
Bydd Arweinydd Hyfforddiant YGGCC, Dr Peter Wootton Beard, yn trafod y syniad o gyflwyniad fflach ac yn rhannu ei 10 awgrym ar gyfer cynnal cyflwyniad fflach llwyddiannus.
Beth yw cyflwyniad fflach?
Mae cyflwyniadau fflach yn fyr ac yn gryno, a byddant fel arfer yn dod i ben wedi tair munud. Yn aml iawn, bydd angen i chi drafod eich gwaith a chreu argraff heb lawer o amser i wneud hynny. Meddyliwch am sefyllfaoedd megis rhwydweithio mewn cynadleddau, cael eich cyflwyno i gydweithiwr newydd neu ddarpar gydweithiwr, neu’r sgwrs gychwynnol mewn proses ariannu. Mae’r her o grynhoi eich syniadau i gyflwyniad tri munud, sy’n gyffrous ond yn gywir yn dechnegol yn ffordd wych o gael profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus, yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf i chi gyflwyno mewn cynhadledd. Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i brofi fformat y gystadleuaeth 3MT® (thesis tair munud), a allai fod o ddiddordeb i chi yn ystod eich ysgoloriaeth ymchwil.
10 awgrym da ar gyfer ysgrifennu eich cyflwyniad fflach
- Ystyriwch ddechrau gyda ‘pham’ a gorffen yr un peth – pa mor bwysig yw’r gwaith rydych chi’n ei wneud neu’r broblem rydych chi’n helpu ei datrys ar y dechrau, a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, yn sgil eich gwaith, ar ddiwedd y cyflwyniad.
- Mae tair munud yn rhy fyr ar gyfer rhannu manylion (neu ormod o fanylion beth bynnag!). Canolbwyntiwch ar yr hyn sy’n ddiddorol ac yn gyffrous am eich gwaith, a meddyliwch sut fyddai unrhyw un yn gwrando yn gwneud yr uchod yn berthnasol i’w byd nhw (a allai fod yn wahanol i’ch un chi!).
- Mae pobl yn dwlu ar straeon. Defnyddiwch eich sgiliau adrodd straeon, a gwnewch yn siŵr bod y cyflwyniad yn cynnwys naratif da a chymeriadau.
- Peidiwch â defnyddio trosiadau cymhleth neu aneglur – maen nhw fel arfer yn drysu pobl
- Defnyddiwch gymhorthion gweledol syml a chlir – ond fel propiau! Chi yw’r brif ffynhonnell wybodaeth, nid eich sleidiau.
- Cofiwch anadlu a siarad yn arafach na’r arfer – mae’r storïwyr gorau yn gwybod sut i ennyn diddordeb a chyffro.
- Gwneud yn lle dweud. Defnyddiwch eich tôn, iaith y corff ac ystumiau i helpu’r gynulleidfa i ddeall y stori.
- Drafftio, drafftio ac ailddrafftio. Gwnewch yn siŵr bod pwrpas i bob gair.
- Ewch ati i ymarfer! Rhowch gynnig ar fersiynau gwahanol i weld pa un sy’n cadw diddordeb eich teulu a’ch ffrindiau.
- Gwyliwch rai o gyflwyniadau 3MT® y gorffennol, i chi gael deall sut mae cynnal y cyflwyniadau gorau.