Mae Chloe Griffiths yn fyfyrwraig PhD a ariennir gan WGSSS sy’n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y Llwybr Daearyddiaeth Ddynol. Mae ei thesis, sy’n dwyn y teitl “Community Participation in Biological Recording: An Ethnography of Citizen Science,” yn archwilio ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gasglu data gwyddonol. Teithiodd Chloe i Copenhagen i gyfweld â’r Athro Alan Irwin o Ysgol Busnes Copenhagen, ysgolhaig arweiniol ym maes gwyddoniaeth dinasyddion.

Nid pob dydd rydych chi’n cael gwrdd ag awdur, yn enwedig awdur llyfr sy’n golygu llawer i chi. Rwy’n fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, a dyma’r stori am sut y ces i gyfle i gael sgwrs wych gyda’r academydd a “ysgrifennodd y llyfr” ar fy mhwnc i, yn llythrennol.
Fy enw i yw Chloe Griffiths ac rwy’n ymddiddori mewn Gwyddoniaeth Dinasyddion. Rwy’n cynnal ymchwil i ddarganfod beth sy’n ysgogi pobl i roi o’u hamser a’u harbenigedd i ychwanegu at ddealltwriaeth ddynol. Nid llwybr gyrfaol rydw i wedi ei ddilyn cymaint â chrwydr gyrfaol, trwy Amddiffyn Plant, Adnoddau Dynol, rhedeg elusennau, addysgu garddio organig, gwaith cynhwysiant digidol a nawr fel ecolegydd ymgynghorol. Un llinyn sy’n rhedeg trwy fy ngwaith i gyd yw dyhead cryf i weithio gyda chymunedau, gan helpu i ddod â phobl at ei gilydd, oherwydd sicrhau cyfraniad gan bawb yw’r ffordd i wneud cynnydd. Dyma’r dull rwy’n dal i’w ddefnyddio yn fy PhD.
Rydw i wedi treulio’r degawd diwethaf yn rhedeg grŵp bywyd gwyllt yn fy mhentref, Penparcau, cymuned led-drefol ar gyrion Aberystwyth. Nod y grŵp yw adeiladu cymuned o drigolion lleol a myfyrwyr Prifysgol i ddysgu sut i adnabod ac yna gymryd cofnodion gwyddonol o’r bywyd gwyllt rydyn ni’n ei weld.
Cyn i ni ddechrau, ychydig iawn o gofnodion bywyd gwyllt oedd yn bodoli ar gyfer yr ardal hon (heblaw am blanhigion gwyllt, diolch i waith rhai botanegwyr lleol arbennig). Cyfunwch hyn â chrynodiad poblogaeth uchel a’r galw am dai, ac mae’r pwysau i ddatblygu yn ein mannau gwyrdd yn glir.
Yn fy nghymuned i, roedd pobl yn sôn yn aml am y bywyd gwyllt cyfoethog yn yr ardal, yr oedden nhw wedi’i weld a’i glywed am genedlaethau, ond nid oedd y wybodaeth wedi’i chofnodi’n wyddonol o gwbl. Roedd hyn yn golygu na allai lleoliad rhywogaethau prin/sy’n prinhau gael ei ystyried mewn ceisiadau cynllunio, nac wrth osod blaenoriaethau lleol. Dyma lle daeth Gwyddoniaeth Dinasyddion â chyfeiriad newydd i’m bywyd.
Pan glywais y term hwn yn gyntaf, fe wnaeth daro tant yn syth fel disgrifiad o’m profiad i o gofnodi bywyd gwyllt. Roedd yn alwad i weithredu i mi, gan roi’r pŵer i ni i gyd gyfrannu at yr hyn rydyn ni’n ei wybod am ein bywyd gwyllt ni, yn ein hardal ni. Sefydlais Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau i greu cymuned hunangynhaliol o arbenigwyr bywyd gwyllt, a fyddai’n gallu defnyddio eu sgiliau i ddiogelu eu lleoedd eu hunain, boed yn lleol neu yn rhywle arall. Mae’r grŵp yn dal i ffynnu 10 mlynedd yn ddiweddarach, gyda mwy o bobl leol yn cymryd cyfrifoldeb am arwain sesiynau, rhywbeth sy’n rhoi boddhad mawr i mi. Rhyngom ni, rydyn ni wedi gwneud mwy na 13,000 o gofnodion bywyd gwyllt a gwneud ein pentref ni’n un o’r lleoedd mwyaf cofnodedig yng Ngheredigion.
