Dyma fyfyrwraig PhD YGGCC, Susannah Paice, yn ysgrifennu am ei lleoliad gydag Amgueddfa Cymru.
Pam wnaethoch chi gais am interniaeth gydag Amgueddfa Cymru?
Yn ystod y Gwanwyn y llynedd, roeddwn i’n cyrraedd y pwynt yn fy ymchwil PhD lle roedd cael seibiant yn gwneud synnwyr i mi. O ystyried bod y broses gychwynnol o gasglu data a’u dadansoddi eisoes wedi’i chwblhau, a’r ffaith y byddai popeth yn dod i ben ymhen fy nghyflwyniad mewn cynhadledd yr haf hwnnw, roedd yr amseru’n berffaith. Ro’n i’n cadw fy llygad ar agor am gyfleoedd ar gyfer interniaethau yng nghylchlythyr YGGCC oherwydd clywais i bethau da gan bobl eraill, ond do’n i ddim yn siŵr a fyddwn i’n gallu dod o hyd i unrhyw beth fyddai’n addas i mi a’m set o sgiliau.
Ac wele, wrth imi chwilio am gyfleoedd, cododd cyfle i wneud interniaeth Sgiliau Treftadaeth, ac ro’n i’n llawn cyffro am hynny, er nad oedd hyn o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol â fy maes ymchwil (sef caffael ail iaith). Mae diddordeb gyda fi yn y sector treftadaeth, er nad oedd hynny’n rhywbeth y bues i’n ynghlwm ag ef cyn hynny, felly ro’n i’n credu y byddai’r interniaeth yn ffordd dda o roi cynnig arni. Hefyd, gan fy mod i’n berson sydd wedi mynd drwy’r byd academaidd heb fawr o brofiad o’r byd y tu allan, fy ngobaith oedd cael blas ar sut brofiad fyddai gweithio mewn sector gwahanol.
Beth oedd ynghlwm â’ch rôl gydol yr interniaeth?
Nod cyffredinol y prosiect oedd casglu gwybodaeth i’w chyfosod o fewn adroddiad ar gyflwr crefftau treftadaeth yn Amgueddfa Cymru. Yna, roedd yr adroddiad hwnnw i fod yn sail ar gyfer strategaeth grefft ehangach, a gafodd ei datblygu’n hwyrach.
Yn nhermau ymarferol, gwnes i dreulio’r wythnos gyntaf yn dod i adnabod fy ngoruchwylwyr a dod yn gyfarwydd â’r cyd-destun treftadaeth crefftau yn y DU. Roedd y mis cyntaf yn gyfuniad o ymchwil annibynnol a siarad â gweithwyr yn Sain Ffagan ynghylch pob math o ffigurau a themâu a fyddai’n berthnasol. Bu’r cyfnod hwn yn eithaf brawychus oherwydd sylweddolais i faint nad oeddwn i’n ei wybod am y sector, a pha mor fawr y gallai’r prosiect fod. Erbyn diwedd yr ail fis, ro’n i wedi mynd ar deithiau (i gyd wedi’u hariannu!) ar hyd a lled Cymru i ymweld â safleoedd eraill, a chyfweld â gweithwyr yn Amgueddfa Cymru ac yn eu plith roedd crefftwyr, curaduron, timau marchnata, penaethiaid safle, cyfarwyddwyr, a llawer mwy. Treuliais i’r mis olaf yn cynnal y cyfweliadau mewnol olaf, yn siarad â phobl o sefydliadau eraill am dreftadaeth crefftau, yn coladu’r themâu a gododd, ac, wrth gwrs, yn ysgrifennu’r adroddiad.
