Mae Canolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru (y DTC) yn gonsortiwm o brifysgolion blaenllaw a gychwynnodd ym mis Hydref 2011 drwy gael dyfarniad o rai miliynau o bunnoedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (yr ESRC).
Mae’r Ganolfan hefyd wedi cael £1.5m gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gynorthwyo’i gwaith yng Nghymru. Y partner-sefydliadau yw Aberystwyth, Bangor, Caerdydd (sefydliad arweiniol) ac Abertawe.