Yn ystod y blynyddoedd o arolygu am amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, o weision y neidr i wlithod, o lygod dŵr i ystlumod, a bywyd pyllau dŵr, dechreuais sylwi bod cymryd rhan mewn Gwyddoniaeth Dinasyddion fel cymuned yn cael effeithiau penodol ar y ffyrdd roedden ni’n rhannu’r hyn roedden ni’n ei wybod fel grŵp. Roedd yn ymddangos bod rhyw fath o gyfnewidiad yn digwydd, y gwnes i elwa’n fawr ohono, a soniodd eraill am hyn hefyd gan bwysleisio nad oedd yn debyg i addysgu, neu ddysgu traddodiadol, ond yn rhywbeth gwahanol, gwell.

Dechreuais edrych ar y llenyddiaeth, a darganfyddais, er mawr syndod, fod bwlch yn y maes. Roedd digon o bobl wedi ystyried beth mae pobl yn ei gael allan o wirfoddoli a chofnodi bywyd gwyllt fel unigolion, gan weithio ar eu pen eu hunain, ond welais i ddim byd am beth mae pobl yn ei gael allan o weithio mewn grwpiau cymunedol i wneud y gweithgareddau hyn. Wedi troi at lyfr yr Athro Irwin, “Citizen Science”, a gyhoeddwyd ym 1995, darllenais am ei brofiadau o’r math hwn o waith, ei heriau a’i lwyddiannau. Ysgrifennodd fod angen gwerthfawrogi gwybodaeth o lygad y ffynnon ochr yn ochr â’r hyn a ystyrir yn draddodiadol fel ‘gwybodaeth wyddonol’. Roedd y syniad hwn mor ddiddorol i mi nes i mi ofyn am gael siarad gyda’r awdur, sy’n gweithio yn Ysgol Busnes Copenhagen (yn ogystal â Phrifysgol Aarhus).
Fis Ebrill yma, bues i’n ddigon ffodus i fynd i Copenhagen, a chael sgwrs wyneb yn wyneb gydag Alan Irwin. Siaradom am ei gysyniad o’r angen am “luosogrwydd o ffurfiau gwybodaeth y mae angen eu cydnabod ac adeiladu arnynt” (cyfieithiad o Irwin, A., 1995, t.167). Wrth i ni drafod y wybodaeth amrywiol y mae angen darparu ar ei chyfer a’i pharchu wrth ymarfer Gwyddoniaeth Dinasyddion, dywedodd yr Athro Irwin, wrth ymdrin â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol, “nad yw’r ffiniau disgyblaethol o unrhyw arwyddocâd o gwbl”. Gwnaeth hyn fy nharo fel pwynt pwysig iawn, mewn cytgord â’r rhyngddisgyblaethedd sy’n rhan annatod o’r maes, lle mae aelodau’r cyhoedd yn cynnig arbenigedd drwy haelioni yn seiliedig ar eu profiad fel addysgwyr, gwyddonwyr, garddwyr, rhieni, awduron, artistiaid ac unrhyw gyfuniad o’r ffyrdd croestoriadol rydyn ni’n diffinio ein hunain. Fel yr eglurodd, pan mae gennych chi berson sydd yn amlwg yn wybodus iawn, beth bynnag yw ei ddisgyblaeth, y peth pwysig i’w ofyn yw “beth ydych chi’n ei wybod, a sut gallwch chi helpu?” Canfûm dystiolaeth o hyn mewn canfyddiadau o’m hymchwil fy hun, lle roedd aelodau ein grŵp cofnodi bywyd gwyllt yn aml yn siarad am sut y “gall pawb gyfrannu” a “bod pawb yn chwarae rhan”.
Trodd ein trafodaeth at ystyriaethau o’r hyn rydyn ni’n galw ein hunain, ac a yw’r term ‘dinesydd-wyddonydd’ yn dal i fod yn briodol. Nododd Alan Irwin fod rhai ymarferwyr wedi dechrau defnyddio’r term ‘gwyddoniaeth gyfranogol’ yn lle gwyddoniaeth dinasyddion, yn enwedig yn yr UD, lle mai dyma’r term sy’n cael ei ffafrio bellach. Esboniodd fod sensitifrwydd o amgylch y term ‘dinesydd’, a all gael ei ddefnyddio fel term ffiniol i eithrio’r rhai o Fecsico a gwledydd eraill.
