
Mae Agoriad yn gyfnodolyn mynediad agored ar-lein sy’n cael ei reoli a’i olygu gan ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth gan dîm rheoli golygyddol. Mae Agoriad yn cyhoeddi ymchwil o safon uchel ar ddadleuon damcaniaethol allweddol mewn Daearyddiaeth a meysydd cysylltiedig yn ogystal â darparu proses gyhoeddi gefnogol i ymchwilwyr. Cyhoeddir y cyfnodolyn gan Wasg Prifysgol Caerdydd a’i gefnogi gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC).
Mae pob rhifyn o Agoriad yn cael ei drefnu o amgylch testun damcaniaethol sy’n gysylltiedig ag Ysgol Theori Gregynog, sef cynhadledd ôl-raddedig flynyddol a gynhelir gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y cyfnodolyn yn 2024, ar y thema ‘Ontolegau Brodorol,’ a bydd yr ail rifyn, ar y thema ‘Meddwl drwy deilchion,’ yn cael ei gyhoeddi yn 2025. Mae’r rhifyn ar ‘Daearyddiaethau’r Da: cariad a chasineb mewn byd sydd wedi’i bolareiddio’ yn cael ei gyhoeddi yn 2026. Bydd yn cynnwys erthygl gan, a chyfweliad, â’r Athro Linsey McGoey, o Brifysgol Essex, a fydd yn bod yn brif siaradydd yn Ysgol Theori Gregynog eleni.
Galwad am Bapurau: Rhifyn arbennig ar ‘Daearyddiaethau’r da: cariad a chasineb mewn byd sydd wedi’i bolareiddio’, ar gyfer Agoriad: A Journal of Spatial Theory
Golygyddion:
- Bethan Hier, Prifysgol Abertawe;
- Bingfu Ding, Prifysgol Caerdydd;
- Erin Rugland, Prifysgol Caerdydd;
- Mengyuan Wang, Prifysgol Caerdydd;
- Ali Yavuz, Prifysgol Caerdydd;
- Sarah Tierney, Prifysgol Abertawe/Coleg y Brenin, Llundain
Mae tîm golygyddol Agoriad yn chwilio am gyflwyniadau i rifyn arbennig ar y thema ‘Daearyddiaethau’r Da: Cariad a Chasineb mewn Byd wedi’i Bolarieddio‘, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn 2026 (gweler y Cais am Bapurau llawn isod). Mae’r alwad hon yn agored i ymchwilwyr ym mhob cam o’u gyrfa. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cyflwyniadau gan ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Galwad am Bapurau: Daearyddiaethau’r da: cariad a chasineb mewn byd sydd wedi’i bolareiddio
Mae cwestiwn ‘y da’ wedi bod yn ran o hanfod athroniaeth ers canrifoedd. Unwaith y byddwn yn penderfynu beth sy’n real ac yn wir, beth sy’n wirioneddol bwysig, yna gallwn ddysgu o’r diwedd sut i fyw bywydau da, trefnus a moesegol; sut i fyw’n dda a marw’n dda. Ac eto, mae’r drefn ryddfrydol gyfoes yn tueddu i drin y da fel mater o gyfrifo ac optimeiddio yn unig: sut mae pwyso a mesur rhyddid yn erbyn cyfyngiadau? Sut ydyn ni’n dosbarthu’r da a’r drwg mewn dull cyfiawn? Beth yw agwedd gytbwys tuag at boen a dioddefaint? Wrth i’r drefn ryddfrydol hon gael ei dadwneud mewn byd sydd wedi ei bolareiddio fwyfwy, daw llu o gwestiynau brys a phwysig i’r amlwg. A yw hyrwyddo rhyddid yn well na meithrin hunan-ataliaeth neu ddyletswydd? A yw cyfrifiad sy’n seiliedig ar ddoethineb hynafol neu destun cysegredig yn well na rhai sy’n seiliedig ar gysyniad goleuedigaeth o’r hunan? Ai dim ond trwy ganlyniadau y gellir mesur y da? Os felly, beth yw’r lefel gywir o dda? Neu faint o ddioddefaint sy’n dderbyniol? A ellir optimeiddio da a drwg, cariad a chasineb, tawelwch a dicter? Wrth i’r gorffennol, y presennol, a’r dyfodol dywyllu fwyfwy yng nghysgod cymaint o ddrwg, pa obaith sydd y bydd y da yn ennill y dydd yn groes i bob disgwyl? Beth yw’r agweddau daearyddol a gofodol ar gyfrifo ac optimeiddio? Efallai gall daearyddwyr a damcaniaethwyr gofodol ein helpu i feddwl y ‘da’ mewn termau heblaw cyfrif yn unig? A yw da a drwg, cariad a chasineb, tawelwch a dicter yn eu hanfod yn anfesuradwy? Os felly, a allai daearyddiaethau ‘da’ y dyfodol fod y tu hwnt i amgyffred cyfrifo?