Heblaw ymweld â’r safleoedd, gwnes i dreulio’r rhan fwyaf o’r interniaeth yn gweithio gartref. Ro’n i’n mynd i Sain Ffagan tua unwaith yr wythnos i gynnal cyfweliadau ac i edrych ar ddeunyddiau ar y safle, ac fe deithiais i hefyd i’r Amgueddfa Genedlaethol yn Cathays i ymweld â’r llyfrgell. Ces i gyfarfod (bron â bod) bob wythnos gyda fy mhrif oruchwyliwr tan wythnosau ola’r interniaeth, ac wedi hynny, dechreuais i gael cyfarfodydd ychwanegol gyda’r Swyddog Datblygu Ymchwil, a wnaeth bwrw golwg dros ddrafftiau o’r adroddiad a helpu â fformatio’r fersiwn derfynol.
A helpodd yr interniaeth i ddatblygu eich sgiliau ymchwil?
Yn bendant. Roedd y rhan fwyaf o’r sgiliau a oedd eu hangen ar gyfer interniaeth yn rhai ro’n i eisoes yn meddu arnyn nhw i ryw raddau drwy fy ngwaith ymchwil, ond fe wnaeth y prosiect hwn roi’r cyfle imi allu ymarfer y sgiliau hynny’n ymhellach. Y sgil fwyaf amlwg a ddefnyddiais i oedd cynnal cyfweliadau. Cyn yr interniaeth, ro’n i ond wedi cynnal llai na 15 o gyfweliadau yn ystod fy ngyrfa, ond drwy gydol y tri mis yn gweithio ag Amgueddfa Cymru, fe wnes i gynnal tua 40 ohonyn nhw. A minnau’n berson swil yn naturiol, gwnaeth y profiad hwnnw roi hwb mawr i’m hyder.
Ar ddechrau’r interniaeth, ro’n i’n pryderu am wneud camgymeriadau a pheidio â gwneud popeth yn unol â disgwyliadau fy ngoruchwylwyr. Wrth i amser fynd yn ei flaen, sylweddolais i mai pobl brysur iawn oedd fy ngoruchwylwyr, er roedden nhw bob amser yn barod eu cymwynas. Mae prosiect tri mis yn wahanol iawn i un tair blynedd, a bu’n rhaid i mi ddysgu sut i ddefnyddio fy amser yn effeithlon iawn. Ar ôl ychydig o yma ac acw, fe wnes i weithio allan yn y pen draw sut i reoli mân-fanylion y prosiect er mwyn gallu cyflawni popeth mewn pryd.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried interniaeth fel rhan o’u hyfforddiant doethurol?
- Byddwch yn barod i ymdrin â meysydd y tu allan i’ch maes pwnc. Eich sgiliau chi yw’r hyn y mae’r sefydliad lletyol yn gofyn amdanyn nhw – gallwch chi ennill unrhyw wybodaeth benodol i bwnc ar hyd y ffordd. Wrth reswm, mae’n bwysig eich bod chi’n ymddiddori ym mhrosiect yr interniaeth, ond byddwn i’n argymell ichi ystyried y sgiliau rydych chi am eu hymarfer yn ogystal â’r cynnwys.
- Peidiwch â gadael i’r tyb efallai fod cannoedd o bobl eraill yn gwneud cais am yr un interniaeth eich troi i ffwrdd. Efallai y bydd yr interniaeth sydd o ddiddordeb ichi yn rhy arbenigol i’r rhan fwyaf o bobl, a hyd yn oed os yw’n boblogaidd, mae gennych chi’r set o sgiliau gwych i fod cystal ag unrhyw un arall.
- Gofynnwch i bobl sydd eisoes wedi cwblhau interniaeth am eu profiadau. Bydd y rhain yn wahanol yn dibynnu ar lawer o ffactorau, fel y sefydliad lletyol a’r math o brosiect, a gallai cael mwy o wybodaeth eich helpu i benderfynu a ydych chi am ymgeisio am y cyfle hwnnw. Mae’r mwyafrif o bobl hefyd yn hapus i helpu ym mha ffordd bynnag ag y gallan nhw, felly peidiwch â bod ofn gofyn i weld eu ffurflenni cais llwyddiannus os ydych chi o’r farn y byddai hynny’n ddefnyddiol ichi.