Mae Joey Soehardjojo, sy’n gymrawd ôl-ddoethurol gyda PHD Cymru, wedi ennill Gwobr Thomas A. Kochran a Stephen R. Selight am y ‘Traethawd Gorau’, gan y Gymdeithas Lafur a Chyflogadwyedd (LERA).
Ymgymerodd Joey a’i gymrodoriaeth yn Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau ei PhD yn Ysgol Busnes Warwick. Ei draethawd yw Knowledge and HRM Practice Transfer in Emerging Economies: The Case of Japanese Joint Ventures in Indonesia. Bydd Joey yn derbyn y wobr yng Nghyfarfod Blynyddol 72 LERA ddydd Sul 14 Mehefin 2020 yn Portland, Oregon.
Dywedodd cyfarwyddwr DTP Cymru, John Harrington “Mae pawb yn PHD Cymru ESRC am longyfarch Joey ar ennill y wobr hon sy’n cydnabod y gwaith hwn. Mae’n bleser gennym gefnogi ei brosiect Ôl-ddoethurol ar Drosglwyddo Adnoddau Gwybodaeth a Dynol mewn Economïau sy’n Dod i’r Amlwg. Mae Joey Soehardjojo yn aelod gwerthfawr o’n Cymuned Ddoethurol ac Ôl-ddoethurol ehangach ar draws Cymru, Mae’n gweithio yn Ysgol Busnes Caerdydd o dan arweiniad yr Athro Rick Delbridge.”