Rheoli a Busnes

Pob Llwybr > Economi, Menter, a Chynhyrchiant
Cynullydd Llwybr:
Photograph of Dr Robert Bowen

Dr Robert Bowen (BowenR16@cardiff.ac.uk)

Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Cysylltiadau Llwybr:
  • Photograph of Dr Daniele Doneddu

    Dr Daniele Doneddu (D.Doneddu@Swansea.ac.uk)

    Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe

  • Photograph of Dr Binru Zhao

    Dr Binru Zhao (b.zhao@bangor.ac.uk)

    Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor

  • Trosolwg o’r llwybr 

    Mae'r llwybr Busnes a Rheoli yn dwyn ynghyd dri SAU: Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Reolaeth Abertawe ac Ysgol Busnes Bangor, i gynnig ystod a chyfuniad aruthrol o gryfderau sylweddol a methodolegol. Mae'r llwybr yn ffocysu meysydd y gwyddorau cymdeithasol ar yr heriau presennol i fusnes a'r dirwedd ddiwydiannol. Mae'n cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer rhyngddisgyblaethedd trwy ei arbenigedd disgyblu yn y canlynol: cyfrifeg, cyllid, bancio, marchnata, strategaeth, logisteg a rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol, rheoli sefydliadol, arloesedd, twristiaeth.

    Mae'r llwybr yn archwilio ac yn datblygu gwybodaeth mewn perthynas â materion ehangach sy'n gyson â’r prif heriau, e.e. cydraddoldeb, llesiant, gwaith teilwng, llywodraethu, sefydliadau’r dyfodol a chynaliadwyedd. Mae cryfderau SAU penodol yn cynnwys: rheoli a llywodraethu cyhoeddus, cyllid Islamaidd, arloesedd cymdeithasol, logisteg a rheoli gweithrediadau (Caerdydd, 2il bŵer ymchwil REF2021, amgylchedd ymchwil 4*), bancio (Bangor, 50 uchaf y byd), arloesedd digidol, adnoddau dynol, a pholisi datblygu mentrau (Abertawe).  

    Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol

    Mae'r llwybr yn cynnal diwylliant ac amgylchedd ymchwil bywiog a rhyngddisgyblaethol lle mae colegoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad yn werthoedd blaenllaw, a lle mae ein hysgolheigion nid yn unig yn cyfrannu at eu sylfaen ymchwil ond hefyd at gymdeithas. Mae’r sefydliadau ar y llwybr yn darparu hyfforddiant lefel Meistr mewn dulliau ymchwil, gan gynnwys ymchwil ansoddol a meintiol, dadansoddeg busnes, cloddio data, yn ogystal â hyfforddiant pwnc-benodol uwch a hyfforddiant pwrpasol arall, a hynny trwy gyfrwng seminarau ymchwil, gweithdai dulliau, sesiynau dwys, a seminarau ymchwil wyneb yn wyneb/ar-lein rheolaidd. Mae gan y llwybr arbenigedd mewn ymchwil sy'n cael ei lywio gan ddata. Ym mhob cam, disgwylir i fyfyrwyr gymryd rhan lawn mewn ystod eang o ddigwyddiadau datblygiadol a meithrin carfanau, gan gynnwys y Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol, seminarau ymchwil ar y cyd, gweithdai hyfforddi, cynulliadau ymchwil Cymru gyfan, digwyddiadau cymdeithasol myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a mentoriaeth. Mae mentrau pellach cynlluniedig yn cynnwys: ysgolion haf sy'n canolbwyntio ar heriau mawr, digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled y clwstwr, a grwpiau darllen, ysgrifennu a/neu adolygiad gan gymheiriaid sy’n seiliedig ar bwnc. 

    Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 

    O ganlyniad i ymchwil, effaith a dyfarniadau cydweithredol blaenorol, mae gan y llwybr berthynas agos ag ystod fawr o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Mae gan sefydliadau’r llwybr sawl grŵp ymchwil yn gweithio ar draws ystod o themâu a phynciau sy'n meithrin ymchwil ac effaith a arweinir gan heriau. Mae hyn yn rhoi rhagor o fynediad i fyfyrwyr at ymchwilwyr blaenllaw, gan hefyd gynnig cysylltiadau a phrofiadau eang iddynt, elfennau sy’n eu galluogi i rwydweithio o fewn carfan fwy ei maint a gweld eu hymchwil mewn cyd-destun disgyblaethol hynod o eang. Rhoddir anogaeth a chefnogaeth gref i fyfyrwyr fynd i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol a chyflwyno papurau ynddynt. Mae pob sefydliad yn cynnig sesiynau hyfforddi ehangach ar sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd.