Cynllunio Amgylcheddol

Pob Llwybr > Lle, Amgylchedd a Datblygiad
Sefydliadau: Cynullydd Llwybr:
Photograph of Prof Gareth Enticott

Prof Gareth Enticott (enticottG@cardiff.ac.uk)

Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

Cysylltiadau Llwybr:
  • Photograph of Professor Mark Whitehead

    Professor Mark Whitehead (msw@aber.ac.uk)

    Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear, Prifysgol Aberystwyth

  • Photograph of Dr Freya St John

    Dr Freya St John (f.stjohn@bangor.ac.uk)

    Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Prifysgol Bangor

  • Photograph of Dr Matt Reed

    Dr Matt Reed (Mreed@glos.ac.uk)

    Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned, Prifysgol Swydd Gaerloyw

  • Photograph of Prof Stefan Doerr

    Prof Stefan Doerr (s.doerr@swansea.ac.uk)

    Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, Prifysgol Abertawe

  • Photograph of Dr Cai Ladd

    Dr Cai Ladd (c.j.t.ladd@swansea.ac.uk)

    Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, Prifysgol Abertawe

  • Trosolwg o’r llwybr 

    Mae cynllunio amgylcheddol yn nodedig o ran archwilio'n feirniadol dimensiwn gofodol ymyriadau mewn bywyd cymdeithasol ac economaidd ar amrywiol raddfeydd gwahanol. Mae rhyngweithio deinamig elfennau trefol a threfoli, ac ad-drefnu gwledigrwydd, yn themâu amlwg.

    Mae’r prif faterion yn cynnwys:
    • Cynaliadwyedd Trefol a Dinasoedd Clyfar.
    • Newid Ymddygiad Amgylcheddol.
    • Newidiadau amgylcheddol ardaloedd gwledig a rheoli adnoddau naturiol
    • Peryglon naturiol, bioddiogelwch ac effeithiau amgylcheddol ailstrwythuro amaethyddol
    • Llywodraethu amgylcheddol mewn dinasoedd a rhanbarthau
    • Newidiadau i systemau cynhyrchu a bwyta bwyd
    • Effeithiau strategaethau newid hinsawdd a lliniaru
    • Cludiant Cynaliadwy

    Mae'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r llwybr a'u meysydd diddordeb yn cynnwys:
    Prifysgol Aberystwyth – newid amgylcheddol gwledig ac ymddygiad amgylcheddol
    Prifysgol Bangor – cadwraeth bioamrywiaeth, llywodraethu adnoddau, cydymffurfiaeth cadwraeth a gwrthdaro, polisi coedwigoedd, ailwylltio, a gwerthuso effaith cadwraeth
    Prifysgol Caerdydd – bioddiogelwch ac ymddygiad ffermwyr, systemau bwyd, ynni, cludiant cynaliadwy, cynllunio trefol ac effeithiau newid hinsawdd
    Prifysgol Swydd Gaerloyw – iechyd coed, rheoli tirweddau, systemau bwyd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd i ardaloedd gwledig
    Prifysgol Abertawe – rheoli tanau coedwigoedd, newid defnydd tir, mapio risg amgylcheddol

    Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol

    Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn hyfforddiant ar ddulliau ymchwil cymdeithasol ym mhob un o sefydliadau'r llwybr. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i ddatblygu amserlen hyfforddi bwrpasol sy'n cynnwys ystod o fethodolegau meintiol ac ansoddol, a thechnegau dadansoddol, gan gynnwys dadansoddi cost manteision Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol. Gall myfyrwyr hefyd ymgysylltu â modiwlau eraill ar foeseg amgylcheddol, ymddygiadau a llunio polisïau. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn hyfforddiant arall fel rhan o'r clwstwr Lle, Amgylchedd a Datblygu, gan gynnwys cynadleddau blynyddol yng Nghymru a Chaerloyw.

    Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 

    Mae gan y llwybr gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o sefydliadau amgylcheddol cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys Llwyfan Amgylchedd Cymru (EPW), lle mae lleoliadau ac interniaethau ar gael i fyfyrwyr ddysgu a helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisi amgylcheddol. I gael rhagor o wybodaeth am EPW a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig, gweler eu gwefan . Mae myfyrwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i gynnal gwaith ymchwil pellach ac wedi gweithio i sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol.