Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru
Mae YGGCC yn dynodi carreg filltir i’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Gan adeiladu ar lwyddiant Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, rydym yn cael ein cryfhau gan aelodau newydd o brifysgolion eraill, grŵp pwerus o bartneriaid strategol, ac ymrwymiad cryf gan randdeiliaid. Bydd YGGCC yn meithrin ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol o bob cefndir. Bydd yn rhoi hyfforddiant rhagorol ac yn eu paratoi’n ymarferol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd a chael effaith ar gymunedau yng Nghymru a ledled y byd.
Mae YGGCC yn gydweithrediad rhwng
Beth yw
YGGCC?
Mae YGGCC yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol ar y lefel uchaf ledled Cymru ar ystod o faterion sy’n effeithio ar ein cymdeithas heddiw.
Gwnewch gais am arian
Mae YGGCC yn cynnig 72 o ysgoloriaethau yn flynyddol drwy’r Gystadleuaeth Gyffredinol a’r Gystadleuaeth Gydweithredol.
Llwybrau
Pwnc
Mae YGGCC wedi’i ffurfio o 15 llwybr sydd wedi’u trefnu yn bum clwstwr thematig eang.