ymchwil pob ysgolhaig. Cysylltwch â’ch goruchwyliwr/goruchwylwyr academaidd i drafod hyn yn y lle cyntaf.


Rhaglenni Hyfforddi ‘Mewnol’ i Raddedigion

Mae’r broses DNA yn gweithredu egwyddor ‘mewnol yn gyntaf’ – hynny yw, byddwn ni’n edrych i weld a oes modd ateb eich anghenion hyfforddi yn eich sefydliad cartref cyn chwilio mewn mannau eraill. Anogir ysgolheigion i ymgyfarwyddo â’r ddarpariaeth hyfforddiant sydd yn y brifysgol pan maen nhw’n cofrestru, gan ddefnyddio’r manylion isod.