Cymrawd Ôl-ddoethurol : Dr Adam Fisher


Crynodeb o’r Prosiect

Mae genweirio hamdden ar y môr yn weithgaredd hynod boblogaidd yn y Deyrnas Unedig y mae tua 758,000 o oedolion yn cymryd rhan ynddo’n flynyddol. Ochr yn ochr â’r manteision cysylltiedig i les, mae pysgod yn ffynhonnell fwyd hollbwysig: yn ystod y trigain mlynedd diwethaf, mae pobl yn bwyta mwy na dwywaith cymaint o bysgod. Mae’n achos pryder bod dalfa stociau pysgod sy’n gynaliadwy yn fiolegol wedi gostwng tra bod y gyfran sy’n anghynaliadwy yn fiolegol wedi codi’n sydyn. Mae’r ateb i arafu’r tueddiadau hyn yn amlweddog, ond derbynnir yn gyffredinol bod sicrhau cynaliadwyedd stociau pysgod byd-eang yn dibynnu ar gydadwaith effeithiol rhwng polisi, ymddygiadau unigol, a nodweddion yr amgylchedd morol ei hun. Mae strategaethau rheoli sy’n rhychwantu’r ffactorau hyn yn allweddol i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu bodloni ar yr un pryd â sicrhau bod stociau pysgod yn aros yn gynaliadwy. Er bod y sector pysgota masnachol wedi cael llawer o sylw yn hyn o beth, cydnabyddir bellach fod pysgota hamdden yn hollbwysig i gynaliadwyedd adnoddau morol hefyd gan fod ymchwil wedi dechrau datgelu ei effaith fawr bosibl ar stociau pysgod. Er mwyn ymateb, mae polisïau amgylcheddol mewn sawl gwlad ledled y byd wedi rhoi mwy o bwys i bysgota hamdden morol, er bod llawer yn dal i ddadlau nad yw’r moroedd/cefnforoedd yn cael eu rheoli’n effeithiol o hyd.

Daeth hyn yn arbennig o berthnasol i’r Deyrnas Unedig yn sgil cyflwyno Deddf Pysgodfeydd 2020 yn dilyn Brexit. Am y tro cyntaf, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnwys genweirio hamdden ar y môr yn benodol yn y fframwaith polisi pysgodfeydd er mwyn ymateb i’r angen cynyddol i ddefnyddio dull mwy cyfannol o reoli adnoddau morol yn gynaliadwy o amgylch yr ynysoedd. Fodd bynnag, bryd hynny, ychydig a wyddys am y gymuned genweirio hamdden ar y môr yn y Deyrnas Unedig i gefnogi’r integreiddiad newydd hwn ac roedd ymchwil wedi dangos bod strategaethau rheoli’n gwella wrth ddarparu ar gyfer anghenion a disgwyliadau amrywiol rhanddeiliaid. Felly, roedd deall heterogenedd (gwahaniaethau) ymhlith genweirwyr hamdden ar y môr yn hanfodol, ac mae’n parhau i fod yn hanfodol, i reoli pysgodfeydd morol y Deyrnas Unedig yn effeithiol. Cyflwynodd fy ngwaith ymchwil doethurol y deipoleg gyntaf (model o wahanol fathau) o enweirwyr hamdden ar y môr yng Nghymru a Lloegr i lywio polisi pysgodfeydd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Disgrifiwyd heterogenedd ar draws genweirwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth orau gan deipoleg sy’n cynnwys pedwar math: defnyddwyr; genweirwyr tlws, genweirwyr hamdden-hunaniaeth; a genweirwyr cymdeithasol. Gwnaed nifer o gasgliadau cysylltiedig wedi’u sbarduno gan ddata: yn gyntaf, mae’r mathau o enweirwyr yn adlewyrchu’r rhai a gynhyrchwyd gan astudiaethau eraill ar bysgodfeydd dŵr croyw/cymysg y tu allan i’r Deyrnas Unedig; yn ail, roedd agweddau’n amrywio ar draws y sampl yn fwy nag ymddygiadau, yn benodol safbwyntiau ar bwysigrwydd genweirio mewn bywyd a’r amgylchedd, ac; yn drydydd, nid oedd arbenigedd yn ddamcaniaeth briodol i ddisgrifio amrywiaeth yn y sampl. Cynlluniwyd offeryn casglu data wedi’i fireinio yn seiliedig ar hunanddyraniad genweirwyr fel rhan o’r ymchwil hefyd gyda’r nod o’i gynnwys mewn astudiaethau adrodd am ddalfeydd yn y dyfodol; bydd hyn yn gwella cywirdeb data dalfeydd yn seiliedig ar astudiaethau sy’n defnyddio samplau a allai fod yn anghymesur o ran cynnwys gwahanol fathau o enweirwyr. Dangosodd yr ymchwil hefyd amrywiaeth yn yr ymatebion tebygol i wahanol amcanion polisi yn seiliedig ar y math o enweiriwr, gan amlygu bod polisïau cyffredinol yn debygol o fod yn llai effeithiol pan fyddant wedi’u hanelu at grŵp amrywiol o ddefnyddwyr terfynol.

