Yn ddiweddar, cwblhaodd Katharine Young interniaeth yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, lluniodd adroddiad o’r enw ‘Addysg cyfrwng Cymraeg yn sgîl trochi hwyr: mapio’r ddarpariaeth yng Nghymru‘ (cliciwch ar y teitl glas i weld yr adroddiad) sydd bellach ar gael ar wefan y Llywodraeth.
Crynodeb Katharine o’r adroddiad:
Mae addysg drochi hwyr yn ddarpariaeth sydd yn caniatáu i hwyrddyfodiaid gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfnodau hwyrach na’r Cyfnod Sylfaen. Mae darpariaeth o’r fath wedi bodoli yng Nghymru ers nifer o ddegawdau, ac mewn nifer o ffyrdd gwahanol (drwy ganolfannau dynodedig, unedau iaith, ac o fewn ysgolion). Nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymraeg 2050 yw sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn rhan allweddol o wireddu’r nod hwn, oherwydd ei bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau mynediad at y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gydol gyrfa addysgol y disgybl.
Nod yr adroddiad hwn oedd llunio darlun o’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr sydd yn bodoli mewn rhai awdurdodau addysg lleol, a deall rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn codi wrth i’r ddarpariaeth gael ei chynllunio a’i rhoi ar waith.
Sut i ddilyn ymchwil Katharine:
Os hoffech chi ddarllen rhagor o waith Katharine gallwch chi weld ei Phroffil Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cymru drwy law’r ESRC gan glicio yma, a gallwch chi ddilyn Katharine ar Twitter gan ddefnyddio: @KatharineSYoung