Mae gan YGGCC swm cyfyngedig o arian sy’n gallu cyfrannu at dreuliau gwaith maes tramor. Os ydych chi’n fyfyriwr YGGCC sy’n cael eich cyllido drwy ESRC, gallwch wneud cais am gyllid tuag at eich costau. Anfonwch eich cais o leiaf dri mis cyn i chi ddechrau ar eich gwaith maes.
Pwy sy’n gymwys
Rydych chi’n gymwys ar gyfer y lwfans hwn os ydych chi’n fyfyriwr llawn amser wedi eich cyllido drwy ESRC yn elfen ddoethurol eich dyfarniad. Nid yw myfyrwyr rhan-amser yn gymwys i hawlio costau gwaith maes tramor oni bai bod y sefydliad lletyol wedi cytuno i newid i statws llawn amser am gyfnod penodol.
- Gallwch wneud un cais yn unig am dreuliau tramor gwaith maes yn ystod cyfnod eich dyfarniad. Ni ellir gwneud ail gais.
- Rhaid i’ch cais gael ei gefnogi gan eich ysgol a’ch goruchwyliwr.
- Gallwch wneud cais am yr arian hwn os ydych yn gwneud gwaith ymchwil sylfaenol dramor sy’n hanfodol i’ch PhD. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried lle mae achos eich goruchwyliwr am gymorth yn darparu digon o dystiolaeth bod y gwaith maes tramor yn hanfodol i’ch ymchwil.
- Dylai’r gwaith maes tramor arfaethedig naill ai fod wedi cael ei hamlinellu yn eich cais ymchwil gwreiddiol neu ar ddiwedd blwyddyn gyntaf dyfarniad 1+3.
- Os oes gennych ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol ynghlwm wrth grant ymchwil ESRC eich goruchwyliwr, bydd unrhyw waith maes yn cael ei gyllido drwy grant eich goruchwyliwr, ac ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y lwfans hwn.
- Ni fydd unrhyw gyfraniad tuag at gostau gwaith maes yn cael ei awdurdodi os bydd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn cynghori yn erbyn ymweld â’r wlad neu ardal dan sylw. Rhaid i bob taith dramor fod yn destun asesiad risg ffurfiol a chymeradwyaeth adrannol, a allai olygu ystyriaeth ychwanegol o risg COVID-19. Am arweiniad a diweddariadau ar ddiogelwch cyrchfannau tramor gweler yma ag yma.
Ni ystyrir ôl-hawliadau am dreuliau gwaith maes tramor.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â pholisi eich prifysgol ar iechyd a diogelwch mewn gwaith maes a chynnal asesiadau risg priodol, fel sy’n ofynnol, cyn dechrau ar unrhyw waith maes. Gofynnwch i’ch ysgol neu eich Swyddfa graddedigion am ragor o wybodaeth.
Beth sydd wedi ei gynnwys dan y lwfans?
Bydd ymweliadau gwaith maes tramor fel arfer yn para llai na 12 mis. Fodd bynnag, os gellir dangos bod achos cryf dros ymweliad hwy na deuddeng mis, gellir ystyried hyd at 18 mis o waith maes. Ni fyddwch yn gallu gwneud hawliadau ôl-weithredol am dreuliau neu estyniadau i gyfnod y dyfarniad neu ddyddiad cyflwyno’r traethawd hir os ydych chi’n parhau yn y maes am gyfnod hwy na’r hyn y cytunwyd arno’n ffurfiol gyda’ch goruchwyliwr a Swyddfa Gyllid y Brifysgol.
Mae’n rhaid i’r gwaith maes tramor fod yn rhan annatod o’ch PhD a digwydd yn ystod cyfnod y dyfarniad. Diben yr ymweliad fydd cynnal ymchwil sylfaenol, fel ymchwil archifol neu waith maes sy’n hanfodol er mwyn llwyddo i gwblhau eich traethawd. Ni fydd ysgoloriaethau ymchwil yn cael eu hymestyn i adlewyrchu cyfnodau yn y maes. Ni ddylid ymgymryd â gwaith maes yn ystod tri mis diwethaf y dyfarniad.