Yn y DU, rwy’n teimlo bod y term ‘ymchwil gyfranogol’ yn cael ei ddefnyddio’n fwy i awgrymu model cynhwysol ac anechdynnol o wneud ymchwil gyda chymuned, ond dyma’n sicr y broses ymchwil rydw i’n ei dilyn gyda’m grŵp cymunedol i. Rydyn ni’n gwneud ymchwil gyda’n gilydd, gan ddilyn dull sy’n ceisio bod yn ddemocrataidd ac yn gymdeithasol deg. Mae fy ymchwil wedi datgelu nad yw rhai aelodau’n teimlo bod y term ‘dinesydd-wyddonydd’ yn adlewyrchu’r gwaith maen nhw’n ei wneud fel cofnodwyr bywyd gwyllt, ac mae’r anfodlonrwydd hwn yn rhywbeth y byddaf yn ymchwilio iddo yn fy ngwaith maes. Fel y dywedodd yr Athro Irwin, “mae agweddau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yn mynd i glymau” mewn penderfyniadau ar enwi. Gobeithiaf y bydd fy nulliau cymysg sy’n cynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolygon bywyd gwyllt a arsylwir yn ethnograffig yn rhoi mwy o gyfoeth o fanylion ar sut mae grwpiau cymunedol yn rhesymu am y mater hwn, a chyfle i ni i gyd geisio ei ddatrys.
Roedd y cyfle i siarad ag awdur llyfr sydd mor bwysig yn fy maes yn un cyfoethog ac ysbrydoledig. Mae’n rhywbeth a fydd yn creu argraff barhaol ar fy ymchwil, ac rwy’n diolch i’r Athro Irwin yn ddiffuant am y cyfle i drafod ein syniadau am wyddoniaeth dinasyddion gyda’n gilydd. Gartref yn Aberystwyth, dywedais wrth Alan fy mod i’n ysgrifennu’r blog hwn a gofynnais iddo a hoffai gynnig ychydig eiriau. Dyma’r hyn yr anfonodd ataf fi.
Fe ddysgais lawer o’m sgwrs gyda Chloe Griffiths. Mae hi’n frwdfrydig am ei gwaith ym Mhenparcau, ac mae hi wedi myfyrio’n ddwfn am y cwestiynau y mae’n eu codi. Ysgrifennais y llyfr “Citizen Science” ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Ar y pwynt hwnnw, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd meddwl am enghreifftiau o sut y gallai Gwyddoniaeth Dinasyddion edrych yn ymarferol. Gwnaeth siarad gyda Chloe fy atgoffa bod llawer o enghreifftiau gwych o Wyddoniaeth Dinasyddion ar waith erbyn hyn. Ac mae’r materion sylfaenol o wybodaeth, cyfranogiad a gweithredu amgylcheddol mor bwysig ag erioed. Fel rwy’n ei ddweud wrth fy myfyrwyr ymchwil fy hun, peidiwch byth â cholli golwg ar yr ysbrydoliaeth y gallwch chi ei rhoi i bobl fel fi, a ddechreuodd eu gyrfaoedd academaidd amser maith yn ôl.
Efallai fy mod i wedi ysgrifennu’r llyfr. Ond mae angen pobl ymroddedig fel Chloe Griffiths i wneud Gwyddoniaeth Dinasyddion yn fyw a’i dyrchafu i lefelau newydd. Rydw i wir yn dymuno pob llwyddiant iddi gyda’i phrosiect PhD a’i gwaith gwych ym Mhenparcau.
Alan Irwin
I ddysgu mwy am waith yr Athro Irwin, cliciwch yma.

I fyfyrwyr eraill sy’n ymddiddori mewn ymchwil gyfranogol neu sydd eisoes yn cynnal ymchwil o’r fath, argymhellaf ddefnyddio dulliau gyda’ch cyfranogwyr sy’n eu galluogi i ddylanwadu ar gyfeiriad eich ymchwil. Dewch o hyd i ffyrdd o feithrin eu gwybodaeth a’u profiadau a’u hymgorffori yn eich canfyddiadau. Byddwch yn barod i ymateb i’w mewnbwn, a newid ac ailffocysu eich ymchwil, yn seiliedig ar eu cyfraniadau.
Rwy’n ddiolchgar i’r ESRC am eu hysgoloriaeth, a ariannodd yr ymchwil hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i’m goruchwylwyr, yr Athro Mike Woods o’r Adran Daearyddiaeth a’r Athro Charles Musselwhite o’r Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth.