Cafodd Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ei lansio mewn digwyddiad arbennig a gafodd ei gynnal yn Senedd Cymru yng nghwmni’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, gan gynnwys partneriaid strategol ac arweinwyr academaidd.
Mae YGGCC, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, yn un o 15 o bartneriaethau hyfforddiant doethurol sy’n rhan o rwydwaith ESRC (y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) yn y DU.
Mae YGGCC yn cynrychioli buddsoddiad o £40 miliwn mewn ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol ledled Cymru, sy’n cynnwys £18.5 miliwn gan ESRC (a swm cyfatebol gan brifysgolion) a £1.5 miliwn gan bartneriaid, sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Medr (CCAUC gynt), y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd YGGCC yn cefnogi 360 o fyfyrwyr doethurol newydd sydd wedi’u hariannu’n llawn mewn 15 o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â’r gwyddorau cymdeithasol, a hynny yn y prifysgolion canlynol: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru.
Bydd buddsoddiad ymhellach gan ESRC a Medr ym mhlatfform hyfforddi a rennir YGGCC yn arwain at gyrsiau i fyfyrwyr ledled Cymru ar ddulliau ymchwil uwch. Bydd cymorth gan ESRC hefyd yn galluogi pob un o fyfyrwyr YGGCC i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith yn y diwydiant, y llywodraeth neu’r trydydd sector.
Wrth siarad yn y digwyddiad lansio yn y Senedd, nododd yr Athro John Harrington (Prifysgol Caerdydd, Cyfarwyddwr Sefydlu YGGCC) fod ESRC yn ystyried cynlluniau YGGCC ar gyfer partneriaeth hyfforddiant doethurol newydd yn ‘rhagorol’, gan ganmol ei dull o ehangu cyfranogiad, drwy ysgoloriaethau wedi’u neilltuo, cynigion cyd-destunol a chamau eraill, yn ‘uchelgeisiol a gweledigaethol’.
A hithau’n un o fyfyrwyr presennol YGGCC, trafododd Melissa Martin (Prifysgol Caerdydd) ei hymchwil ar gyfiawnder a hygyrchedd, gan gynnwys ei chyfraniad allweddol i’r gwaith o ddatblygu strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant YGGCC.
Cafodd rôl YGGCC yn y gwaith o ledaenu arfer gorau a chyfleoedd ei hamlygu gan yr Athro Palash Kamruzzaman (Prifysgol De Cymru), a ddatblygodd ymwneud Prifysgol De Cymru â’r bartneriaeth.
Soniodd yr Athro Claire Gorrara (Prifysgol Caerdydd, Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) am ei phrofiad cadarnhaol o ddatblygu’r cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a sefydliadau eraill, gan nodi sut mae YGGCC wedi rhannu model ar gyfer cynnig traws-Cymru tebyg i AHRC (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau).
Yn rhan o’r digwyddiad lansio yn y Senedd hefyd roedd arddangosfa bosteri. Roedd y posteri’n tynnu sylw at brosiectau ymchwil 18 o fyfyrwyr YGGCC presennol, a oedd wrth law i drafod eu gwaith.