Dr Marley Willegers, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Bangor
Teitl: Dringo allan o drosedd: Fframwaith gweithgareddau awyr agored ar gyfer adsefydlu perthnasoedd teuluol ansicr.
Roedd fy ymchwil PhD yn archwilio sut y gall cymryd risg mewn lleoliad gweithgareddau awyr agored helpu pobl i reoli emosiynau heriol. Yn gyntaf, dangosodd ein hymchwil y gall cymryd rhan mewn mathau o weithgareddau lle cymerir risg sy’n dderbyniol yn gymdeithasol, fel dringo creigiau, wella’r ymdeimlad o reolaeth emosiynol ym mywyd dyddiol ymhlith cyfranogwyr am hyd at chwe wythnos (Willegers et al., 2023). Yn ail, rydym yn ymestyn Theori Ymlyniad Cymdeithasol (1969) Bowlby gyda thystiolaeth sy’n awgrymu bod pobl yn troi at eu gweithgareddau chwaraeon am gysur emosiynol pan fyddant yn teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi gan eraill.
Amcangyfrifir bod chwalfa deuluol ac ymddygiadau niweidiol o gymryd risg, fel hunan-niweidio, trais a cham-drin sylweddau, yn costio £17 biliwn yn flynyddol i economi’r DU (Fraser ac Atkins, 2022). Felly, mae angen mawr am ymyriadau cynnar cost-effeithiol i wella perthnasoedd teuluol trafferthus.
Yr elfen wreiddiol o’m gwaith yw dod â’r cysyniad o gymryd risg mewn ffordd gadarnhaol ac ymlyniad cymdeithasol ynghyd fel dull newydd ar gyfer adsefydlu perthnasoedd teuluol lle nad yw unigolion yn cefnogi nac yn ymddiried yn ei gilydd a’u symud i ffwrdd o gymryd risgiau gwrthgymdeithasol. Nod y gymrodoriaeth bresennol yw datblygu ymyriadau yn seiliedig ar weithgareddau awyr agored i helpu teuluoedd a phobl ifanc i newid eu trywydd o gymryd risg negyddol (i’r hun ac i’r gymdeithas) i gymryd risg gadarnhaol, drwy ganiatáu iddynt gymryd risgiau mewn amgylchedd cefnogol a datblygiadol.
Mae’r gymrodoriaeth hon yn gam sylfaenol i mi a’n partneriaid mewn Cynghorau Lleol, Gwasanaethau Teuluoedd ac Ieuenctid, y Diwydiant Awyr Agored, a Gwasanaethau Addysg. Gyda’n gilydd, rydym yn bwriadu datblygu ein dealltwriaeth o’r mater i greu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol costus gyda’r nod o sicrhau cyllid ymchwil pellach, megis Grant Ymchwilwyr Newydd ESRC, i gynnal yr ymchwil uchod. At hynny, rwy’n bwriadu cyhoeddi ein Graddfeydd Cymorth Ymlyniad Perthynas sydd wedi’u dilysu’n empirig a thystiolaeth i ehangu Theori Ymlyniad Cymdeithasol (1969) Bowlby, gan gyfrannu at ddatblygiad y maes ymchwil hwn.
Ebost: pepa3a@user4401