Os cymeradwyir gwaith maes tramor sy’n para mwy na naw mis, mae’n bosibl y byddai’n briodol naill ai eich bod chi’n dychwelyd un waith i’r Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod hwnnw, neu bod eich goruchwyliwr yn ymweld â chi yn y maes. Dylai’r ymweliad hwn ddigwydd hanner ffordd drwy gyfnod yr ymchwil gwaith maes ac mae’n rhaid ei gyllido o fewn y lwfans a roddir. Ni roddir rhagor o gyllid. Os byddwch yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig i ymgynghori â’ch goruchwyliwr, argymhellir bod yr ymweliad yn para am uchafswm o 10 diwrnod. Ni ellir rhoi estyniad i gyfnod y gwaith maes i wneud iawn am yr amser a dreuliwyd yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig.
Nid yw’r lwfans tramor yn cynnwys treuliau unrhyw aelod o’r teulu sy’n dod gyda chi.
Ni fydd y lwfans tramor yn cael ei gynyddu i dalu am dreuliau ychwanegol unwaith y byddwch wedi dechrau ar eich gwaith maes.
Bydd taliadau yn parhau i gael eu talu yn ystod eich gwaith maes a disgwylir y byddant yn cael eu defnyddio i helpu i dalu costau byw h.y. costau cynhaliaeth. Byddai’r costau gwaith maes tramor cymwys yn cynnwys hediadau i’r cyrchfan gwaith maes ac yn ôl, teithio o fewn gwlad, llety a chostau fisa. Gellir ychwanegu at y lwfans gwaith maes tramor gan ddefnyddio eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Sylwer:
- Os bydd angen defnyddio llety AirBnB, rhaid i chi wirio canllawiau teithio sefydliadol y gwesteiwr ymlaen llaw. Dim ond o dan amodau llym y caniateir defnyddio AirBnB ac mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw opsiynau eraill ar gael. Mae cymeradwyaeth ymlaen llaw gan sefydliad lletyol myfyriwr yn ofyniad ar gyfer unrhyw hawliad treuliau AirBnB.Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â phrosesau archwilio eich ysgol/cyfadran. Mae’n rhaid darparu derbynebau ar ôl dychwelyd o ymweliad gwaith maes tramor. Os bydd y costau’n llai na’r cyfraniad YGGCC a ddarperir, bydd angen ad-dalu’r swm sy’n weddill.Trosglwyddir arian cymeradwy gan Bartneriaeth YGGCC i sefydliad lletyol myfyrwyr ar ôl derbyn dadansoddiad o’r treuliau a achosir ynghyd â derbynebau ategol.
Sut i wneud cais
O ganlyniad i COVID-19, mae sefydliadau YGGCC wedi gweithredu gweithdrefnau newydd ar gyfer teithio dramor, gwaith maes a chasglu data. Gofynnir i fyfyrwyr sy’n gwneud cais i gynllun gwaith maes tramor YGGCC gadarnhau eu bod yn cadw at bolisïau perthnasol gan eu sefydliad cartref. Tra eu bod dramor, rhaid i fyfyrwyr ddilyn unrhyw argymhellion sy’n deillio o asesiad risg eu Prifysgol a chadw at unrhyw bolisi neu ganllawiau a gyhoeddir. Dylai teithio gael ei gwmpasu gan bolisi yswiriant teithio eich sefydliad lletyol a chynnwys sylw mewn perthynas â COVID-19. Siaradwch â’ch adran/sefydliad lletyol am y broses hon.
Mae’r cais gwaith maes tramor ar gyfer cyfraniad tuag at gost ymweliad gwaith maes tramor. Gan mai dim ond ychydig o arian sydd ar gael, ni fydd yr holl gostau’n cael eu talu o reidrwydd. Mae dyrannu’r arian ar gyfer gwaith maes yn unol â’n disgresiwn, a bydd grŵp rheoli PHD Cymru yn goruchwylio’r broses.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais gwaith maes tramor YGGCC ac anfon y ffurflen wedi ‘i chwblhau drwy e-bost i enquiries@wgsss.ac.uk.
Caniatewch o leiaf dri mis rhwng cyflwyno cais a dechrau’r gwaith maes tramor. Rydym fel arfer yn disgwyl y byddwn ni’n rhoi gwybod am benderfyniadau cyllido o fewn dau fis i’r cais.
- Llwythwch i lawr ffurflen gais gwaith maes tramor YGGCC