Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) yn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol lefel uchaf ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas heddiw.
Gellwch fod yn bartner ag Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) i gynnig lleoliad Ymchwil mewn Ymarfer a ariennir gan yr ESRC i ymchwilydd ôl-radd (PGR). Mae’r lleoliadau hyn wedi’u cynllunio i greu cydweithio ystyrlon rhwng ymchwil academaidd ac ymarfer yn y byd go iawn.
Manteision
Mae cynnig lleoliad i ymchwilydd ôl-radd yn rhoi cyfle i’ch sefydliad:
- Ennill capasiti ymchwil ychwanegol ar gyfer gwaith projectau, ymchwil, gwerthusiadau polisi/rhaglenni neu adroddiadau
- Dod â phersbectif newydd i’r sefydliad a helpu i gysylltu ymarfer â’r wybodaeth academaidd ddiweddaraf.
- Helpu i adeiladu a chael mynediad at rwydwaith o ymchwilwyr.
- Rhoi profiad i staff o oruchwylio a gweithio gydag ymchwilwyr.
- Helpu i recriwtio myfyrwyr doethurol
- Hyblygrwydd – Gellir cynnig lleoliadau llawn amser, rhan amser, ar y safle neu o bell i ddiwallu anghenion eich busnes
Gall lleoliadau fod:
Wedi’u cynllunio ar y cyd â’r ymchwilydd i gyd-fynd â nodau a rennir
Neu
Wedi’u datblygu’n annibynnol gan eich sefydliad i gyflawni canlyniad penodol
Costau
- Mae’r Lleoliadau’n cael eu hariannu gan yr ESRC fel estyniad â thâl i astudiaethau PhD y myfyriwr, am gyfnod o 3 mis (neu gyfwerth rhan amser).
- Mae myfyrwyr yn parhau i fod wedi’u cofrestru fel myfyrwyr yn ystod eu lleoliad ac ni allant dderbyn cyflog.
- Os bydd unrhyw gostau cysylltiedig â’r lleoliad e.e. teithio, offer, llety, disgwylir i ddarparwyr y lleoliadau roi cyfraniad gwirfoddol lle bo modd ac os oes angen
Rhwymedigaethau Sefydliad y Lleoliad
Disgwylir i sefydliadau sy’n cynnig y lleoliad wneud y canlynol:
- Darparu rhaglen strwythuredig o weithgareddau neu broject diffiniedig sy’n cefnogi datblygiad sgiliau trosglwyddadwy’r myfyriwr.
- Ni ddylid defnyddio lleoliadau i gymryd lle staff dros dro nac i wneud tasgau ‘busnes fel yr arfer’.
Dylai lleoliadau bara ma 13 wythnos (3 mis) neu’r hyn syn’n cyfateb yn rhan amser.
Pennu pwynt cyswllt pwrpasol i oruchwylio’r myfyriwr drwy gydol y lleoliad.
Mae hyn yn cynnwys cynnig arweiniad rheolaidd, mentora ac adborth adeiladol.
Adolygu a llofnodi’r Cytundeb Lleoliad i gadarnhau disgwyliadau cyffredin ynghylch iechyd a diogelwch a lles am hyd y lleoliad
Cyflwyno ffurflen adborth fer ar ddiwedd y lleoliad
Sut i wneud cais

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cynnig lleoliad, dyma sut i gymryd rhan:
1 – Cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb
Llenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb sydd ar gael ar ein gwefan.
2 – Adologu Cymhwystra
Bydd tîm Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) yn asesu eich cyflwyniad i sicrhau bod eich sefydliad yn bodloni’r meini prawf lleoliadau.
3 – Cyflwyno Cynnig o Leoliad
Os ydych chi’n gymwys, byddwch chi’n cael gwahoddiad i lenwi ffurflen Cynnig Lleoliad fanwl yn amlinellu’r rôl a’r cyfrifoldebau a chewch ein canllawiau lleoliadau
4 – Y Broses Recriwtio
Unwaith y bydd eich cynnig wedi’i gymeradwyo, bydd y lleoliad yn cael ei hysbysebu i’n carfan o fyfyrwyr. Bydd eich sefydliad yn rheoli’r broses o lunio rhestr fer a chyfweld.
5 – Ymgynefino’r Myfyriwr
Ar ôl dewis ymgeisydd llwyddiannus, dychwelwch y Cytundeb Lleoliad wedi’i lofnodi. Yna gall y lleoliad ddechrau.
.
Am fwy o gwybodaeth cysylltwch â:
Sian Shepherd: esrcrip@bangor.ac.uk