Anogir cyflwyniadau sy’n archwilio ‘daearyddiaethau’r da’ mewn ffyrdd newydd ac adfywiol, sy’n ymgysylltu â thrafodaethau anodd rhwng cysyniad cyfrifadwy ac anfesuradwy o’r ‘da,’ ac sy’n ymchwilio i sut mae’r trafodion hynny’n amlygu eu hunain mewn gwleidyddiaeth gyfoes a pharthau eraill bywyd – a marwolaeth – sy’n effeithio nid yn unig ar fodau dynol ond hefyd ar leoedd a thirweddau, planhigion ac anifeiliaid, ynghyd â’r ddaear ei hun. Gall cyflwyniadau ystyried cwestiynau yn cynnwys:
- A all fod daearyddiaethau ‘da’? Lleoedd a lleoedd ‘da’? Bydoedd ‘da’ a dyfodol ‘da’?
- I ba raddau y mae’n angenrheidiol ac yn ddefnyddiol damcaniaethu’r ‘da’ yn ddaearyddol ac yn ofodol?
- A oes hawl gan bawb (a phopeth) i fyw / bodoli (a marw) mewn ffordd ‘dda’? A oes arnom ni ein hunain a’n gilydd alar ‘da’? A yw hynny’n hawl dynol (ac annynol)?
- Beth yw’r berthynas rhwng daearyddiaethau ‘da’, daearyddiaethau ‘moesol’, a daearyddiaethau ‘moesegol’? Sut mae mapio rheiny ar ddaearyddiaeth ‘wleidyddol’ o’r Chwith a’r Dde, chwyldro a gwrth-chwyldro, gwyriad a chymedroli? A fyddai daearyddiaethau ‘da’ yn radical neu’n eithafol?
- Beth yw’r berthynas rhwng ‘da’ a ‘chariad’? A fyddai daearyddiaethau ‘da’ hefyd yn ddaearyddiaethau ‘hyfryd’? Ai dyna ddylai daearyddwyr ‘da’ ei ddymuno?
- A oes modd cael cenedlaetholdeb ‘da’? Economi wleidyddol ‘dda’? Cyfalafiaeth ‘dda’? Neu hyd yn oed cartref ‘da’ – o’r domestig i’r planedol?
- A oes modd i’r ‘da’ fod yn wleidyddol ddefnyddiol mewn byd sy’n gynyddol wedi ei bolareiddio?
- A yw cwestiwn y ‘da’ bob amser yn ei hanfod yn ddiwinyddol? Os felly, beth fyddai’r berthynas rhwng y daearyddiaethau ‘da’ a ‘duwiol’?
Rydym yn croesawu cyflwyniadau gan Daearyddiaeth a disgyblaethau cyfagos sy’n archwilio sut mae syniadau, cysyniadau, a dealltwriaeth y byd o’r ‘da’ yn agor sgyrsiau cymhleth am gariad, casineb, cenedlaetholdeb, gwleidyddiaeth, crefydd, a mwy. Bydd hyn yn dyfnhau ein dealltwriaeth o gwestiwn athronyddol y ‘da’ a’i agweddau daearyddol a gofodol. Gall cyflwyniadau fod ar ffurf erthyglau ymchwil (hyd at 10,000 o eiriau), erthyglau byr (hyd at 4,000 o eiriau), a chyfraniadau creadigol (hyd at 4,000 o eiriau).
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno erthygl neu gyfraniad creadigol i’r rhifyn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y cyfle hwn, yna cysylltwch â’r tîm golygyddol ar Agoriad@caerdydd.ac.uk erbyn 1af Mehefin 2025. Rydym yn hapus i dderbyn mynegiadau anffurfiol o ddiddordeb ar hyn o bryd, yn ogystal â theitlau dangosol neu grynodebau, ac rydym yn awyddus i gefnogi awduron ar eu taith o’r cyflwyniad cychwynnol hyd at y cyhoeddiad terfynol.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau: 31 Gorffennaf 2025.
Manylion cyflwyno: https://agoriad.cardiffuniversitypress.org/about/submissions
Agoriad: Cyfnodolyn damcaniaeth ofodol – Gweminar.
Bydd YGGCC yn cynnal gweminar ar 22 Tachwedd i gyflwyno ontolegau Cynhenid a’r broses o gyflwyno erthyglau i Agoriad.