Mae cynadledau blynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn denu cydweithwyr o bob rhan o’r sectorau academaidd, polisi, sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru; ac mae wedi ennill ei phlwyf fel cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru.
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2026 dros ddau ddiwrnod (Dydd Mercher 8 a Dydd Iau 9 Gorffennaf 2026) ym Prifysgol Caerdydd.
Rydym yn gweithio’n agos â’n cydweithwyr yn WISERD wrth gynllunio cynadleddau, sy’n cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr doethurol gyflwyno papurau, rhoi cynnig ar gystadlaethau a phroffilio agweddau eraill ar eu gwaith mewn cyd-destun bywiog a chefnogol. Rydym hefyd fel arfer yn cyfrannu sesiwn hyfforddi.
Rydym yn annog holl fyfyrwyr YGGCC i fynd i’r digwyddiad blynyddol pwysig hwn.
Thema cynhadledd eleni yw ‘Ar Drywydd Dyfodol Cynaliadwy’.
Mae sawl hollt cymdeithasol, sydd wedi’u dwysáu gan argyfyngau byd-eang diweddar, yn tanlinellu pwysigrwydd yr amcanion llesiant hyn. Ac eto mae galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol parhaus yn gosod pwysau cynyddol ar y sefydliadau sydd â’r dasg o gyflawni’r amcanion. Yn y cyd-destun hwn ac ar ddechrau cyfnod newydd i Senedd Cymru, mae Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni’n dymuno archwilio heriau cyfoes allweddol a nodi’r polisïau a’r arferion sydd eu hangen i gefnogi nodau datblygu economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, yng Nghymru a thu hwnt.

Y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2026.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch crynodebau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2026 wedi’i YMESTYN i 9am, Dydd Mercher 22 Ebrill.
Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk.