Mae pedwar nod i’r gymrodoriaeth: 1) defnyddio’r data a gasglwyd yn fy ymchwil ddoethurol i gynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau cyfnodolion cysylltiedig; 2) buddsoddi mewn ymchwil newydd sy’n parhau i ddeall effaith y math o enweiriwr, yn benodol yng nghyd-destun cydymffurfio â rheoliadau draenogiaid môr yn y Deyrnas Unedig; 3) cydweithio â DEFRA er mwyn ymgorffori canfyddiadau’r ymchwil ymhellach yn y polisi pysgodfeydd presennol ac yn y dyfodol; 4) defnyddio allbynnau cyfunol y gymrodoriaeth i sbarduno gyrfa academaidd mewn ymchwil ac addysgu, gan gynnwys cais ymchwil RCUK/UE sy’n canolbwyntio ar safoni mesurau heterogenedd genweirwyr mewn polisi.  

Nodau’r Gymrodoriaeth

Amcan 1: Papurau – bydd cyfres o bedair erthygl cyfnodolyn yn cael eu hysgrifennu a’u cyflwyno mewn cynadleddau perthnasol.

Amcan 2: Ymchwil gyda llunwyr polisïau – bydd allbwn ac ymchwil newydd yn cael eu llywio trwy ymgysylltu â Defra. Bydd cyfres o weithdai’n cael eu cyflwyno wedi’u hanelu at ymarferwyr yn y maes polisi, o’r enw: 1) deall effaith heterogenedd genweirwyr wrth ddatblygu polisi; 2) mesur heterogenedd genweirwyr i’w gymhwyso mewn polisi; 3) normau a sbardunau wrth reoli draenogiaid môr.

Amcan 3: Ymchwil i gydymffurfedd – Bydd ymchwil newydd yn cael ei chynnal i archwilio ysgogwyr diffyg cydymffurfio a dulliau normadol o reoleiddio mewn polisi/rheolaeth genweirio.

Amcan 4: Grŵp ymchwil genweirio hamdden Ewropeaidd – bydd gweithgor byd-eang lleol yn cael ei gynnull i amlygu, cofnodi, trafod a chyflwyno ymchwil genweirio hamdden sy’n digwydd mewn gwledydd unigol. Bydd hyn yn meithrin cydweithio a chymharu data cenedlaethol fel y gellir rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith i sicrhau canlyniadau polisi llwyddiannus wrth reoli amgylcheddau cefnforol.


Cyngor i ddarpar ymgeiswyr

Ymgorffori effaith ym mhob agwedd ar y rhaglen ymchwil ac allbynnau arfaethedig.