
Mae ceisiadau AR AGOR ar gyfer y
Cystadleuaeth Effaith WGSSS 2026!

Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil presennol YGGCC a all ddangos bod eu prosiect, neu y bydd eu prosiect, o fudd gwirioneddol, amlwg i bobl, sefydliadau, cymunedau, neu’r gymdeithas ehangach, yn unol â diffiniad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o effaith.
Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i Fyfyrwyr Ymchwil a ariennir gan YGGCC sydd yn dal i fod o fewn cyfnod ariannu eu dyfarniad. Deellir, yn dibynnu ar ble rydych chi gyda’ch PhD, y byddwch chi ar gam gwahanol o’ch taith i greu effaith. Er mwyn caniatáu hyn, mae dau gategori ar gyfer Cystadleuaeth Effaith YGGCC:
Effaith a Gyflawnwyd
Gwobr o £500
Gall unrhyw fyfyriwr y tu allan i’w flwyddyn gyntaf (neu’r hyn sy’n gyfwerth â rhan-amser) ond sydd o fewn ei amserlen ariannu uchaf (yn ôl hyd ei ddyfarniad) wneud cais.
Amserlen Cystadleuaeth 2026
| 07/08/2026 | Lansio’r gystadleuaeth |
| 07/09/2026 | Dyddiad cau Cam 1 (ffurflen gais) |
| 17/09/2026 | Hysbysu ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a’u gwahodd i greu poster |
| 08/10/2026 | Dyddiad cau Cam 2 (posteri) |
| 12/10/2026 | Pleidlais ar-lein yn agor |
| 23/10/2026 | Cyhoeddi’r enillwyr yn nigwyddiad sefydlu YGGCC ym Mhrifysgol Caerdydd |

Sut i wneud cais
Mae dau gam i’r gystadleuaeth. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â gwneud cais os na allwch gymryd rhan ym mhob cam o’r broses ymgeisio.
Cam 2
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, gofynnir i chi wneud poster.
Bydd posteri’r myfyrwyr yn cael eu rhannu ar wefan YGGCC.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis trwy gyfuno sgoriau panel o arweinwyr effaith o fewn rhwydwaith YGGCC a phleidlais gymheiriaid ar-lein (yn agored i holl ysgolheigion YGGCC).
Gwobr
Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo Gwobr Effaith YGGCC.
Bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno yn ystod digwyddiad sefydlu myfyrwyr YGGCC 2026, a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd ar 23 Hydref 2026.
