Lleoliad Ymchwil mewn Ymarfer

Ynglŷn ag Ymchwil ar Waith

Mae Ymchwil ar Waith, o fis Hydref 2024 ymlaen, yn rhan graidd o’r PhD ar gyfer pob myfyriwr newydd sy’n derbyn ysgoloriaethau ESRC yn Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC). Mae Ymchwil ar Waith yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn profiadau datblygu ymarferol, gan gynnwys lleoliadau o fewn sefydliadau academaidd neu anacademaidd. Mae’n rhan annatod o’ch taith PhD, a gynlluniwyd i wella eich sgiliau ymchwil a phroffesiynol mewn cyd-destunau newydd.


Amcanion

Mae’r lleoliad Ymchwil ar Waith wedi’i gynllunio i’ch helpu i wneud y canlynol:

  • Datblygu sgiliau craidd, proffesiynol a throsglwyddadwy
  • Cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigedd methodolegol mewn cyd-destunau amrywiol
  • Cael effaith yn gynnar yn eich gyrfa academaidd neu broffesiynol drwy fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn

Gall buddion ychwanegol gynnwys y canlynol:

  • Adeiladu rhwydweithiau proffesiynol
  • Ennill profiad mewn entrepreneuriaeth ac arloesi
  • Cyfrannu at ddatblygu polisïau
  • Gwella sgiliau ymgysylltu â’r cyhoedd

Lleoliadau sydd ar gael

Gallwch ddewis o ystod o fathau o leoliadau:


Barod i ddechrau?

Cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer lleoliad yma: https://forms.office.com/e/3bXfSchBGL


Gwybodaeth bwysig

Rhaid i bob lleoliad fodloni meini prawf lleoliadau ESRC ac ni ellir bod â thâl ychwanegol at eich cyflog.  Am gwestiynau neu arweiniad pellach, cysylltwch â’r Cydlynydd Ymchwil ar Waith drwy:esrcrip@bangor.ac.uk