Dyddiad Cau Cais: 17/02/2026
Cyflwynwch eich cais nawr i fod yn un o Gynrychiolwyr Clwstwr YGGCC!
Mae’r rôl hon yn hanfodol bwysig i YGGCC ac yn cynnig sianel ar gyfer sylwadau/syniadau gan fyfyrwyr eraill a ariennir gan YGGCC ar draws ysgolion a llwybrau academaidd. Bydd y rôl yn cynnwys gwaith sy’n seiliedig ar brosiectau i lywio a datblygu YGGCC a byddwch yn mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd tymhorol ar-lein gyda Arweinydd Clwstwr a Thîm YGGCC.
- Rydym yn recriwtio 1-2 o Gynrychiolydd Myfyrwyr ar gyfer pob Clwstwr
- Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr YGGCC o bob cam yn eu hastudiaethau.
- Bydd cynrychiolydd arweiniol yn cael ei enwebu gan garfan cynrychiolwyr y myfyrwyr ac yn rhan o grŵp rheoli YGGCC.
Beth yw Manteision Dod yn Gynrychiolydd Clwstwr YGGCC?

Ysgrifennodd Cynrychiolydd y Clwstwr Cymdeithas a Lles (2025) Betsi Doyle, Astudiaethau Technoleg a Gwyddoniaeth / Cymdeithaseg, Prifysgol Caerdydd:
Mae bod yn Gynrychiolydd Clwstwr wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn rhan o’r gymuned PhD y tu hwnt i’m sefydliad. Mae wedi fy helpu i ddod i adnabod carfan hyfryd o fyfyrwyr PhD a’r staff/tîm yn YGGCC. Mae helpu i drefnu digwyddiadau a myfyrio ar adborth fy nghydweithwyr PhD i helpu i ddatblygu rhaglen YGGCC ar y cyd wedi bod yn wych.
Ysgrifennodd Cynrychiolydd y Clwstwr Iaith, Dysgu ac Ymddygiad (2025) Walaa Mouma, Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd , Prifysgol Abertawe:
Fe helpodd y rôl hon fi i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu, trefnu ac arwain, a rhoddodd ddealltwriaeth ddyfnach i mi o sut mae lleisiau myfyrwyr yn cyfrannu at brofiad ehangach yr YGGCC. Byddwn ni’n annog myfyrwyr y dyfodol i wneud cais. Gall hyd yn oed cyfleoedd bach, anffurfiol i ddod ag ysgolheigion ynghyd wneud gwahaniaeth sylweddol i’w hymdeimlad o berthyn a’u lles.


Ysgrifennodd Cynrychiolydd y Hawliau a Llywodraethu (2025) Brett Lewis, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal , Prifysgol Caerdydd:
Mwynheuais i’r rôl hon yn fawr. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig cael trafodaethau â staff o safbwynt y myfyriwr, gan ei bod hi’n aml yn anodd gwybod â phwy i siarad pan fydd gennych chi gwestiynau pwysig ac anarferol. Roedd y rôl hon yn gyfle i fi greu pont rhwng staff a myfyrwyr yn fy nghlwstwr ac ateb rhai o’r cwestiynau oedd gan y myfyrwyr. Cefais i gyfleoedd i wella fy sgiliau cyfathrebu, fy nealltwriaeth o strwythurau prifysgolion ac Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC), ynghyd â chyfle i wella profiad myfyrwyr yn y dyfodol.
I bobl sy’n ystyried gwneud cais, dydw i ddim yn credu bod unrhyw reswm i beidio ag ystyried y rôl hon. Nid yn unig rydych chi’n cael y cyfle i gwrdd â phobl sydd hefyd yn ymddiddori mewn ymchwil, rydych chi’n meithrin perthnasoedd mewn disgyblaethau gwahanol ac yn dysgu llawer o bethau diddorol, a phethau dryslyd o dro i dro. Byddwn i’n argymell cysylltu â’ch clwstwr i gychwyn arni pan fyddwch chi’n dechrau, gan y bydd hyn yn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y rôl.
Rôl Cynrychiolydd Myfyrwyr
- Cwblhau gwaith sy’n seiliedig ar brosiectau i lywio a datblygu YGGCC.
- Cynnwys myfyrwyr eraill YGGCC drwy eu hannog i roi adborth a rhannu barn a syniadau.
- Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd tymhorol ar-lein gyda Arweinydd Clwstwr a Tîm YGGCC
- Mynychu cyfarfod blynyddol gyda Chyfarwyddwr YGGCC.
Dewis Cynrychiolwyr
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cyflwynwch eich cais trwy’r Ffurflen Gais MS atodedig. Gofynnir i enwebeion amlinellu, yn gryno, pam y bydden nhw’n gynrychiolydd myfyrwyr da a sicrhau cefnogaeth 1-2 fyfyriwr arall sy’n cael eu hariannu gan YGGCC ar gyfer eu henwebiad.
Bydd 1-2 cynrychiolydd myfyrwyr yn cael ei ddewis ar gyfer pob Clwstwr. Pan fydd mwy o enwebiadau na swyddi, gofynnir i gydfyfyrwyr fwrw eu pleidlais dros yr ymgeiswyr sydd orau ganddynt.
Y dyddiad cau i wneud cais yw 17 Chwefror 2026. I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i gyflwyno cais, ewch i Tudalen Recriwtio Cynrychiolwyr Clwstwr.

